Skip to main content

YE IFORYDD, Rhif. 14.] CHWEFROR, 1842. [Ctf. II. HANES IFOR HAEL. " Henaint anghywraint, ing hiraeth—a phoen A phenyd fel blaensaeth, Marw Ifor nid rhagoriaeth, Marw Nest, y mae Cymru'n waeth." D. AB GwiLYM. YCHYDIG o flynyddoedd yn ol, yr oedd Iforiaeth yn beth anadna- byddusi'r rhan fwyafo diigolion Deheu- dir Cymru. A phan gwnaeth ei hym- ddangosiad, cafodd gan rai o honynt roesawiad helaeth, a chan eraill wrth- wynebiad—ië, gwrthwynebiad i'r fath raddau, nes y meddyliwyd unwaith y buasai iddi anadlu yranadliad ddiweddaf; ond er yr holl wrthwynebiad a'r erledig aeth a dderbyniodd, llwyddo wnaeth. Yr oedd sylfaenwyr ein sefydliad mewn ymddadleu, yr amser cyntaf, ar ol enw pwy y gelwid ef. Yr oedd un o honynt am ei osod ar ol Catwg Ddoeth —un arall ar ol Hywel Dda—ac un arall ar ol Ifor Hael. Penderfynwyd mai ar ol y diweddaf y cawsai ei chyfenwi; ond y buasai iddi gynnwys y tri enw—sef Doethineb—iCyfiawnder—ac Hael- IONI. Y mae yn ddios, fod dechreuad lfor- iaeth yn ddyeithr hyd yn hyn i luoedd o ein cydwladwyr, ac hefyd ei chyfen- wad. A chan feddwl na bua3ai ychydig o Hancs Ifor Hael, oddiwrth ba un yr enwir ein sefydliad, yn annerbyniol gan fy Mrodyr Iforaidd, yr ydwyf yn ei rhoddi ger eu gwydd. Aûhawdd ydyw cael gafuel mewn hanesion am ddynion a fuont byw lawer ogannoedd o flynyddoedd yn ol; fellynis gallir ysgrifio eu hanes mor gyflawn a phe byddai genym gofr-estrau rheolaidd am danynt. Ychydig ydyw yr ym- chwiliadau hanesyddol sydd wedi bod yn nghylch Ifor Hael ; ac yn wir ychydig sydd idd ei gael am dano. Y mae yn debygol iddo gael yr enw Hael, ani ei fod yn ddyn liaélionus, ac yn un tirion tuag at y tlawd, a thuag atbawb ag oedd dan ei lywodraeth. Yr oedd yn beth arferol yn yr oesoedd a aethant heibio, i gyfenwi y pendefigion ac eraill ÿn ol yr hyn ag oeddynt yn enwog ynddo ; ac felly cyfenwyd Ifor, am ei haelioni, yn Ifor Hael, a thrwy ei weithredoedd y mae wedi enwogi ei hun i'r oesoedd sydd i ddyfod. Am ei haelioni y mae Beirddion y pedwerydd ganrif ar bymtheg, yn cry- bwyll yn fawr. Fe ddywed Lewys Glyncothi, pan yn«sôn am ddynion hael- ionus "yr hen am&er gynt," mai " Tri Hael, mal tri hydd, yn saint ynn y sydd; Rhydderch ben rhodydd, Ifor, aDafydd." Ac y mae D. ab Gwiiym yn crybwyll yn fynych am ei roddion a'i haelioni; ac y mae mewn cywydd, a gyfansoddodd ar yr achlysur, yn sôn am anrheg a gafodd gan Ifor, sef pâr o fenyg yn Uawn o arian.* Ac hefyd y mae y chwedl a *Yr oedd yn ymarferiad yn yr amseroedd