Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. TACHẄËDD, 1854. DEONGLIAETH. FFU G Y RAU Y B EIB L. Y deiliadol am y gwrthddrychol, (the subjectioe for the objectioe.) <3an JJ. 3L2äiUúrm0, Kíjû3. Pan fyddo dau enw (noun) neu sylw- eddeb yrj cael eu cysylltu, neu yn dilyn eu gilydd yn ddigyfrwng; megys " tŷ Dafydd,i""dinas Duw," " tywysog tang- nefedd;" dynodir fod pertfiynas yn bod rhwng y naill a'r lla.ll; a'r berthynas a ddynodir yn gyffredin, yn Gymraeg a Seisoneg, ac amryw ieithoedd diweddar, yw y berthynas ofeddiant neu berchen- ogaeth, fel y canfyddir yn yr enghreiff't- iau uchod. Nid felly, pa fodd bynag, y mae yn bod gyda golwg ar yr ieithoedd yn y rliai yr ysgrifenwyd yr ysgrythyrau santaidd yn wreiddiol: yn ysgrifeniadau Moses a'r prophwydi yn Hebraeg, yn gystal a'r eiddo Apostolion ac Efengyl- wyr ein Harglwydd íesu Grist, yn yr iaith Roeg; pan ddygwydd i ddau sylw- eddeb neu enw gael eu cysyîltu, neu i'r naill ddilyn y llall yn ddigyfrwng, gall- ant ddynodi, nid yn unig y berthynas neillduol o feddiant,—y cyntaf yn ar- wyddo y peth a feddiannir, a'r olaf y meddiannydd,—eilhr perthynas yn gÿff- redìnol: ac os ewyllysir deall natur y berthynas, rhaid gosod 'yr arddodeb (preposition) priodoí rhwng y ddau enw. Yn Gymraeg, yn gyífredin, yr arddodeh i yw yr un priodol; megys "tý brenin;" byny yw, "tý i frenin,"neu"tỳ o'r eiddo brenin ;" ond yn yr Hebraeg neu Groeg, gellir dodi unrhyw arddodeb rhyng- ddynt, yr hyn sydd i'w benderl'ynu yn ol y synwyr; a gall y geirwedd "tystiol- aeth Duw," arwyddocâu tystiolaeth o'r eiddo Duw; tystiolaeth am Dduw, neu dystiolaeth oddiwrth Dduw—"dadgudd- iad Iesu Grist " a ddichon arwyddo dad- guddiad o'r eiddo Iesu Grist, dadguddiad am Iesu Grist, neu ddadguddiad oddi- wrth Iesu Grist. Gŵyr y darllenydd deallus mai swydd a gwasanaeth priodol arddodebion, yw dynodi y perthynasau a fodolant rhwng y naill wrthddrych â gwrthddrych arall. Yn yr achos dan 8ylw, yr ydys yn golygu fod yr arddodeb yn eisiau, a bod ffurf yr ymadrodd yn gyfry w ag a gyfleai, yn Gymiaeg, y syn- iad o beríhynas o feddiant yn unig, a'r peth a feddiannir yn rhywle y tu allan i ni ein hunain; ond bod y synwyr, ar yr un pryd, yn dangos mai mewnol neu ynoui ni ein hunain y mae y peth a ar- wyddocêir wrtlr y cyntaf o'r ddau enw ; —pnn fyddo hyn yn dygwydd, dywedir fod y gwrthddrychol yn cael ei arfer am y deiliadol. Wele i'r darllenydd engh- raifl't neu ddwy na chrybwyllais yn fy ysgrif gyntaf: " Fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei} wybod- aeth." Dyma y ddau enw,"gwybodaeth fy ngwas,"neu "ei wybodaeth." Y niae y geirwedd, yn ol priod-ddull yr iaith Gymraeg, yn trosglwyddo y syniad mai gwr/hddrychol yw y wybodaeth ; lryny yw, yn rhywle neu yn rhyw un o'r tu allan i ni ein hunain ; pryd y mae y syn- wyr yn ein rhwjnno i ddeall yr ymad- rodd fel arall, ac i bendeifynu inai deil- iudul yw y wybodaeth : nid gwybodaeth y gwas, oud y wybodaeth ani dano—yr efengyí yn cael ei chredu; yn g^'son â dywediad yr apostol. (1 Cor. xv. 2.) Ẅele enghraifi't arall, " teyrnas ac am- ynedd Iesu Grist," (Dad. i. 9.}; lle y meddylir wrth " amynedd Iesu Grist," nid yr arnynedd a arferir gan Grist, ond amynedd tuag at Iesu Grist, yr liwn a arferir gan y saint yn eu traílodion a'u dyoddefiadau er ei fwyn. Dywedais fod y cyfryw gyflead o enwau neu sylweddebion, yn ieithoedd gwreiddiol yr ysgrythyrau, yn dynodi perthynas yu gyffredinol; ac, er mwyn cynnefino nreddwl y darllenydd â'r hyn sydd genym mewn ìlaw, mi a cbwanegaf rai enghreifftiau, mewn tair colofn ; y gyntaf yn cynnwys yr ymadrodd fel y mae yn wreiddiol; yr ail, yr ystyr yn Gymraeg; a'r drydydd, yr arddodeb priodol sydd yn trosglwyddo natur y berthynas:— 31