Skip to main content

Y GREAL. MAI, 1855. DEONGLIAETH.-FFUGYMU Y BEIBL GEIRALLEG, (Enallage). I'r sawl sydd a'i fryd ar ddyfod yn ysgolhaig Beiblaidd medrus, nid oes diui sydd reitiach nag amaethu cydnabydd- iaeth dibrin â threigladau y prifair rnewn ymadrodd yr hwn sydd yn cael ei alw y Ferf, megys y maent yn yr iaith a arfer- ai ysgrifenwyr yr ysgrythyrau Cristion- ogol. Gair ydyw y Ferf sydd yn dyn- odi gweithreü yn eihamrafael berthyn- asau ac amgyleniadau. Y pwynt at y sawl yr ydys yn bwriadu galw sylw y darllenydd yn fwyaf neillduol y tro hwn, ydyw AMSERAU Y FERF. Gall y syniad o amser fyned i mewn i'n hamgyfTrediad o weithred mewn dwy ftbrdd, yn gyntaf, fel y mae yn dal perthynas â dull neu natur y weithred, sef ei pharhad; ac yn ail, y gyfran o am- ser pennodol y cymer yr unrhyw weith- red le. Nis gellir cyfiawni un math o weithred heb amser, ac y mae yr ysbaid hwnw o barhad a gymerir i fyny gan y cjflawniad o unrhyw weithred yn di- bynu ac yn codi oddiar natur y weithred hòno ei hunan. Ac nid hyna yn unig, eithr y mae syniad arall yn gysylltiedig âg ainseriad gweithred, nid amgen, yr yspaid pennodol mewn parhad yn yr iẃn y cymer le. Gellir galw y blaenaf ■ n Amser Hanfodol, a'r olaf yn Amser Damweiniol neu Weithredol y Ferf. Un peth sydd wedi bod yn rhwystr i ddeall hyd y nod yr iaith Gymraeg, heb son am iaith wreiddiol y Testament Newydd, yw y dyb fod yr Amserau a elwir wrth yr un enwau yn y gwahanol ieithoedd, yn dynodiyrun amgylchiadau neu berthynasau gyda golwg ar y weith- red—mai yr un peth yw yr amser Pres- enol yn y Groeg a'r Gymraeg, a hyny yn mhob ystyr; a'r un fl'unud hefyd am Ír Amserau ereill. Pwy byüag, gan yny, a ewyllysio ddeall yt iaitb, yn yr hon y cofnodwyd gweithredoedd a buch- edd Awdwr a Pherffeithydd y Ffydd Gristionogol, rhaid iddo ddysgu gwahan- ìaethu gyda manyldra Amserau y Ferf. Dosbarthiad mwyaf naturiol amser sydd i Bresenol, Gorphenol, a Dyfodol; ond y mae amgylchiadau yn perthyn i weithred neu Ferf, y sawl, gyda golwg ar y Gorphenol a'r Dyfodol, sydd y:i gofyn dosbarthiadau manylach; ac felly, yn ganlynol, ni a gawn yn yr iaith Roeg, nid yn unigy Presennol a'r Dyfodol,eithr hefyd yr Anorphenol (Imperfect), yr Anmhennodol ( Aorìst), a'r Tra-gorphen- ol (Pluperfect). Ond dechreuwn gyda'r 1. AMSER PRF.SENNOL. A llefaru gyda manyldeb athroniaeth- ol, prin y gallwn gael gafael mewn amser presennol; y mae parhad ynddo ei hun naill a'i oll wedi inyned heibio, neu oll heb ddyfod Nid yw amser neu barhad ddim yn sefyll; y niae yn debyg i symudiad (motìon); y mae yr olwyn wedi neu ar gyflawni ei holl ysgogiadau. ünd i ateb pob pwrpas yniarferol, gellir son am weithred niegys yn cael ei chyf- lawni yn bresennol, pan fyddo y Ferf yn dynodi gweithred sydd yn inyned yn mlaen ar y pryd, yn caeî ei mynychu, neu y sydd yn cyfleu y syniadau o arfer- iad, rheol, deddí', neu nodweddiad, gyda tíolwg ar y gweithredydd. Ac os ystyr- iwu y Presennol fel llinell yn gwahanu y Gorphenol oddiwrth y Dyfodol, y mae yr hyn a elwir Amser Presenoî y Fe*f weitbiau yn myned i'r naill ochr i'r llinell, ac weithiau i'r ochr arall; ac yr ydys yn dweyd yn y naill amgylchiad fod y Presennolyn cael ei ddefnyddio atn y Dyfodol, ac yn y llall, am y Gorphen- ol. (a) Y Presennol am y Dyfodol. (The Present for the Fulure.) Testynau.—Euripides in Hecuba. " I ba le, ai yma ai acw, yr âf'? Pa le yr eisteddaf?'' Yu llythyrenol, " Yr wyf yn myned" (steìchô) ydyw, Math. xxviii. 20. íoan xvi. 17. xiv. 6. xxi. 23. 1 Cor. xvi. 5. Iago i. 15. " Wele, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd," am " byddaf gyd* chwi bob amser." " Nid yw neb yn dyfod nt y Tad, ond trwof fi," hvnv vdyw, " Nid yw neb yn ' ' " 13