Skip to main content

JCjJL vT. AT WASANAETH CEEDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PPJF GERDDOPION, CORAU, AC UNDEBAU CEPDDOPOL Y GENEDL. Rhip. 63. MAI 1, 1866. Pjris 2g.—gyädr post, 3e. Y COR. Tijag at fFurfio Cor, casgler ynghyd gynifer ag a ellir o gantorion goreu y dref neu yr ardal. Fel rheol gyíFredin, gyda gofal na byddo Ueisiau drwg, na phobl hollol anfedrus a dilaf ur, yn gynwysedig ynddo, goreu oll pa gryfaf fyddo y Cor. Wedi eu cael ynghyd, a gosod eu henwau yn drefnus ar y llyfr, y peth nesaf ydyw dosbarthu y lleisiau at y gwahanol ranau. Y mae o bwys mawr fod cyfar- taledd, neu gydbwysiad da, rhwng y rhanau. Yr ydys wedi myned i alw y Soprano, neu y Treble, yn gyffredin yn "brif lais," neu Air ; aü y mae hyny yn fynych yn gywir. Mewn Tonau Cynull- eidfaol y Soprano ydyw y prif lais. Mewn A]aw- on Cenhedlaethol, y prif lais, bid sicr, ydyw yr hen Alaw; ac nid ydyw y rhanau ereill mewn ystyr, ond cynghaneddiad iddi. Mewn amgylch- iadau felly, dylid bod yn dra gofalus am fod yr Alaw yn cael ei chanu gydag eglurder, ac na byddo un o'r rhanau ereill yn ei chuddio nac yn ei gorbwyso. Ond yn y rhan fwyaf o lawer o gerddoriaeth gorawl, nid felly y mae. Mewn Rhan-ganau, Canigion, Anthemau, Cydganau, bydd y cyfansoddwyr yn ymdrechu rhoddi ei le, ei swydd, a'i bwys i bob un o'r lleisiau. Nid math o wisg wedi ei gosod am alaw, neu felodedd, ydyw y gwahanol leisiau mewn cyfansoddiadau o'r fath hyn, ond corph cyfan, ac "ysbryd y peth byw" yn rhedeg trwy bob rhan o hono. Y mae o'r pwys mwyaf, gan hyny, fod cyfartaledd priodol o nerth a gallu yn perthyn i bob liais. Nid ydym yn meddwl, nac am haeru, felly y dylai pob llais fod yn gyfartal o ran rhif a nerth. Y mae am- ryw ystyriaethau yn ein perswadio i gredu na ddylent fod felly. Dichon mai y cyfartaledd goreu, a chymeryd yn ganiataol fod y lleisiau perthynol i bob rhan yn rhai cyffredin o ran nerth, fyddai rhywbeth tebyg i hyn. Dyweder fod lîhif y Cor yn 24 Ynarhodder—Soprano - - - 8 Alto - - - - 5 Tenor - ~ - 5 Bass - . - - 6 — 24 -3- Byddai y Soprano felly yn cynwys tua'r drydedd ran o'r holl nifer. Y mae gwahaniaeth rhwng lleisiau o ran gradd- eg (pitcli), gallu (power), ac ansawdd {guality neu timbré) ■ ond nid oes angenrheidrwydd i ni fanylu ar y pethau hyn yn y lle hwn, yn gyinaint a'n bod wedi ysgrifenu yn helaeth arnynt yn flaenorol. (Gweler Cerddoe, Ehif 23, 25, 27, &c.) Ceir syniadau prif athrawon y byd cerddorol wedi eu corphori yn yr erthyglau hyny. Wrth dcìosbaithu lleisiau y Cor, nid oes gan yr arholwyr ond profi yn unig beth fydd cylch neu raddeg (pitclì) Uais pob un o'r aelodau. Y mae lleisiau y merched, a siarad yn fanwl, yn dri dosbarth. Yr uchaf ydyw y Soprano. Cylch helaethaf y llais hwn ydy^y o B isalaw yr erwydd i Ê neu F uwchlaA^ yr erwydd, fel hyn: — Nid oes ond ychydig a gyrhaeddant F, ac ambell un G. Cylch mwyaf cyfFredin y llais hwn ydyw o C i A, sef, — Nid oes nerth maAvr yn nghyhyrau y peiriant lleisiol liAvn, a lled amherffaith ydyw eu nodau isaf, ond y mae ei rai uchaf yn glir ac ysgafn. Yr ail ddosbarth yw y Mezzo Sopr- ano. Nodau eithafol y llais hwn -3r—~\^ ydyw o G isaf i C uchaf, sef,— Ond ei gylch mwyaf esmwyth yd- yw o A isaf i F uchaf, sef,— Mae y llais h^vn yn f wy crwn a llawn na'r llall, ac y mae cyhyrau y peiriant lleisiol yn y cyffredin yn fwy cryfion. Y trydydd dosbarth yw y Con- tralto. Cylch eithafol y llais hwn ydyw o E isaf i B uchaf, sef,— Ond ei gylch mwyaf cyffredin yd- yw o F i D, sef,— Y mae cyhyrau y peiriant hwn yn gryfion, ond sych ac amheríîaith ydyw ei nodau uchaf. A siarad yn fanwl, yr un modd, y mae Ueisiau y meibion hefyd yn dri dosbarth. Yr uchaf