Skip to main content

Y aiiEAL. MEHEFIN, 1855. DEONGLIAETH.-FFUGYRAU Y BEIBL. RHIF VIII. Geirweddiaetli Hebreig(/7eòramrt).—Ab = Tad. BEn—Mab. lsn=Gwr. Ba \h=Arglwydd. BETii=r</. O berthynas i ieithwedd yr Ysgrythyr Lân, gellir dywedyd yn gyffredinoì mai Hebreig ydyw. Gwir f'od ysgrifenwyr y Testament Newydd weithiau yn def- nyddio yr iaith Roeg gyda chywirdeb clasurol, fel pe buasent Roegwyr gened- igol: eto ofer yw gwadu fod llawer o neillduolion ieithweddol yn Hebraeg i'w canf'od yn eu hysgrifeniadau. Nid yw yr Hebraeg yn iaith gynnwys- fawr, na lliosog ei chyfansoddeiriau, f'el y mae y Groeg; o ganìyniad, yr oedd yn rhaid i'r Hebreaid edrych ar eu meddyî- rithiau a'u syniadau yn wahanol i Gen- edloedd a drosglwyddent eu meddyliau trwy gyfrwng ieithoedd mwy lliosair Un flfordd trwy yr hon yr oeddynt yn gwneuthur i f'yny y difìyg o eiriau cyfan- sawdd, oedd defnyddio geiriau yn dynodi perthynasau, y sawl a ddygent ryw deb- ygolrwydd neu gyfatebiaeth i'r syniadau y bwriadent eu trosglwyddo. Oddi ytna canfyddwn eu bod yn gwneuthur llawer o ddefnydd o'r geiriau a ddodasom uwch ben yrerthycl hon ;—sef Tad, Mab, Gwr, Arglwydd, Tŷ. Ab=7W. Pan fyddai arnynt eisiau mynegi y syniad o ddechreuwr, dyfeisydd, awdwr, cynnyrehydd, neu yr ymarferwr cyntaf o unrhyw beth, edrychent arno megys yn dwyn y cyffeiyb berthynas â'r peth hwnw, ag y mae tad yn ei dwyn i'w hlant; o ganlyniad, galwent ddyfeisydd Jieu awdwr unrhy w beth, yn dad y peth hwnw. Testynau—Gen.iv.20,21. Iob xxxviii. 28. Esai. ix. G. Ioan viii. 44. Rhuf. iv. 11, 12. lago i. 17. NODIADAU. "Tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail." (Gen. iv. 20.) Wrth yr ymad- rodd yna y golygir y cyntaf a arferai breswylio mewn pebyll a magu a thrin anifeiliaid. Iabal, gan hyny, oedd tad tnnwyr anifeiliaid. Tad pob teimlydd telyn ac organ." Udn.21.) Jubal oedd dyfeisydd'offer- ynau cerdd, a'r chwareuydd cyntaf arn- ynt. Pe byddem yn dewis llefaru yn yr ieithwedd Hebreig, gallem alw Caxton, yn dad pob argraffydd; Bacon, yn dad yr athronyddion ; Newton, yn dad y ser- yddwyr; a Watt, yn dad yr agerddbeir- iant. " A oes dad i'r gwìaw ? neu pwy a gen- edlodd ddefnynau'r gwlith ?" íaith odid- og farddonol yw hon, yn hytrach na geirweddiaeth Hebreìg. Yr ystyr yw, " A oes Creawdwr i'r gwlaw? neu pwy a wnaeth ddefnynau'r gwlith?" Ond j mae hyn yn diddymu grym a godidog- rwydd y meddylrith i raddau mawr. " Tad tragywyddoldeb" Y gair a gyf- ieithir yma " tragywyddoldeb," sydd yn arwyddo "yr hyn sydd tuhwnt," neu " yr hyn sydd yn mlaen" "yn mheUach," ac yn dynodi y cyfnod hwnw o barhad y sydd ddyfodol, pryd y mae olam, y gair a gyfieithir yn gyffredin tragywydd neu tragywyddoldeb, yn cyfeirio het'yd at yr hyn sydd wedi myned heibio. Tybia rhai ei fod yn arwyddocâu, "Tad yr oes a ddaw ;" ac yn gosod allan y Messiah fel awdwr y Sefydliad newydd, neu yr oruchwyliaeth efengylaidd, a dyma'r ys- tyr a rydd Pope iddo yn ei bryddest a elwir y " Messiah ;"— " The promis'd Father of the future age," ílüU, " Addawedig Dad yr oes a ddaw." " Canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo." (Ioan viii. 44.) " Tad y cel- wydd " yw y celwyddwr cyntaf. " Tad pawb a gredant," neu yr holl gredinwyr—y cyntaf' y dywedir ddarfod ei gyfiawnhau trwy fi'ydd, a'r hwn sydd yn cael ei ddal allan fel cynllun i bawb a gyfiawnheir yn ol yr egwyddor hòno— pawb a gyfiawnheir, rhaid iddynt gael eu cyfiawnhau fel y cyfiawnhawyd Ab- raham. " Tad y goleuni " neu y goìeuadau; hyny yw, Awdwr y goleuadau neu y cyrph nefol, yr hwn nìd yw yn cyfnewid megys y maent hwy. 16