Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. IONAWR, 1856. DEONGLIAETH.-FFUGYRAU Y FEIBL. Y Bannod a'r Cyssylltair.—Y Cymhwysiad. Mae darganfod elfenau neu eg- wyddorion dechreuol gwybodaeth, a'u cymhwyso i brofi ac egluro gwirionedd- au ereill, yn bethau sydd yn gwahan- iaethu oddiwrth eu gilydd, ac yn bethau a gyflawnir trwy weithrediad meddyliol neu ddull o ymresymu neillduol iddynt eu hunain. Dywed Bacon, yr hwn yn gyfiawn a ystyrir megys tad athroniaeth gyfosiadol (inductive philosophy)—îoà gwirionedd i'w chwilio allan, ac nid i'w ddyfeisio neu eifeddwl allan (excoyitan- dum.) Dechreua y meddwl trwy sylwi, fe ddichon, ar un ffaith; yna â yn mlaen a chenfydd un arall, ac felly yn mlaen, nes casglu nifer lliosog o honynt at eu gilydd; ac wedi cael allan fod yr un peth yn dygwydd, a'r un canlyniad yn hanfodi, o dan amgylchiadau pennodol, gynnifer a hyny o weithiau, gellir cym- meryd yn ganiatâol, heb chwilio pob ffaith yn y greadigaeth, mai felly y mae pethau yn bod yn gyffredinoi—fod yr un effeithiau yn dilyn yr un achosion— yr un canlyniadau yn dilyn yr un blaen- fedion (antecedents); yr hyn sydd yn wastad yn gwneutnur y peth hwnw yn ddeddf neu reol sefydlog a digyfnéwid. , Y gweithrediad neu y process meddyliol [ trwy yr hwn y chwilir allan ac y pen- derfynir y cyfryw ffeithiau cyffredinol ne" ddeddfau, pynag ai perthyn i'r cel- j yddydau a'r gwybodau, ynte i iaith, y j byddont—y drefn o ymresymu, meddwn, J trwy yr hwn y sicrheir y cyfry w egwydd- ' orion, a elwir cyfosiad (induction); a thr^y ymresyrniad cyfunryw y ffurfir P0D rheol mewn Grammadeg, ac y pen- derfynir ystyr geiriau mewn ieithoedd anarferedig,^ yn gystal ag ystyr geii-iau 0 *rwyddocâd ammheus mewn ieithoedd arferedig. Felly ycyfansoddodd John- 8on ei Eiriadur mawr i'r iaith Seisonig, aç felly y gWnaeth ein Dr. Owen Pughe mnnau ei Eiriadur mawr Cymreig. Y "}ae canfod unrhyw air pennodol yn cael « arter mewn ystyr neìllduol, yn ffaith mewn Ieithyddiaeth neu Eiriaduriaeth ; ac wedi cael allan fod yr un gair yn meddu yr un ystyr mewn nifer lliosog o fanau, y casgliad rhesymol yw, mai yr un syniadau a gyssylltir âg ef yn mhob man, ac felly penderfynir mai hyny yw ei ystyr. Yr ydym wedi gosod o flaen y darllenydd, yn yr ysgrif ddiweddaf, ddigonedd o ffeithiau i gadarnhau y rheol sydd genym yn awr o dan ein sylw ; ond y mae dull arall o resymu yn anghenrheidiol er gwneyd defnydd o'r rheol i broíì ac egluro ffeithiau nad yd- ynt yn cael eu cynnwys o fewn cylch yr ymresymiad cyfosiadol. Y dull hwn a elwir y dull casgliadol (deduction.) llhaid fod yr holl ffeithiau yn y cyfos- iad neu yi ìnduction, yn hunanbrofedig, neu eglur ynddynt eu hun.ùn ; oblegyd nis gellir proíi peth arall trwy yr hyn sydd eisiau ei brofi ei hun, ac nis gelllr dwyn i mewn i'r cyfosiad bethau sydd i"w profi trwy y rheol a sylfeinir arno. Gall na bydd pob ffaith, ar ei phen ei hun, o nemawr werth na phwys ; ond er- byn eu casglu yn nghyd, a thynu o hon- ynt egwyddor gyft'redinol neu ddeddf sefydlog, gall hòno, pan eu cymhwyser yn briodol, fod o ddefnydd mawr i eg- íuro a phrofi pethau ereiîl. Oddiwrth y casgliad o ffeithiau, neu yr induction yn yr ysgrif ddiweddaf, yr ydym wedi cael allan un o ddeddfau yr ìaith i'r hon yr ymddiriedwyd yr Orac- lau Bywiol: a'n dyledswydd yn awr yw ei chymhwyso, yn ol y dosbarth casgl- iadol (deductwe) o ymresymu, er deongli ac eglurhau testynau o'r Ysgrythyr Lân a gydnabyddir gan bawb o'r pwys mwy- af. Y mae hanesyddiaeth, yn gydweûd â'n profiad personol, yn ein dysgu fod y darganfyddiad o egwyddorion neu ddeddfau naturiaeth, a'r cymhwysiad o honynt er gwasanaethu y lles cyffredin, yn bethau cwbl wahanol—gellir gwneu- thur y naill, heb y Uall, yn flaeoorol iddo, ac annibynol arno. Yr oeddid wedi dyfod yn adnabyddus o allu neu rym peiriannol agerdd yn hir cyn gallu ei gymhwyso i gludo cerbydau o'r naill fan i'r llall. Yr oedd llawer o briodol-