Skip to main content

Y GEEAL. MEHEFIN, 1856. DEONGLIAETH.-EFUGYEAU Y BEIBL RHIF XX. HINA PLEROTHE=fWy cyftawnid. Mewn ymchwiliadau cyfunryw â'r sawl sydd dan sylw, dylid gocnel yn ofalus rliag myntumio unrhyw olygiad eithafol; yn neillduol, dylem ymogelyd rhag tybio fod i'r Ysgrythyr Lân fwy nag un ystyr. Un o egwyddorion sylfaenol Deongíiaeth yw, Nad yw yr Ysgrythyr- au yn aml-ystyr, eithr mai un ystyr sydd iddynt. Pan ganfyddir, gan hyny, bod y ffuifair fel y cyftawnid, yn cyfeirio at ddau wrthddrych, nid amgen, y cysgod a'r sylwedd, neu yr arwyddlun a'r gwir- eddiad, ni ddylem feddwl fod dau gyf- lawniad iddynt yn cyfateb -i'r unrhyw, un yn pertnyn i'r Hen Destament, a'r llall i'r Newydd; un yn cyfeirio at y gyfraith, a'r llall at yr efengyl; nid dau gyflawniadydynt, eithr cymhwysiaddeu- blyg o'r un ymadrodd neu ddarlun. Y mae y naill yn rhan o'r cyflawniad, a'r llall yn gwblhad o henô; y naill yn fras- linelliad anmherffaith, a'r llall yn ber- ffeithiad o'r darlun. Feí y gwelir yr arliw- iedydd yn gyntaf yn defnyddio ei bwynt- el, ac yn tynu amlinelliad (shetch) o'i arlun, ac wedi hyny yn ei liwio ac yn ei orphen yn berffaith ; felly yr oedd gyda goiwg ar yr Hen Destament a'r Newydd. 0 dan y gyfraith, y mae genym fraslun anmherffaith o'r "pethau sydd yn nglyn âg iachawdwriaeth,"ond o dan yr efeng- yl, y mae genym y gwirionedd ei hun. " Y gyfraith—y braslinelliad, a roddwyd trwy Moses—y gwirionedd—y darlun pertfaith—a ddaeth trwy lesu Grist." Mae awdwr y llythyr at yr Hebreaid yn dysgrifio y syniad hwn mewn modd eff- eithiol a hapus: y darlun amlinelledig megys â'r pwynteí, y mae yn ei alw yn £ysgod daionus bethau a fyddent;" eithr y darlun wedi ei berffeithio y mae yn ei alw yn "wir ddelw y pethau." (Heb. x. 1 ) Y bwriad cyntaf o berth- ynas i'r mater hwn, oedd myned drwy yr holl destynau lle yr arfenr y ffurfair ucnod, ac o ganlyniad, rhaid brysio yn Mat. xxvii. 9,10. " Yna y cyflawnwyd }r hyn a ddywedwyd drwy leremias y prophwyd, gan ddywedyd, A hwy a gym- merasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feib- ion Israel, ac a'u rhoisant hwy am faes y crochenydd, megys y gosododd yr Ar- glwydd i mi." Yn ol yr Hebraeg, cawn y darlleniad canlynol, (Zech. xi. 13.) " A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Bwrw ef i'r croch- enydd; pris teg, â'r hwn ym prisiwyd ganddynt. A chymmerais y deg ar hug- ain arian, a bwriais hwynt i dý'r Ar- glwydd, i'r crochenydd." Mae v deg a Thrigain yn amrywio oddiwrtn 'bob un o'r ddau ddarlleniad uchod. "Bwrw hwynt i'r ffwrn (lle toddi), a mi a edrychaf a ydynt yn gym- meradwy, yr un modd ag ym cymmer- adwywyd (profwyd) ganddynt. A mi a gymmerais y deg ar hugain arian, ac a'u bwriais hwynt i dŷ'r Arglwydd,i'r dodd- fa." Mae Beirniadaeth, yn gystal a Deongl- iaeth y testyn hwn, yn amlenedig mewn dyryswch ac anhawsder tuhwnt i ddim a gyfarfuasom braidd erioed. O ber- thynas i Feirniadaeth, neu benderfyniad cywirdeb neu annghywirdeb y testyn, yr hyn sydd yn dwyn perthynas â'i awdur- iaeth sydd yn teilyngu y sylw blaenaf. Yr hyn sydd wedi achlysuro y dyryswch o berthynas i hyn, yw, Bod yr efengylwr yn priodoli y geiriau i leremiah, pan mai yn Zechariah y ceir hwynt, yn ol y canon sydd genym ni. Er mwyn cyssoni yr apostol â'r canon, tybia rhai nad oedd enw unrhyw brophwyd yn y cysgrifau gwreiddioì; ac mai "drwy y prophwyd " ydoedd, ac nid"drwy leremias y pro- phwyd." Hysbys yw fod adysgrifenwyr cysgrifau yn arfer aefnyddio lliaws mawr o dalfyriadau, ac oblegyd hyn, y mae rhai beimiaid yn meddwl y gallai y tal- fyriadau o'r enwau Ieremiah a Zechar- iah fod mor debyg i'w gilydd, nes ach- lysuro camgymmeriad y naill am y lla.ll. .0 berthynas i'r testyn hwn, y mae Hengstenberg yn sylwi, " Bod enwau y prophwydi lleiaf yn cael eu crybwyll 1C