Skip to main content

YK IFORYDD, Rhif. 13.] IONAWR, 1842. [Cyf. II. TRAETHAWD AR GADWEDIGAETH YR IAITH GYMRAEG, GAN Y PARCH. JOHN JONES, A M., (lOAN TEGYD.) Oddiwrth eiriau Taliesin, "Eu Hiaith a Gadwant," testun Cymdeithas Coleg Iesu, Rhydychain, er coleddu Iaith Gwlad eu Genedigaeth. Barnwyd y Traethawd hwn yn haeddu Gwobrwy y Gymdeithas. Quam non imber edax— Possit diruere, aut innumerabilis Annorum series, ct fuga temporum.—Hon. IAITH sydd fuddiol i draethu yr hyn a feddylir, ac nid oes ddychyrayg na gwrthddrych yn ymgynnyg neu ym- ddangos idd y meddwl, ond a ellir yn gyffredin ei ddarlunio trwy ymadrodd mewn dull mor ddealladwy nes bydd y gwrandawydd amgyffred yrhyn adradd- odir, cystal a phe ei dangoser o flaen ei lygaid naturiol: felly, " Iaith a bair ddangaws, Dangaws a bair ystyr, Ystyr a bair ddeall." Iaith sydd yn peri gwahaniaeth rhwng creadur rhesymol a chreadur di-reswm, yn gymaint a bod ei pherchen yn gallu ymddyddan âg ei Greawdwr, pan na all yr hwn sydd hebddi hysbysu ei fcddwl idd ei gyfaill, eithr trwy fath ar nâd, neu ystum arwyddocäol o alar, llawenydd, digter, cariad, fyc, perthynol i bob creadur wrth natur. Perfieithiwydd Iaith sydd, o ran, yn gynnwysedig mewn Uiaws ymadrodd i osod allan unrhyw feddwl, ac i ddarlunio gwrthddrychau yn eu lliw mwyaf natur- iol. Tebygol fod yr Iaith gysefin yn meddu ar y rhagoriaeth hwn uwchlaw pob un arall; canys nid oes i ni feddwl i Adda gael ei grëu yn ddi-iaith,* ac iddo, wedi hyny, ífurfio neu gyfansoddi un wrth ei ewyllys, ond yn hytiach, iddo dderbyn Iaithf gyflawn-berfFaith o gyf- ansoddiad y Creawdwr, yr hwn a roddes iddo * * * o'i ddoniau rhad Ragoriaeth ei ddirfawr gariad, Lywodraeth un-benaeth y byd, Cael i'w feddiant bob celfyddyd, Oreufyg ddychymygawl arfaeth A rhodd parabliad drwyad 'draeth. W. Davies. Ni a gawn ein tueddu, yn fwy, i feddwl fod y rhagoriaeth hwn yn perthyn iddi, ond ystyried i Dduw lunio a gor- phen ei holl waith mewn doethineb *Primum igitur hominum sermonem pri- mis parentibus jam adultis cum ipsà vità infusum credimus; a quibus posteri per imitationem loqui dedicerunt.—Gwel Bhag- ymadrodd D>: Davies idd ei Eirlyfr. f'The first speech was in every respect more perfect in its formation than any other; and far bcyond wliat philosophers have evcr conceived of a perfect language."—W. O. Pugfte, Esq.