Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE ITOEYDD, Riiif 5.] MAI, 1841. [Cyf. I. Y SEIMMAEN RHYDDION. J~ MAE y Gymdeithas hon yn hên iawn, a gelwir hi wrth yr enw uchod, naill ai o herwydd rhyw wy- bodaeth anghyffredin a dybir y perchen- oga mewn Saermaenyddiaeth, neu oble- gid fod ei sefydlwyr cyntaf yn perthyn i'r alwad hòno. Y maent yn biesennol yn gymdeithas helaeth iawn, yn gystal o ran nifer, ac o ran y sefyllfa a ddal- iant mewn cymdeithas ; o herwydd ceir hwy yn mhob gwlad trwy Ewrop, yn gystal ac yn Ngogledd-dir Ameiica, a rhanau o'r byd dwyieiniol. Hònant hawliau nid bychan i hynafiaeth, canys tystiolaethant eu bod yn bodoli am rai miloedd o flynyddau. Beth yw dyben y sefydliad a erys hyd heddyw, mewn roesur helaeth, yn ddirgelwch ; dywedir fod yr aelodau yn cael eu derbyn i mewn i'r frawdoliaeth, trwy eu gosod mewn meddiant o nifer fawr o ddirgelion a elwir,—" Gair y Saermaen," y rhai sydd wedi cael eu cadw yn gydwybodol o oes i oes. Mewn Traethawd ar Saer- maenyddiaeth, a gyhoeddwyd gan Wil- liam Preston, J.lywydd Cyfrinfa Hyn- afiaelh, y mae dechreuad y Sefydliad hwn yn cael ei olrhain cyn belled a chre- adigaeth y byd. " Oddiar yr amser cyntaf y dechreuodd cymesuriad, pan y dadguddiodd cysondeb ei hawddgar- wch, (medd efe) yr- oedd gan ein hurdd ni fodoldeb." Trwy hanesion, nid ydyw hynafiaeth Saermaenyddiaeth yn cael ei olrhain yn ol yn mhellach nac adeiladaeth teml Solomon. 17 Yn Hanes Prydaín Fawr, gan Dr. Henry, ni gawn fod dechreuad y sef- ydliad hwn yn cael ei briodoli i'r an- hawsder mawr a geid raewn amseroedd gynt i gael gweithwyr i adeiladu y nifer fawr o eglwysi, monachlogydd, ac adeil- adaethau eraill at wasanaeth crefyddol, y rhai a adeiledid, naill ai trwy ffug- dduwioldeb, neu goel-grefydd yr oes- oedd hyn. O herwydd hyn yr oedd y Seirimaen Rhyddion mewn bri mawr gan y Pabau, ac yr oedd llawer o freint- iau yn cael eu caniatâu iddynt er llu- osogi eu nifer. Yn yr amseroedd hyn gellid yn hawdd ganfod, fod y cyfryw gefnogaeth oddiwrth uchel-swyddwyr yr eglwys o fawr fantais er llwyddiant achos y frawdoliaeth, ac o ganlyniad cyn- nyddasant yn ddirfawr. Dywed hen awdwr, yr hwn oedd yn lled hyddysg o'u hanes a'u hansawdd, i'r Italiaid, a rhai gwaesafwyr Groegaidd, yn nghyd â'r Ffrancod, Germaniaid, a'r Fflemiaid i uno mewn brawdoliaeth adeiladaethol, gan gael amryvv ordinhadau, neu fieint- iau pabaidd er eu hanogaeth, a chyf- enwasant eu hunaÌD yn Seirimaen Rhyddion, a theithiasant eu hunain o un deyrnas i'r lla.ll, fel y gwelsent fod eisiau adeiladu eglwysi; yr oedd eu 11 yw- odraeth yn iheolaidd, a'r lle y sefydlent eu hunain,—yn agos i ryw adeiladaeth ac a fuasai ganddynt mewn llaw,—yno y gwnaent weisyll o bebyll. Arolygwr a lywodraethai yn flaenor, tra yr oedd pob degfed gwr yn cael ei alw yn warch-