Skip to main content

Y GREAL. AWST, 1855. DEONGLIAETH-FFUGTRAU Y BEIBL, DTFFYGIAITH, (Elììpsis). Monon=#« unig: Oüchi, alla=wo, ond. Mae enw y ffiigyr hwn, sef ellipsis, yn arwyddo yn briodol y darlun hirgylch- aidd {geometrical ftgure) sydd ar ddull ŵy, ac y mae yn cyfeirio at y diífyg sydd yn hwnw o fod yn gylch cyflawn, fel ol- wyn. Y mae y ft'ugyr yn rhagdybied fod rhywbeth cyfatebol i hyny mewn iaith ; yr hyn, hefyd, sydd adnabyddus i bob Gramadegydd. Y mae yn cyfodi oddiar yr arferiad o adrodd ein syniadau mewn can lleied o eiriau ag sydd bosibl, cyd y bo hyny yn cydfyned âg eglurdeb ac yn peidio tywyllu yr ystyr; oblegyd peth hawdd ydyw cyflenwi j' diffygiaith i bob un sydd yn weddol gynnefin â dar- llen, yn enwedig ysgrifenu. Y deífiniad priodol o Ddiff'ygeb, gan hyny, ydyw, Gadawiad allan rhyw air neu eiriau, y sydd anghenrheidioì i yyftenwi y synwyr. A chan fod gan yr ysgrifenwyr cysegr- lân, fel ereill, eu harddull, gellid dysgwyl y buasai mwy neu lai o hyn yn nodwedd- iadu eu cyfansoddiadau. Weithiau y mae y cyfieithwyr wedi cyflenwi y DifF- ygebion hyn, y rhai y gellir eu hadnabod trwy eu bod wedi eu hargraffu mewn llythyrenau italaidd neu geimion ; waith arall, y maent wedi dodi y cyfryw mewn lle nad oedd eu heisiau; ac, hefyd, wedi myned heibio i'r cyfryw ddift'ygebion heb eu cyflenwi. Lle y maent wedi dodi i mewn eiriau cyflenwadol mewn llyth- yrenau ceimion neu italaidd pan nad oedd eu heisiau, gall y llythyrenau ceim- ion gynnwys athrawiaeth gam; y llyth- yrenau italaidd, ddysgeidiaeth italaidd. Rhoddwn enghraifft neu ddwy: "Yr Ar- glwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig." (Act. ü. 47.) Trwy osod i mewn y gairfydd- ent, y maent yn arwain y darllenydd i dybied, fel y gwna llaweroedd, mai rhy w- beth dyfodol yw bod yn gadwedig, ac nid cyflwr i'r hwn y dygir y Cristion ar ei ddychweliad. " A'r cyfiawn a fydd byw trwy fi'ydd ; eithr o thyn neb yn ol, nid yw fy enaid yn ymfoddloni ynddo." (Heb. x. 38) Yma y mae Beza wedi y ga iad Lladin, a hyny yn eithaf anmhriod- ol; ac y mae y cyfieithwyr Seisonig a Chymreig, fel mae gwaetha'r modd, wedi ei ddilyn. Y mae yn ddrwg genym ddywedyd, ond y mae yn ffaith nas gellir ei gwrthbrofi, fod hyd y nod cyfieithwyr yr Ysgrythyrau, a Geiriadurwyr, yn gwisgo eu gwydrau credöawl ar eu llyg- aid pan yn cyflawni eu gorchwylton pwysig. Ofnai y dysgedig Beza fod awdwr }rr epistol at yr Hebreaid, yn yr ymadrodd dan sylw, yn gwyro gormod at Arminiaeth, ac ystyriai mai ei ddyl- edswydd oedd, nid yn unig cyfieithu yr awdwr, eithr ei ddìwygio hefyd. Engh- raiff't o esgeuluso y ddiffygiaith a geir yn 1 Tim. iii. 15. " Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifenu atat, gan obeithio dyí- od atat ar fyrder. Ond os tariaf yn hir, (yr ydwyf yn ysgrifenu) fel y gwypech pa fodd y mae yn rhaid i ti ymddwyn yn nhŷ Dduw." a. f. y. Gwel y darllenydd ar unwaith fod y geiriau a ddodais rhwng ymsangau, yn anghenrheidiol i lenwi yr ystyr, ac i wneuthur synwyr o hono. Yn y rhan fwyaf o enghreifftiau, pa fodd bynag, y mae y cyfieithwyr wedi gwneyd y diff'yg i fyny yn dda. Mewn lliaws mawr o destynau, y mae y geiriau a ddodwyd uwch ben yr erthycl hwn yn rhai Diffygebol (elliptical), ac y mae eu dodiad i fewn yn rheidiol er gwneuthur yr ystyr yn llawn. 1. MoNON=y« unig. Mewn amryw destynau ysgrythyrol, ymddengys rhywbeth tebyg i wrthddy- wediad yn ngeiriau yr ysgrifenydd, a gwelir fod dodi i mewn y rhagferf "yn un- ig," neu "nid yn unig," ar unwaith yn symud yr holl anhawsder. Y rheol Ram- adegol sydd fel y canlyn :— Rheol.— Pan fo y Darddelw (predi- cate) yn ymddangos mal pe bai yn cael ei wadu neu ei wahardd am y Sylfon (stibject), pan y gwyddom mai annichon i hyny fod, yr achos yw fod y Darddelw yn anmherffaith; ac yn cynnwys mwy nag a heurir yn yr ymadrodd. Y niae 22