Skip to main content

Y GEEAL. MEDI, 1856. SEFYLLFA AC AMGYLCHIADAU MOESOL Y CYMRY YN LLUiNDAIN. Hínaws Olygydd,—A fyddwch chwi morhyfwyn a chaniatâu i mi gongl fechan yn eich Misolyn clodwiw am y mis rìy- fodol, er annerch fy mrodyr a'm cydulad- wyr serchus, yn Nghymru, âg ychydig o hanes ein cydwladwyr a'n cydgencdl yn y Brif-ddinas. Yn ddiammheu fod achos y Cymry yn Llundain yn wir deilwng o sylw mwyaf tosturiol holl eglwysi y dywysogaeth. Bernir fod yma fwy na deugain mil o Gymry yn byw a chyfaneddu, ac nad oes rhagor na deng mil, ar yr eithaf, o'r cyfryw yn myned i un lle o addoliad, na Sabbath nac wythnos; tua phum' mil at y Saeson, a'r pump ereill i leoedd addol- iad Cymreig yn mhlith y gwahanol en- wadau ; dyna yr eithaf, os nad ydy w yn ormodiaith. Mae yn sicr na chynnwys lioll leoedd addoliad, yn mhlith Cymry Llundain, ddim mwy na phum' mil, a'u bod oll yn orlawn ar unwaith—yna byddai yn weddill ddeng mil ar hugain ljeb fyned i un lle addoliad, o flwyddyn i'w gilydd. Mae yma filoedd o Gymry, addygwyd i fyny yn yr hen wlad mewn teuluoedd crcfyddol, a chan rieni cref- yddol, a llawer o honynt wedi bod un- waith yn grefyddol eu hunain, yn waeth eu cyflwr nac anwariaid Affrica, nad 3'dynt un amser yn talu cymmaint parch j Air Duw, a myned i'w wrando, ond jluoedd o honynt yn ddirmygwyr ac er- hdwyr dychrynllyd; amrai yn eu plith yn argymmeryd arnynt i fod yn An- nyddwyr o'r fath waethaf—ereill yi> Bab- yddion a Seintiau y dyddiau diweddaf, a mwy yn dilyn y lliaws o wehilion Llundain, yn feddwon, puteinwyr, llad- *on, &c, &c, "Y rhai sydd gas gan- odynt Dduw, yn bwyta pechod fel bara, acynyfed anwiredtí fel dwfr." Anni- chonadwy i neb roddi darluniad hanner mor ddued ac ydyw, o gyflwr isel a thru- j-nus miloedd o'n cydgenedl yn y lle nwn; ac mae arferion drwg y lle, trwy eu mynychu a'u hir arfefj wedi mvned jeiail natur i lawer o honynt. Nesaf Peth i wyrtn fyddai darbwyllo llawer o "onynt er dyfod i dŷ addoliad, ac i gym- Qeitnas brydferth o ddynion. Mae yn debyg fod yma rai miloedd o Gymry nad oes ganddynt ddillad cyfaddas i guddio eu noethni mewn syberwyd, er ymddang- os mewn cynnulleidfa o ddynion. Mae pob ceiniog a allant gael gafael arni yn cael ei gwario yn y gin palases, a thafarn- dai, er porthi eu blys anifeilaidd ac au- niwalledig. Mae yn eithaf gwir mai hyn, neu waeth, yw cyflwr lliaws mawr o Gymry Llundain. Wrth roddi darlun fel hyn am liaws, nid ydym yn meddwl yr oíl o'r Cymry yn Llundain ; O na, trwy drugaredd, mae yma gannoedd, o leiaf, o ragorolion y ddaear, a'u cymmer- iadau yn uchel gyda Duw a dynion da, ac yn teimlo i'r byw dros eu cydgenedí sydd wedi myned mor isel allygredig, ac yn llwyr foddlon i wneuthur unrhyw aberth, yn ol eugallu, tuag at eu hadfer- yd o'r fath sefyllfa isel. Ond y pwnc yw, Beth sydd i'w wneuthur? nid oes obaith, heb arfer moddion priodol. Mae yn ddiau fod yr achos yn bwysig, a phwysig iawn, i holl Gymiy, o'r bron, oblegyd y mae y fath gyssylltiad rhwng y Brif-ddinas a Chymru y dyddiau pre- sennol, trwy rwyddineb a rhadlonrwydd teithio efo y Railways, fel, mewn ystyr, mae Llundain wedi dyfod yn gyfagos i bob rhan o Gymru; ac y mae cyflwr moesol Llundain yn sicr o efteithio yn niweidiol iawn, neu yn llesiol ar Gymru. Mae yma gannoedd, os nid miloedd, o Gymry yn dyfod yn flynyddol, i fywiol- aethu i Lundain, a'r rhan amlaf, o lawer, o'r cyfryw yn bobl ieuainc, yn feibion a merched, i ymofyn am sefyllfaoedd a gwasanaeth yn y lle mawr a drygionus hwn; ac mewn ieuengtyd yw y tymhor hawddaf o lawer i ddylanwadu ar ddyn, er ei lithro i ddrygioni a bywyd afradlon, neu ei sefydlu mewn egwyddorion da a rhinweddol. Nid oe§ nemawr deuìu, rhwng Caerdydd a Chaergybi, neu o Glawdd Offa i Dý-ddewi, nad oes iddyni eu perthynasau yn Llundain, a rhai o'r cyfryw yn agos iawn, sef .plant, ŵyr- ion, cyfyrdderwyr, cyfnitherod, &c, a mwy-fwy a fydd o hyn fcl y niae pobl- ogrwydd yn cynnyddu, a chyflensdra teithio yn ymrwyddhau. Mae Llundaiu, 25