Skip to main content

AT WASANAETIi CEBDDOMAETH YN MYSG CENEDL Y CYMilY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PPJF GEEDDOBION, CORAU, AC UNDEBAU CEBDDOROL Y GENEDL. Ehif. 68. HYDREF 1, 1866. Pris 2g.—gyddr post, Sc' TE EISÎEDDFODÂÜ. Un o hynodion y mis diweddaf oedd amlder ei Eistedd- fodau. Cynaliwyd dwy yn Nghymrû, neu o leiaf gan y Cymry—un yn Nghaerlleon, a'r llall yn Nghastell- nedd ; ac un yn ÎSÍghaerwrangon, gan y Tri Chor—Caer- wrangon, Caerloyw, a Henffordd. Ac er nad ydym yn cymeradwyo llawer o arferiongweigionyrEisteddfodau Cymreig, nac yn cydsynio a llawer o'r liyn a draethir ynddynt fel athrawiaethau na ffeithiau, yr ydym yn teimlo y dylai y Ceeddor Cymreig- gymeryd rhyw sylw o'u gweithrediadau, ar gyfrif y petîi daioni cerdd- orol sydd ynddynt. ElSTEDDEOD CaERLLEON. Hon ydoedd y gyntaf o'r gyfres. Cynaliwyd hi yn ninas henafol Caerlleon, mewn pabell eang a chyfieus, mewn maes prydferth ar lan yr afon Dyf rdwy, ddydd- iau Mawrth, Mercher, lau, a Gwener, yn yr wythnos gyntaf yn mis Medi. Prif weithrediadau cerddorol yr Eisteddfod hon oeddynt fel y canlyn :— • I. Cystadleuaeth. 1. Cyfansoddiadàu.—Cantata ar "Y Mab Afrad- lon"—y geiriau buddugol yn Eisteddfod Aberystwyth, gan Eos Bradwen. Gwobr £20 a thlws. Y goreu oedd Mr. Joseph Parry, America. Beirniaid, Mr. J. Thomas, Mr. B. Richards, a'r Parch. E. Steplien. STí chafwyd dim beirniadaeth ar y cyfansoddiadau, yr hyn sydd yn ddiffyg pwysig yn ngweithrediadau yr adran hon ; ond sylwai y beirniaid gyda golwg ar y cyfansoddiad budd- ugol:—Fod ganddynt hyfrydwch mawr mewn galw sylw at y fí'aitli, fod cynydd mawr wedi ei wneyd yn neillduol mewn dau o'r cyfansoddiadau a anfonwyd i'r gystadleuaeth hön. Yn gymaint ag mai amcan y Cyngor ydyw amaethu gwybodaeth gerddorol morbell ag y mae yn ddichonadwy yn mysg ein cydgenedl, a dyrchafu cymeriad cyfansoddiadau cerddorol Cymreig, eu bod yn dymuno dweyd yn eglur nas gallai neb ond Cymro enill y wobr hon ; o ganlyniad, os, ar ol i'r dyfarniad hwn gael ei gyhoeddi y ceid fod y gwaith yn eiddo un nad ydoedd yn Gymro, y byddai i'r wobr gael ei hatal neu ei rhoddi i'r ail oreu, fel y gwelai y beirniaid yn oreu, a gobeithient y dylynid yr un drefn ar bob achos o hyn allan. Dymunent gyhoeddi fod y gwaìth i ba un y dyfarnent y ẁobr y cyfansoddiad goreu o lawer a an- fonwyd i unrhyw Eisteädfod yn eu cof hwynt. Canig i leisiau gwrrywaidd. Gv/obr, 5 gini. Goreu, Gwilym Gwent. Y Beirniaid oeddynt, Owain Alaw, J. Thomas, Blaenanerch, ac Eos Llechid. M chafwyd dim beirniadaeth. Traethawd ar Ganu Pennillion. Un ddaeth i law, sef yr eiddo Idrys Fychan; a dyfarnwyd iddo y wobr. 2. üann.— Canu The Deep repose of K"ight (Mendel- ?sohn) a Lady rise (Smart), gan gor. Gwobr, £20 a tlilws. Daeth pedwar o gorau i ymgystadlu. Y goreu oedd Cor Merthyr, dan arweiniad Mx. David Francis. Beirniad, Mr. H. Leslie, Llundain. Rhoddwyd ail wobr o £4 i gor Bwcle. Canu Y Tylwyth Teg (J. Thomas) neu Ye little birds (B. Bichards), gan gor. 4 o gorauyn cystadlu yma eto; a'r goreu y waith hon hefyd oedd Cor Merthyr. Bhodd- ai Mr. Leslíe ganmoliaeth iichel iawn i'r cor. Canu Through the day thy love hath spared us. Gwobr, 4gini, ganMri. Cocks & Co., Hundain. Goreu, Cor Merthyr. Canu What bells are those. Goreu, Cor Merthyr. Canu Llwyn On neu Dafydd y Gareg wen, gan ferch- ed. Gwobr, Casgliad Pencerdd Gwalia. Goreu, Miss Forey, Merthyr. Canu Y Ewyalchen neu Clychau Aberdyfì, ganfercli- ed. Miss Porey, Merthyr, yn unig a ganodd, a dyfarn- wyd iddi y wobr. Canu Serch Hudol neu Y Gadlys. Gwobr, Casgliad Pencerdd Gwalia. 4 yn cystadlu. Goreu, Mr. Moses H. Davies, Penycae, yr hwn hefyd oedd yn un o Gor Merthyr. Canu Y Gwenith Gwyn neu Morfa Bhuddlan, gan feibion. Goreu, Mr. J. Éeynolds, Brymbo. 3. Chwareu ar y Delyn.—Chwareu Alaw Gymreig gydag amrywiadau ar y Delyn Bedawl, gan feibion dan 25 oed. Gwobr o Delyn Bedawl ardderchog, rhodd Mrs. Wells, Aberystwyth. Goreu, Mr. H. J. Prost, Merthyr. Casglwyd y swm o £11 7s. ar y pryd, er rhoddi ail-wobr i Mr. J. Elias Davies, Bethesda. Chwareu Glan Meddwdod Mwyn, o Gasgliad Aptomas Gwobr o Wciith Aptomas, gan yr awdwr. Goreu, Mr. Frost, Merthyr. Chwareu ar y Delyn deir-rhes. Un ymgeisydd yn unig a ddaeth yn mlaen, sef Mr. Lewis Williams, Dow- lais, a dyfarnwyd iddo y wobr, sef Telyn deir-rhes newydd. 4. Chwareu ar y Piano.—Chwareu Dìfyrwch Arg- lwyddes Owen, o Gasgliad Mr. B. Bichards, gan ferch- ed dan 18 oed. Ymgastadleuodd pedair. Yr oreu oedd Miss Mary Ellen Davies, Flint; yr ail, Miss Eliza Jane Boberts, Caer. Beirniad, Mr. B. Pàchards. Chwareu ar y Piano gan feibion dan 18 oed. Goreu, Mr. J. A. Owen, mab i Owain Alaw. 5. Ysgoloriaeth Leisiol.—Swm yr Ysgoloriaeth hon ydyw £50, yr hyn a roddir tuag at roddi addysg gerdd- orol, yn ol cyfarwyddyd y Cyngor, i'r ferch rhwng 16 a 21 oed, a fernir yn fwyaf gobeithiol gyda golwg ar allu a thalent gerddorol. Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth yn Eisteddfod Abertawe. Enillwyd hi yno, gydag uchel gymeradwyaeth, gan Miss. Watts ; ond ni chafodd y gantores dalentog hono ffyrling byth o'r arian. Enill- v/yd hi y llynedd gan Miss Edmonds. Eleni yr oedd pedair o ferched yn ymgystadlu am dani. Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Miss Annie Francts, Merthyr (merch