Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR CYMREIG. %trhjgrattm Ptsoî at ttránaríh (^yUotMìi pt mpj 5 %mrg. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebau Cerddorol y Genedl. Rhif. 27.—Cyf. II. MAI 1, 1863. Pris 2g.—gyda'r post, Sc. <£Bnittopstaír. CEEDDOBIAETH TN T RHIFTN HWN, Canig.—"Y BORETT." ("WSEEE THE BEE SUCKS:') Ehan o'r Alaw gan Db. Ahne. Trefniad W. Jaceson. Tu DAL. Caniadaeth........................... 17 Y Wasg Gerddorol..................... 18 Bywgraflyddiaeth ..................... 20 Beirniadaeth ........................ 20 Y Gerddoriaeth yn ein Rhifyn hwn............ 21 Cronicl Cerddoroi ... .................. 22 Hysbysiadau ....................... 24 Caníatiaeŵ Ansoddatt t Llais. (Qualities of the Voice.) Wedi dosbarthu y Llais Dynol yn ol ei radd (pitch), yr ydym yn awr yn dyfod i edrych ar y gwahanol ddosbarthiadau a berthynant iddo o ran ansawdd (quility or timbre). Yn yr ystyr hon, ymrana y llais i ddau ddos- bnrth mawr a chyff'redinol, y rhai, yn ìiiffyg geiriau gwell, a alwn wrth yr euwau y—Metelaidd | a'r Llinionog. Efelychir ac arddangosir y cyntaf gan yr offerynau pres o bob math ; efelychir ac arddangosir yr ail gan yr offerynau tannawg a chorsenog. Y mae y naill, mae yn wir, yn ymylu mor agos ar y llall, fel y mae yn anhawdd gwahaniaethu rhyngddynt yn mhob amgylchiad; ond nid ydyw hy ny yn rhwystr i wneyd y dos- barthiad cyffredinoì a nodwyd, uiwy nag y mae yr agosrwydd y rheda y naill wrthddrjch at y îlall yn mhob adran o'r greadigaeth yn rhwystr i efrydydd y gwyddorau i wneuthur dosbarthiad arnynt. I'r rhai sydd wedi clywed a sylwi ar ein prif gerddorion, y mae y gwahaniaeth hwn i'w deimlo ar unwaith. Yn perthyn i'r dosbarth cyntaf a nodwyd (y Metelaidd) y mae y soprano ardderchog Clara Novello, yn perthyn i'r ail (y Llinionog) j mae Jenny Lind; yn y cyntaf y mae Adelina Patti, yn yr ail y mae Mdlle. Titiens; yn y cyntaf y mae y contraìto Mad. Sainton-Dolby, yn yr ail y mae Mad. Alboni; yn y cyntaf y mae y baritone Sig. Belletti, yn yr ail y mae y 'bass Herr Formee. Teimlir y gwa- haniaeth ar unwaith hefyd, ond bod yn graffus, yn lleisiau ein siaradwyr cyhoeddus, ac yn ym- ddiddanion ein cymydogion a'n cyfeillion. Mwy tanbaid a tharawiadol yw y cyntaf, mwy tyner a gwefreiddiol yw yr ail; disgleiriach yw y cyntaf, mwy gwresog yw yr ail. Y mae y gwahaniaeth hwn yn wahauiaeth gwreiddiol, yn tarddu oddiar natur; yn deilliaw oddiar ffurf cyfansoddiad gwahanol ranau y corph, ac yn dal cysylltiad uniongyrchol ac annatodol â naws a nodwedd cyffredinol y meddwl a'r ysbryd. (rwir y gall celíÿddyd wneuthur Uawer yn y ffordd o efelychu, yn y peth hwn fel pob peth arall; ond dileu y gwahaniaeth, neu lwyr newid unrhyw lais o'r naill ddosbarth i'r llall, sydd yn anmehonadwy. Hyn yw y gwreiddiol achos paham y mae rhai cantorion a chantoresau ya rhagori mewn un math o gerddoriaeth, tra y mae ereill yn rhagori mewn math arall. Ond y mae rhai ansoddau annymunol ag y dylai y cantor a'r gantores fod yn dra gofalus i'w 'gochelyd. Ni a nodwn rai o honynt:— 1. Naws y Gwddf.—DyM y canwr sylwi a deall fod gwahaniaeth haufodol i fod rbwug gweithrediad gwahanol ranau y peiriant lleisiol pan yn pesychu neu garthu y gwddf a phau yn cauu' Yr ydym wedi clywe'd rhai cantorion yn taro pob nôd'fel pe byddent yn ei besychu neu yn ei garthu allau o'r gwddf. iíeblaw fod hyn yn yspeilio y canwr o lawer mwy o anadl nag a íyddai ra'id, y mae effaith y seiniau yn dra anny- munol; obíegyd er fod y seiniau yn cael eu curo allan megys â morthwyl, y maent yn gwbl an- sicr, annibynol ar eu gilydd, ac yn fynych yn araherffaith. Coüer mai y Beudag (Olottis) sydd i roddi allan y sain, ac nid y ddwyfron. (íorchwyl yr ysgyfaint yw gofalu am awyr; ond dyfodiad- yr awyr trwy y beudag, fel y dangos- asom mewn erthygl fiaenorol, sydd yn cynyrchu saiu. Tuag at ysgoi hyn, cadwer bôn y taíod yn hollol lonydd. Y blaen yn unig sydd i weithredu. ünwaith y byddo gwrai'dd y tafod yn ysgogi, y mae yn ymyraeth â rhydd weithrediad yr arfeu- dag (epìglottis), yn ei wasgu i lawr, ac felly yn effeithio i gynyrchu seiniau annymunol o'r gwddf. Gofaler hefyd fod esgyrn yr ê'n yn chwareu yn ysgafn a chwbl rydd. 2. Naws y froenau.—O ddiffyg gofal i agoryd y genau yn briodol, i ffurfio ceuedd digonol rhwng y taflod a'r tafod, bydd yr awyr gynhyrf- edig yn cynniwair trwy fynedfeydd y ffroenau;