Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ígUJjpa&m UÜ00I AT WASANAEÎH CEEÜDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CTHOEDDEDIG DAN NAWDD PRÍF GEÎtDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 69. TACHWEDD 1, 1866. Pris 2g.—gyddr post, 3c. ADOLYGIAD Y WASG. Un o'r llyfrau pwysicaf a gyhoeddwyd ar gerddor- iaeth yn ystod y misoedd diweddaf, er nad ydyw ond bychan, ydyw " Transactions ofthe Tonio Solfa School, Fifth Session" (Gweithrediadau Ysgol y "Tonic Solfa," y Pummed Eisteddiad). Cynaliwyd yr Eisteddiad hwn wythnos y Nadolig diweddaf; ac erbyn hyn y mae y papyrau a ddarllenwyd, a sylwedd yr ymddiddanion a fu yn y gwahanol gyfarfodydd, wedi eu hargraffu yn gyfrol fechan. Cyfarwyddwr yr Ysgol ydyw y Parch. John Curwen, cyfaddasydd a pherffeithydd cyfundrefn y Tonic Solfa—cyfundrefn ag sydd wedi gwneyd mwy tuag at ddwyn cerddoriaeth i afael y miiiynau nag un gyfundrefn arall. Darllenwyd papyrau tra dyddorol ar wahanol bynciau. Y cyntaf oedd bapyr gan Mr. Joseph Proudman, Llundain, ar " Arwyddnodau cyffredin Mynegiant" (The Common Marhs of Expression) . Dywedai fod yr arwyddnodau cyffredin hyn yr un peth i'r Cerddor ag ydyw rheolau pwyslais, tonyddiaeth, a hyawdledd i'r llefarwr. Y mae talu sylw iddynt yn hynod o fanteisiol, er fod eisiau rhywbeth mwy i wneyd siaradwr neu gerddor effeithiol. Y peth cyntaf y sylwai arno oedd Acen. Tuedd cantorion yn y cyffredin ydyw, naill ai esgetduso acen yn hollol, neu ynte rhoddi gormod o bwys ar y sillau acenedig. Yr anhawsder ydyw taro ar y tir canol a phriodól, gan roddi pwyslais priodol y frawddeg a rhoddi eglurdeb i bob gair. Peth arall ydyw gradd gymedrol o lais. Gwall cyffredin ydyw canu yn rhy gryf— pob peth a phob amser mor gryf fel na fydd yn bosibl cael crescendo naforte. Pan fyddo un yn canu eisioes a'i holl nerth, y mae canu yn gryfach neu yn gryfiawn yn eiriau ofer i hwnw. Y mae lleisiau cymedrol dynion yn wahanol; y mae llais cymedrol un mor gryf a chryfiawn un arall; neu gall piano un'fod mor nerthol aforte y llall. Ond fel rheol gyffredin, dylai pob un arfer canu, yn gyffredin, fel y byddo ganddo ystor o nerth ychwanegol wrth gefn pa bryd bynag y byddo galwad am dano. Piano a forte hefyd. Cryn gamp ydyw rheoleiddio y rhai hyn yn briodol, gan ganu y ff. (cryf iawn) heb fioeddio, a'r pp. (gwan iawn) gyda llais clir a sylweddol, ac nid yn llesg ac egwan. Ychydig o ddefnydd o wnelid o'r crescendo, diminuendo, a'r swell mewn cerddoriaeth glasurol hyd amser Mozart, ac y mae efe wedi cynyrchu effeithiau tra hynod trwyddynt. (Gweler ei I2th Mass.) " Anaml iawn y defnyddia Handel y rhai hyn yn ei Oratorios. Dylid cymeryd gofal na byddo gwasgnod < yn cael ei ganu yn lle cynyddnod <^2 î ac na byddo agornod > yn cael ei roddi yn Ue lleinod ^->*- Y mae uno y crescendo a'r diminuendo, a'u gwneydyn ehwyddnod -^cdT^I^3" yn cynyrchu eff ith tra rhagorol; ond dylaipob cerddor ofalau na byddo ei lun na'i effaith yn cael ei ddinystrio, trwy ganu yn debyg i hyn <- > , nac yn debyg i ddim arall ond'efe ei hun". Chwydder o hydyn raddol, a gwahaner yn raddol drachefn. " Y mae eisiau cadw llywodraeth berííaith ar yr anadl hefyd. Dywedir fod y canwr mawr Farinelli yn feddianol ar allu tra rhyfedd yn nefnyddiad y chwyddnod, a'i fod yn llywodraetbu ei anadl yn hynod iawn. Aeth i gystadlu unwaith a chwareuwr udgorn. Buant am amser maith yn siglo ac yn chwyddo gyda'u gilydd, a'r gynulleidfa bob moment yn disgwyl i un o honynt golli ei wynt; o'r diwedd rhoddodd yr udganwr heibio, gan ddisgwyl i Parinelli wneyd yr un peth, ond ni wnai hwnw ond myned yn mlaen, gan chwyddo asiglo, ohyddr un anadl, nes oeddeigydymgeisydd wedi synu. Adroddir hefyd iddo, y noswâith gyntaf yr ymddangosodd yn gyhoeddusyn Lloegr, raddoli y chwyddnod ar y nod cyntaf, gyda'r fath brydferthwch a nerth, fel y torodd y bobl allan i guro, a hyny a wnaethant am bum mynyd, am ddim ond y nod cyntaf." " Arferir byr-nodau yn lled fynych ; ond y mae gofal mawr yn angenrheidiol gyda hwynt, yn enwedig mewn cysylltiad a piano, neu y seiniau chwerthin, oherwydd eu bod yn gofyn gweithred- iad cyd-darawiadol y peiriant lleisiol. Y gamp ydyw peidio gwastraffu anadl. Y mae cantorion ieuainc yn gyffredin yn defnyddio gormod o awyr wrth gynyrch eu seiniau. Ymae cliAverthin-donau yn gofyn gofal a chynildeb neillduol gyda'r anadJ