Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. HYDREF, 1855. DEONGLIAETH.-FFUGYRAU Y BEIBL. RHIF XII. CYFOCHREB (Parallelism.) Y rhan fwyaf o'r Hen Destament sydd farddonol yn ei gyfansoddiad, er niai y Salmau, Iob, a'r Diarebion yn unig a elwir yn gyfFredin yn llyfrau barddonol. Er hyn oîl, y mae arddull yf ysgrifen- iadau hyn yn bur annhebyg i'r hyn a elwir barddoniaeth mewn ieithoedd er- eill, gan mwyaf. Nid yw gynnwysedig niewn mesur, yn gyffelyb i fydraeth y (jroegiaid a'r Rhufeiniaid, a'r eiddo pob cenedl arall o'r braidd; a llawer llai y mae yn gynnwysedig mewn cynghan- edd, fel y rhan fwyaf o farddoniaeth Ewrop ddiweddar ac Asia. Yn ei ft'urf a'i gyfansoddiad, gwahaniaethid bardd- oniaeth yr hen Hebreaid oddiwrth rydd- iaith, yn benaf, os nid yn unig, trwy fyr- dra ymadroddiad, a gwasgn y syniadau niewn ffordd o ad-ddywediad, cynihar- iaeth, neu gyferbyniaeth. O herwydd paham, y mae iddo neillduolion ymad- rodd, nid amgen, y defnyddiad o eiriau neillduol, ffurfiau geiriau, ac yn mlaen. Eithr ei brif nodweddiad yw, yn yr hwn, mewn ffaith, y mae ei fydryddiaeth yn gynnwysedig, cyfartaledd neu gyfateb- iaeth mewn meddwl ac ymadrodd rhwng adranau brawddeg, yr hon yn ei ffurf symlaf a gynnwys ddau aelod. Oddi- yma, gelwir barddoniaeth neu fydraeth Hebreig yn gyffredin cyfochreb ( paral- Isiism), yr hwn fì'ugyr sydd wedi ei gym- eryd oddiwrth ddwy linell union yn gor- wedd ochr yn ochr, a hyny yn yr un bellder oddiwrth eu gilydd yn mhob man. Y mae yn gyffredin o wasanaeth hanfodol i ddeongliaeth yr ysgrythyr, medru adnabod y cyfochreb hwn. Y |<iae lliaws o ymadroddion, y gellir trwy »yn cael allwedd i'w hystyr priodol. Er engraifft, yn Salm lxxvi. 2. " Ei babell «efyd sydd yn Salem, a'i drigfa yn Sei- °n." Buwyd yn amheu ai ìneddwl y gair «yn Salem," oedd "mewn hedd- wch," ynte yn y lle hwnw a elwid Salem, neu Ierusalem, oblegyd gall feddwl pob uno'rddau; ond y mae amheuaeth yn «ifianu ond i ni sylwi ar yr adran olaf °r frawddeg; oblegyd y mae "yn Sei- on" yn sefyll yn gyfochrog â'r gair mewn d.adl, ac ar unwaith yn penderfynu mai " yn Salem " a feddylir. Y gwahanoi ddulliau o osod allan y cyfochrebau hyn, a wnant i fyny yr am- rywiaethau perthynol i'r arddull fardd- onol, a'r penaf o ba rai yw y canìynol:— 1. Telynegion: yn gynnwysedig gan mwyaf, o'r fath gyfansoddiadau a'r Sal- mau,—tywalltiadau o feddyliau duwiol- us. 2. Arwrgerdd, megys llyfr Iob,—o'r hyn lleiaf y mae hwn yn tebygoli i'r Arwraidd, yn fwy nag i unihyw gyu- nyrchion o'r eiddo yr Awen glasurol. 3. Athrawiaethol, megys y Diareb- ion. 4. Bugeilegion, y cyfryw a BueoUcn neu Idyls y Groegiaid a'r Rhufeiniaid; i'r cyfryw ddosbarth y perthyn Cân y Caniadau. 5. Barddoniaf.th Bropiiwydol, o'r sawl y mae genym yr engreifftiau goreu yn y Uyfrau prophwydol boreuaf,— Ioel, Esaiah, Habbacuc, ac yn mlaen ; oblegyd yn y rhai diweddaraf, Eseciel, Haggai, Sechariah, nid yw yn gwahan- iaethu nemawr oddiwrth ryddiaith. Cyfochreb a wahaniaethir yn gyffred- in i dri math, yn ol y berthynas mewn synwyr rhwng ei adranau cyfatebol, yr hon berthynas a all fod yn un gyfystyr- ol, gwrthystyrol, neu eglurhaol. 1. Cyfochreb cyfystyrol. Yn hwn y mae yr ail adran yn cynnwys ad-ddy- wediad, fwy neu lai, o'r gyntaf. Diar. VI. 2. <lTi a faglwyd â geiriisu dy enau, Ti a ddaliwyd â geiriau dy enau." Iob v. 6. " Canys ni ddaw cystudd allan o'r pridd: Ac ni thardd gofìd alìan o'r ddaear" Weithiau y mae aelodau y cyfochreb yn gynnwysedig o ddwy ran ; ac yna ni a gawn bedwar adran ; megys yn Gen. iv. 23. " Ada a Sìla, cly wch fy Uais; 28