Skip to main content

Rhif. 15.] YB IFOEYDD. MAWRTH, 1842. DAEAEYDDIAETH. [Ctp. II. PENNOD I. CYCHWYNIAD DAEARYDDIAETH. DAEARYDDIAETH ydyw y gel- fyddyd hòno a ddysga ac a eglura natur a phriodoliaethau y ddaear, gyda golwg ar ei dull, ei lle, ei maintioli, ei rnudiadau, ei wybrenawl ymddangos- iadau, &c, yn nghyd â'r amrywiol linellau sylweddol neu ddychymygol sydd ar ei harwyneb. Y mae Daear- yddiaeth yn wahanedig oddiwrth fyd- draethyddiaeth (cosmography), yn yr un ystyr ag y mae rhan o unrhyw beth mewn cymhariaeth â'r peth yn gyfan- gwbl; yr olaf a ystyria yr holl fyd gweledig, y nefoedd yn gystal a'r ddaear. Oddiwrth daear-ddarluniad- aeth (topography), a parth-arluniad (chorographyj, y mae yn wahanedig, megys ag y mae cyfan-beth oddiwrth ran o hono ; gan y cynnwysa Daear- ddarluniadaeth ddesgriíìad o leoedd neillduol, tra y cynnwysa parth-arluniad eglurhad o ororau neillduol. Yn ol y gwahanol wrthddrychau a gofleidia, y mae Daearyddiaeth yn cael ei dospaithu yn Arddangosyddawl, yn Anianawl, ac yn Wìeidiadawl. Daear- yddiaeth Arddangosyddawl sydd ganddi am ei gwrthddrych y ddaear, fel corph mesuredig; swydd Daearyddiaeth An- ianawl ydyw chwilio i mewn i gyfan- soddiad anianol a chorffòrawl y ddaear ; tra y mae Daearyddiaeth "Wleidiadawl yn arddangos, y gwahanol ddosparth- iadau i ba rai y rhanwyd y ddaear, gan ddynion,—i wledydd, taleithiau, a thywysogaethau. Y mae y gelfyddyd hon etto yn cael ei gwahaniaethu yn mhellach gyda golwg ar y cofnodau y mae yn gynnwys,—sef Daearyddiaeth henain,—un y canol oesoedd,—a'r un ddiweddar. Y mae JDaearyddiaeth henain yn dar- lunio yr hen fyd, cyflwr cyntefig y ddaear, a rhaniadau gwleidiadawl y rhai sydd wedi bodoli ynddi oddiar yr oesoedd cyn dymchweliad yr Ymher- odraeth Rufeinig yn y Gorllewin. O ysgrifeniadau yr hen ddaearyddwyr nid oes ond ychydig wedi cael eu tros- glwyddo i lawr i'r amser presennawJ, y prif rai ydynt eiddo Strabo, Ptolemy, Pomponius, Mela, a Stephanus Bysan- tinus. Yn mhlith y rhai diweddar, a ddarluniasant Ddaearyddiaeth yn gyffredinol, ydynt Cluverius, Cellarius, D'Anville, Gosselin, a Major Rennell, ymchwiliadau pa rai sydd wedi taflu ffrwd o oleuni ar Ddaearyddiaeth yr haneswyr dysgedig. Y mae Daearyddiaeth y canol oesoedd yn cofleidio rhaniadau gwleidiadol y teyrnasoedd, a lewyrchasant yn yr oes- oedd hyny, hyny yw, o'r bummed i ddechreuad yr unfed ganrif ar bumtheg yn gynnwysol. O'r cyfnod hwn, nid oes genym neb ysgrifeniadau Daearyddawl