Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE IFORYDD, Rhif. 19.] GORPHENHAF, 1842. [Cyf. II. TRAETHAWI) YN CYNNWYS HANES TREF CASTELL, GWENTLLWGr, AR GAIS CYMREIGYDDION Y LLE. " Cymry fu sy ac a fydd. Cymru, Cymro, a Chymraeg." NID ocs dím sydd yn fwy canmol- adwy yn yr oes hon, na'r awydd sydd mewn dynion i gynnyg gwobrwyon am hanes hen gestyll, dynion, ac ardal- oedd, &c. Yn mysg y cyfrai, wele gyf- leusdra i chwilio hanes y lle uchod wedi dyfod. Nis gwn pa fath draethawd mae Cymdeithas Cymreigyddion Tref Castell, Gwentllwng, yn erfyn oddiar ddwylo yrymgeiswyr ; ond hyn awn, fod hanes y Dref yno (os bu y fath erioed mewn bodoliaeth,) yn beth dyrys, ac anhawdd i'w gael allan ; ond wrth chwüio hanes- ion Gwent a Gwentllwg, fe geir rhyw ychydig o oleuni ar y pwnc. Ei sefyllfa ddaearyddol sydd ychydig örosbum milldir i'rgorllewin o'r Castell- newydd-ar-Wysg, Mynwy. Yn y cyn- oesoedd, pan oedd cenedl y Cymry yn perchenogi Prydain, yr oedd ganddynt imbenaeth, fel y gwelir oddiwrth y Trioedd.—Gwel Rhifyn 3-1, yn yr Arch- aiology, Cyf. II., tudal. 63. " Tri Unbenn Dygynnull Ynys Pryd- ain :—I. Prydain, fab Aedd Mawr ; pan rodded Teyrnedd ddosparthwy ar Ynys Prydain a'i rhagynysoedd. 2. Carad- awc ap Bran, pan ddoded arnaw ef Gattëyrnedd holl Ynys Prydain, er attal Cyrch Gwỳr Rhufain; ac Owain ab 25 Macsen Wledig, pan gawsant y Cymry'r Dëyrnedd ym mraint eu cenedl eu hun- ain y gan yr Ymherawdwr Rhufain: sef a'u gelwir y rhain y Tri Unbenn Dygynnull Cenedl y Cymry, a ehynnal dygynnull ymhob cyfoeth, a chwmmwd, a chantref yn Ynys Prydain a'i rhag- ynysoedd." Yr oedd o dan yr unbenaeth yma, freninoedd neu arglwyddi cyfleol, yma ac acw ar hyd y wlad, ac yn weision, ar lawer ystyr, i'r unbenaeth neu frenin cyffredinol neu deyrnasol. Fe barhaodd y drefn yma yn mhlith y Cymry am oesoedd ar ol eu darostyngiad gan y Saeson, canys yr ym yn darllen i Rhodri Fawr, Brenin Cymru, yn y nawfed gan- rif, ddosparthu Cymru yn dair dosparth yn ol y Triad yma :— " Tri theyrn taleithiawg Ynys Pnrd- ain:—Cadell, Brenin Dinefwr; Anarawrd, Brenin Aberffraw; a Merfyn, Brenin Mathrafal (Powys) ; sef a'u gelwid y TriThywysogTaleithiog,"—Tri.43,Arch. Cyf. II. tudal. 6-L Yr oedd Dinefwr yn rhanedig i chwech o argìwyddiaethau, ac un o'r dosparthiadau yna oedd Swydd Fynwy, arall oedd Morganwg, &c, Ond yn mhell cyn ihaniad Rhodri, yr oedd breninîaoth Glewiseg neu Glwysig, wedi bod yn ei rhwysg. Yr oedd yr enw