Skip to main content

Y CE AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMY CYHOEDDEDIG DAN JSTAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AO UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Ehif. 65. GORPHENAF 1, 1866. Pius 2g.—gydoür post, 3c. AWE GYDA CHYNIWEIEYDD. Morgan.—Beth ycìyw'r Sasiwn ganu yna sydâ i fod yn Nghastell Caernarfon, Cyniweirydd ? Yn sicyr i chwi, mae'r bobol Avedi ynfydu yn deg loyw lan y dyddiau hyn gyda chanu. Wmffre Moris.—Yn Mhwllheli, Morgan, y mae 'r " Sasiwn ganu," os dyna ydych chwi 'n ei galw hi, nid yn Nghastell Caernarfon. Pa fodd y darfu i chwi feddwl am Gastell Caernarfon, Mor- gan ? Morgan.—Oni ddarllenais i ar ddu a gwyn yn y papur yna—y Cerddor, neu beth mae nhw yn ei alw fo ? mai yn Nghastell Caernarfon y mae y Gymanfa? Nid meddwl ddarfu i mi, cnd gweled a'm llygaid. Wmffre.—Wel, na, yn Mhwllheli, medd yr Herald, y mae y Gymanfa. Oyniweirydd.—Peidiwch a thaeru ; y mae pob un o honoch yn gywir. Wmffre.—Pob un yn gywir ? Na, y mae hyny yn amhosibl, os nad ydych chwi mor ffol a meddwl ein perswadio mai yr un peth yw Caernarfon a Phwllheli. Cyniweirydd.—Na, y mae ffordd arall i brofi 'r pwnc, ac y mae hono yn llawer hawddach na phofi mai Caernarfon yw Pwllheli. Ymbwyllwch chwi ychydig bach, a chewch ei gweled. Dyma hi. Y mae dwy Gymanfa gerddorol i fod. Y mae Cymanfa ganu gynulleidfaol i fod ju Mhwllheli ddydd Iau, Awst 9fed, a hono yw lly Gymanfa" sydd o flaen eich llygaid chwi, Wmffre ; a'r dydd Mercher canlynol, Awst löfed, y mae Cymanfa ganu gorawl i fod yn Nghastell Caernarfon, a hono oedd "y Gymanfa" oedd o flaen Uygaid Morgan. Dafydd.—Ar yr lleg o Orphenaf, onide? y mae y Gylchwyl Gerddorol yn Nghaernarfon? Cyniweirydd.—Ar y dydd hwnw y pender- fynwyd iddi fod ar y cyntaf, ond y mae wedi ei eymud yn mlaen i'r lôfed o Awst. A chlywais fod dau neu dri o resymau dros y cyfnewidiad. Un ydoedd, fod yr amser a nodwyd ar y cyntaf yn fyr iawn gan y Corau ; un arall oedd, ei fod yn digwydd mewn wythnos hynod o anghyfleus i rai o'r chwarelydd ; a'r trydydd—a dichon mai hwnw oedd y cryfaf—y gallesid cael gwasanaeth Miss Watts yn y cyfairfod ond ei gynal yn Awst, ac nas gellid ei chael yn Gorphenaf. Dafydd.—Y mae yn taro yn chwithig braidd hefyd fod y ddwy mor agos at eu gilydcl. Cyniweirydd.—Nid wyf fi yn gweled fod dim yn chwithig ynddo ond edrych yn bwyllog ac yn deg ar y pwnc. Yn un peth, y mae y cidau le mor bell oddiwrth eu gilydd fel nad oes dim perygli'r naill (ìlymanfa ddrygu y llall; a pheth arall, y mae dyben neillduol y ddwy yn wahanol i'w gil- ydd. Morgan.—'Dwn i ddim am y cyfarfod hwnw yn MhAvllheli; ond fe allwn i feddwl, wrth ddim a glywais i, mai rhyw amcan go wael sydd i'r cyfarfod yn Nghaernarfon. Dafydd.—Pa sut felly, Morgan ? Morgan.-—O'nd ydyn' nhw 'n myn'd i ganu gwagedd yno ? Nid oes dim rheswm yn y byd yn y pethau mae 'r Corau yna'n ganu y dyddiau hyn. Un jn canu clod i Llewelyn a'i Gi, y llall i Arthur, un arall i'r Hen Gymry gynt, un arall i'r Gwynt, un arall i'r Afon, un arall i'r Haf, arall i'r Gwanwyn, arall i'r Adar, afedraf fi ynfymyw gofio un o bob cant o'r pethau gweigion y mae'r Uanciau acw'n ganu. Fe garwn i wybod pwy sydd wedi rhoi cenad i neb ganu dim ond mawl i Dduw. Cyniweirydd.—Yn y fan yna, Morgan, yr ydych chwi a rhai pobl ereill o hyd yn camgy- meryd. Y mae yn hollol amlwg i mi fod y syn- iad yna yn anghywir, a'i fod yn gwneyd drwg. Y mae gan ddyn haAvl i ganu pob math o gerdd- oriaeth ag sydd yn gwasanaethu i holl deimladau naturiol dyn fel creadur; ond nid oes ganddo hawl i ganu, nac i wneyd dim arall, ag sydd yn gwasanaethu teimladau dyn fel pechadur. Y mae dosbarth mawr iawn o gerddoriaeth yn sefyll rhwng y masweddol, y gwag a'r llygredig, ar y naill law, a'r crefyddol a'r defosiynol, ar y llaw arall. Yn nififyg un gair gwell, yr ydym yn ei galw yn gerddoriaeth naturiol. Diffyg ystyried a chydnabod hyn a barodd i rai pobl redeg i eith- afoedd i gondemnio yr hyn sydd gyfreithlon, prydferth a da yn ei le, ac i ereill geisio llusgo alawon cenedlaethol o'u lle eu hun, ac ysgrifenu