Skip to main content

YE IEOEYDD, Rhif. 21.] MEDI, 1842. [Cyf. II. HANES MADAGASCAE, YN NGHYD A BRASLUN O DROSIAD Y GENADIAETH GRIST- IONOGOL I'R YNYS. Mr. Ifor, Gan fod ein cydwladwyr wedi clywed cymaint o son yn ddiweddar am Madagascar, trwy j'mweliad y Parch. D. Johns, yn nghyd â Mrs. Johns, a Raferavavy, benyw frodorawl o'r ynys, yr hon y dywedwyd unwaith iddi gael ei merthyru yn mhlith y lliaws a lofruddwyd am Grefydd Crist yn yr ynys. Bernais na fuasai braslun o hanes y wlad helaeth a dyddor- awl lion, ddim yn annerbyniawl gan eich derbynwyr. Yr eiddoch, Gcr Penucl. D. W. Joshua. MADAGASCAR sydd ynys ya y Môr Indiaidd, oddeutu 120 o filldiroedd oddiwrth aifordir dwyreiniol Affrica; oddiwrth ba un ei rhenir gan gulfor Mozambique. Y raae yn gorwedd rhwng 43ain a ölain o raddau o hydred dwyrainiol yn ol nawngylch Greenwich, ag o 12eg i 16eg o raddau o ledred dde- heuol; yn cyrhaedd, rnewn hyd, odJi- wrth ogledd-ddwyrain i dde-orllewin, yn nghylch 900 o filldiroedd, ac yn am- iywio mewn lled o 200 i 300 o filldir- oedd. Yr oedd y wlad hon yn adnabyddus i'r Persiaid a'r Arabiaid, wrth yr enw Sarandib; ond, am ei hanes, ychydig gyfarwyddiad a ellir gael, hyd yr amser ac y dygwyd hi o dan sylw yr Ewrop- iaid, trwy ymweliad Lawrence Almeyda, yn y fiwyddyn 1506. Y mae arwyneb y wlad yn rhoddi yr holl ddarlunlèni amrywiedig, ac a geir rhwng raynyddoedd, dyffrynoedd, a gwas- tadedd, yn wasgaredig rhwng llynoedd, morfaoedd, a choed. Oddiwrth gadwyn o fynyddoedd ag sydd yn hollawl trwy hyd yr ynys, niferi o afonydd a redant i'r cefnfor mawr, weithiau yn ymarllwys 33 mewn rheieidr mawreddawg oddiar glog- wyni crogedig, pryd y gweithia eraill eu ffordd trwy ogofeydd a thyllau tan- ddaearawl. Cafwyd yn y wlad neu yr ynyshon, liawsogrwydd o gèryg a mwnau gwerthfawr. Coed drudfawr a defnydd- iol a dyfant yn y coedwigoedd, yn am- gylchynedig gan druth blanhigion (par- asite pîants) a mânwydd peraroglaidd. Y coed sugr, perlysiau, a rîs, a ddyg- ant gynnyrch rhyfeddol. Cyfrifir fod yr ynys hon yn cynnwys 200,000,000 o gyferi o dir arddadwy, dros ba un y mae anifeiliaid, gwarae (game), ac adar dôf, wedi eu gwasgaru. Y morfaoedd a gynnwysant gasgliadau mawr o mar- ddwfr (stagnant water), pa un, gyda y gwlawogydd didor, a ddisgynant rhwng Rhagfyr a Mawrth, dan haul trofanol (iropical sun), a esyd yr hinsawdd yn eithaf afiachus i ddyeithriaid. Y brodorion, y rhai ỳdynt yn ddynion tàl ac o gyfan wneuthuriad, a amryw- iant yn lliw eu croen, o liw olifaidd i ddu ; rhai o honynt a feddant wallt du hirllaes, ac eraill un gwlanog, pa un a wahana y llwyth Indiaidd. Dywedir fod poblogrwydd yr ynys wedi eu cyfrif