Skip to main content

Y GREAL. EBRILL, 1854. Y DYLIF. ©itt &. Jfones, ÎLlaitHsftti. Y mae hanes y dylif dwfr a fu yn nydcl- ìan Noa, yn un o'r pethau hynotaf a ddygwydtlodd ar y ddaear yn holl oes- oedd y byd. Nid oes unrhyw farnedig- aeth mor arswydus wedi cyfarfod trigol- ion y ddaear o'r awr hòno hyd yr awr hon. Y mae pechod wedi dwyn llawer dinystr dychrynllyd ar blant dynioii mewn llawer gwlad a llawer oes. Bu llawer dinystr arswydus trwy dân a dwfr, f'n nghyda llawer o bethau cyfFelyh, — lawer trychineb ofnadwy a gyflawnwyd Uiewn rhyfeloedd a chwildroadau mawr- ìon, fel y cafodd llawjr o ddinasoedd mawrion a theg eu gwneuthur yn garn- eddau. Pwy a all ddirnad y fath drucni a gyflawnwyd yn ninystr Ninife, Btbi- lon, Ierusalem, Moscow, &c. Pwy hefyd a all tynegi pa beth a fydd diwedd y rhyf- eloedd ofnanwy sydd ar droed yn y dydd- iau hyn ! Ond wrth edrych ar b.>b dyg- wyddiad ofnadwy a fti yn y byd, nid ydynt ond megys dim wrth eu cytnharu â'rdylif. Wrtb ediych arnyntyn y goleu hwn, rliyw betliau bychain ydynt, inewn rhyw gornelau bychain o'r ddaear. Yr oedd y dylif yn farnedigaeth gyffredinol. yr hon oedd yn dileu pob cnawd od.liar wyneb yr holl ddaear. Y inae yn an- nichonadwy meddwl am farnedigaeth njor ofnadwy a hon, oddigerth y dylií' tân yn niwedd ainser, yn nghyda'r tân tragywyddol, yr hwn a barotowyd i ddiafol ac i'w angylion. Y mae yn ddi- arneu bod Duw nid yn unig wedibwriadu y trychineb hwn yn gosb ar y creadur- laid truenus a'i dyoddefodd, ond ei fod hefyd wedi ei fwrindu i fod yn rhybudcì ac addysg i holl drigolion y ddaear am . holl oesoedd y byd. Yr Arglwydd a roddo ei gymhorth i ni i ystyried y dial- edd hwn yn deilwng o'i bwysigrwydd, a bod i ni gael gafael ar yr adciysgiadau hyny, y rhai y mynai Duw i ni eu dysgu oddiwrtbo! Y mae mwy o wybodaeth sylweddol yn nghylch y dylif i'w gael mewn tair pennod yn llyfr Duw, nac a geir yn holl ddoethineb a llyfrau y byd. —Darllener yn ofalus Gen. vi—viii. Y dull y bydd i ni geisio sylwi yn nghylch y dylif fydd sylwi ar rai o'r prif amgylch- iadau a gofnoda yr hanesydd dwyl'ol yn ei gylch, a chyfeirio at rai o'r gworsi Pwysig a ddylem ni ddysgu oddiwrtho. I. Yn yr ain,rylchiadau yn nghylch y dylifdylem nodi y pechodau a'i hachos- odd. Vr achlyaur cyntaf a goff'heir yw amlhad dyuoliyw.—" Yna y bu pan ddechreuodd riynolryw amlhau ar y dd<tear, a geni merched iddynt." (Gen. vi. I.) Nul ydyin i oiygu f'od lluosogiad dynolryw ar y ddaear, ynddo ei hun, yn beth niweidiol. Bendilh a chrytder gwlad yw cynnyd.l ei thrigolion; eto, trwy fod dyno'ryw yn llygredig, a llyg- redigaeth y naill yn eli'eithio ar y llall, trwy hyn y niae yr hyn sydd ynddo ei hun yn fendith,yn fynych yn troi yn fell- dith. Y lleoedd niwyaí' poblogaidd yn gyffredin yw y lleoedd mwyaf llygredig. Y mae yn anliawdd dychymygu gym- aint o ysgelerder a gyflawmr yn ein din- asoedd mawrion, Y cam cyntaf tu tg at y llygredig.ieth andwyol a ddilynodd oedd cysylltiad priodasol âg annuwiolton. Dy wedir " weled o feibion Duw ferohed dynion mai teg oeddynt hwy, a hwy a gymerasaiit iddynt wragedd o'r rhai oll a ddewisnsant." Wrtlt " í'eibion Dnw" y golygir hiliogaeth Seth, ac wrth " ferched dynion" y deallir hiliog.ieth Cain. Odeli- wrth yr hyn a goffbeir yn yr hanes ys- grythyrol, gallwn feddwl fod cymaint o grefydd oedd yn y byd y pryd hyny yn y teulu blaenal' a nodwyd, a bod hiliog- aeth yr olaf yn fath o wrthgilwyr anituw- iol nad oedd dim a fynent â Duw na'i wasanaeth. Nid oes dim braidd yn brawf eglürach o ddirywiad mewn crefydd, nac yn ('oddion sicr.ich i lygru cret'ydd, na phriodasau rhwng dynion cret'ydclol a'r digrefydd. Y mae y llygredigaeth hwn yn cael ei wahardd i bobl yr Arglwydd o dan bob goruch wyliaeth. Os gall un Cristion edrych ar degwch neu gyfoeth mewn cydmar bywyd o fìaon santeidd- rwydd a duwiolcleb, y mae y cyfryw yn sicr o fod 3rn edrých ar wagedd; y mae yn sicr o fod mewn angheu "eli líygaid," ac yn dra thebyg o gael siomedigaeth a chwerwder chwerw. Mewn canlyniad i'r priodasau llygredig hyn, fe ddaeth dylif o lygredigaeth yn mlaen yn y byd. Y mae lle i feddwl fod llawer o ormes ac 10