Skip to main content

Y GBEAL. CHWEFROR, 1856. DEONGLIAETH.-FFUGYRAU Y BEIBL. RHIF XVI. . HINA — Fel, nes, hyd onid. Nid 088 ond ychydig o bethau yn fwy dyddorol, yn gystal ag adeiladol, i'r meddwl duwiolfrydus, nag astudio yn ddyfal yr amcanion a'r dybenion sydd yn trydreiddio pob gwrthddrych trwy y creaduriaeth, ac yn cyfeirio ein bryd at ryw Ddealltwriaeth annherfynol sydd yn tryweled, a Doethineb amryfal sydd yn llywio milfiloedd o achosion terfynol, ac israddol, arhyw un Dyben mawr, arben- ig, sydd i gael ei ateb trwyddynt oll. Mae yr athrawiaeth o Achosion terfynol (final causes) wedi tynu sylw athronwyr pob cenedl ac oes o'r bron : yr oedd yn destyn rhai o gyfansoddiadau mwyaf coethedig y Groegiaid; ac fe ysgrifen- odd Cicero yn ysplenydd arno, mewn llawer o'i draethodau; ac y mae un o'r traethodau mwyaf meistrolgar ac ymre- symiadol wedi ei gyfansoddi ar y pwnc, yn yr iaith Seisonig, gan y diweddar Dr. Paley, dan y titl o " Ddwyfyddiaeth An- ianyddol," (Natural Theology.) Afraid ychwanegu fod yr athrawiaeth hon yn treiddio trwy holl Ysgrythyrau yr Hen Destament a'r Newydd—y mae, mewn gwirionedd, yn hanfodol i bob cyfundrefn grefyddol, yn gymmaint ag nas gellir credu mewn Hanfod Dwyfol heb gyd- nabod yr egwyddor hon; ac, fel mae gwaetha'r modd, y mae llawer mwy o hono i'w ganfod yn Chwedloneg {Myth- °l°3y) y Paganiaid nag sydd mewn llaw- er cyfundraeth grefyddol ddiweddar; yno y mae y duwdebau yn ymyraeth agos yn mhob achos. Gellir dosbarthu y wyddoneg o Ddybenwyddeg (teleolo- ff'j) i ddau rith neu rywogaeth ; nid am- gen, anianyddol a moesol; y naill yn golygu achosion terfynol fel y maent ỳn penhyn i ddefnydd a phethau amddifad o ymwybyddiaeth, yn cymmeryd i mewn hefyd y greadigaeth anifeliol; a'r llall yn dal perthynas â gweithredoedd cre- aaunaidrhesymol. Y mae achosion ter- îyrjol, neu fel y dywedir yn gyífredin, ûyben, yn un o briodoleddau pob gwrth- ödrych y sylwn amo; nid er ei fwyn ei nun y gwnaed dim> y mae y berthynas o achos ac effaith, moddion a dybenion, yn rhwymo yr holl fydysawd yn nghyd. Y mae pob aelod, cynneddf, a synwyr perthynol i'r corph dynol, yn arddangos dybenion, at y sawl y maent yn cyfeirio, ac yn y rhai y maent yn terfynu. Gyda yr un faint o reswm a phriodoldeb, gellir dywedyd fod achosion terfynol yn per- thyn i bob gweithred o'r eiddo cre- aduriaid rhesymol ; a phan na byddo y gweithredydd personol ei hun yn ymwybyddus o amcan neillduol yn rhai o:i weithredoedd, y mae y Goruch- wyliwr mawr, yn llywodraethu ac yn trefnu y cwbl i ateb ei ddybenion ei hun a'i ogoniant; ar air, y mae amcan neu ddyben fel pe bai wedi ei argraffu yn ddarllenadwy ar bob peth. Ymddengys fod duwioldeb, neu yn hytrach, duwiol- frydedd, yr Iuddewon yn rhagori ar yr eiddo unrhyw genedl arall yn y byd ; a pha beth arall y gelwir yr arferiaeth (habit) hòno oedd yn nodweddiadol o honynt,—edrych ar bob peth yn ei gys- sylltiadâ Duw; acnidoesunrhywhanes- yddiaeth mor llawn o Dduw, a hanes y genedl Hebreig; yr oeddynt yn fwy cynnefin ac adnabyddus â Duŵ nag un pobl arall ar y ddaear; ac yr oedd eu harferiadau crefyddol, gwastadol, dydd- iol, wythnosol, blynyddol, a'r rhai hyny wedi eu cyssyíltu â rhyw ddygwyddiad- au a chyfryngiadau yn eu ff'afr, yn peri eu bod yn edrych ar bob dygwyddiad yn ei berthynas â Duw, a bod ganddo Ef law arbenig yn mhob peth a gymmerai íe yn eu plith; yr oeddynt yn golygu amgyìchiadau a ystyrid gan ereill megys damweiniau, yn effeithiau amcan a rhag- luniaethiad yr Hanfod Hollalluog a Holl- ddoeth ; a phe buasai Hanesydd eu cen- edl a'u hamgylchiadau yn dygwydd bod yn Herodotus neu Tacitus, buasent yn dywedyd, o berthynas i lawer o bethau, eu bod wedi dygwydd"FEL y cyflawn- wyd„" nid " Fex y cyflawnií/," rhyw bethau ereill. Mae y geiryu cyssylltia4ol a ddodwyd uwch ben yr erthyel hwn, set "Fel," yn