Skip to main content

Y GREAL. GORPHENAF, 1855. DEONGLIAETH.-EFUGYRAU Y BEIBL. RHIF IX. GEIRALLEG, (Enallaye). 1.—Sylweddair yn lle ansoddair, (Sub- stantwe used as an adjectwe.) Un peth syddyn nodweddiadu yriaith Hebraeg,ywprinder eihansoddeiriau, a'r rhai hyny bron i gyd yn rhai syml neu gyfarddun; pan, mewn ieithoedd ereill, y gellir cyfansoddi ansoddeiriau braidd yn ddiderfyn, megys y Groeg, a'r Gym- raeg. Y diffyg hwn a gyflenwai yr Hebrëwyr mewn amrywiol ffyrdd; ac un o'r cyfryw oedd trwy ddefnyddio sylweddeiriau yn Ue ansoddeiriau; ac y mae ein cyfieithwyr, niewn Uiaws o enghreifftiau, wedi eu gadael fel y maent, heb roddi iddynt ffurf ansoddeiriol; a dyna yr achos fod cynnifer o eirwedd- ion Hebreig wedi eu dwyn i fewn i'r cyfieithiad awdurdodedig o'r Ysgrythyr- au Iuddewig a Christionogol. (a) Weithiau gosodir y sylweddair an- soddebawl yn olaf, mewn cystrawiaeth á'r sawl y byddo yn dynodi ei anian neu ei briodoliaeth. Testynau enghreifftiul,—Gen. viii. 21. xv. 1. xxiv. 48. Num. xxix. 2. 6. Deut. iv. 20. Nehem. ii. 12. Salm lxxvii. 54. lxxxvii. 1. Ier. li. (xliv.) 4. Diar. xxii. 21. Luc xvi. 8. Act. v. 20.xiii. 26. Rhuf. i.4,5.vii. 24. 2 Cor. iii. 6. Gal. iii. 2. 5. Eph. iv. 22. 24. Phil. iii. 21. Col. i. 13. 2 Thes. i. 7. Heb. i. 3. Iago i. 23. 25. ii. 4. 2 Pedr ii. 1. 10. Dad. iii. 10. NODIADAU. " " A Iehofah a aroglodd arogl pereidd- dra," (Gen. viii. 21.) hyny yw, "arogl peraidd;" geirwedd ft'ugyrol, yn arwyddo y boddlonrwydd a'r ymhyfrydiad dwyfol yn offrymau y Patriarch, y rhai oeddynt gysgodol o'r "un aberth" yn yr hwn y cafodd ei lwyr foddloni. " Dy wobr mawr iawn" (xv. 1.); yn llythyrenol, " dy wobr helaethrwydd dir- fawr." Ystyr yr ymadrodd annogaeth- fawr yma a gyfeirid at Abram, y w, " Nac ofna, Abram, er dy fod yn unig, ac, mewn ufydd-dod i'm gorchymyn i, wedi gadael dy wlad, Myfi yw dy Amddiffyn- ydd a'th Wobrwywr (lle yr arferir y dansoddol gwobr,- am y cynnodol gwobr- wywr) helaethfawr." " Yr hwti a'tn harweìniodd ar hyd yr iawn ffordd," (xxiv. 48.); neu yn ol yr iaith gysefin, "ar hyd ffordd gwirion- edd;" ac â hyn y cytuna y Deg a. Thrigain, " en hodô aletheias ;" hyny yw, " y wir ffordd." Y mae yr ymadrodd derech emeth, yn y testyn hwn yn gyf- ystyrol â derech iesharath yn Salm c.vii. 7. Oddiwrth yr hyn yr yinddeng- ys, pa mor ddyrys bynag a chroes i syn- iadau dynion y dichon fod y llwybr ar hyd yr hwn ein tywysir, os bydd yn ol meddwla gair Duw, dyna "y wirffordd," a'r "ffordd uniawnj" ffyrdd gau yw y lleill i gyd. " Yr hwn a grewyd mewn gwir sant- eiddrwydd." (Ëph. iv. 24) Yn ol y Groeg " santeiddrwydd y gwirionedd," yr hwn sydd yn cyfleu meddwl helaethach na'r cyfieithiad ; nid amgen, natur y santeidd- rwydd, yn gystal a'r jnoddion i'w gyn- nyrchu. Nid gwir santeiddrwydd, eithr gau, yw yr hwn nad yw yn effaith dylan- wad y gwirionedd a chrodiniaeth yn- ddo, a'r hwn hefyd nid yw y gwirion- edd yn rheol iddo. " Ëìn corph gwacl ni—ei gorph gogon- eddus ef." (Phil. iii. 21.) Neu yn ol yr iaith gysefin, " Corph ein darostyugiad ni—a chorph ei ogoniant ef," lîe y gwel- ir fod y geiriau " darostyngi td " a " go- goniant" yn wrthgyferbyniol. Fe fu gan Iesu "gorph darostyngiad"unwaith, " yn nyddiau ei gnawd," y corph yn yr hwn y dyoddefodd ac y bu farw; ond " corph ei ogoniant " sydd ganddo ar ol ei adgyfodiad; ac yr awthon " corph eu darostyngiad " yw yr hwn y mae ei bobl yn dyoddef ac yn meirw ynddo; ond y mae " corph eu gogoniant " yn eu haros hwythau, yr hwn a fydd gyflun ac un- ft'urf â'i gorph gogoneddus ef." " Holl eiriau y fuchedd hon," (Act. v. 20.); neu "eiriau y bywyd hwn," sef yr athrawiaeth hon sydd yn cynnyrchu bywyd. Felly, " gair yr iachawdwriaeth hon," (xiii. 26.) hyny yw, " Yr ath- rawiaeth achubol hon." 19