Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR CYMREIG (ÇgMtgrHum Jptisoî at arasanaeth (^r&âofmiìt pt m^ n djjgmrj* Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac TJndebau Cerddorol y Genedl. Rhif. 21. TACHWEDD 1, 1862. Pris 2g.-gydaW post^c. Csnnfcopsíalr. cerddoriaeth tn t rhuyn hwn, Anthem.—"DEUWCH, CANWN I'E ARGLWYDD." Gan "Nageli," aef Mr. D. Lewis, Llanrhystid. Tü DAL. Bywgraflỳddiaeth..................... 161 Cynghanedd (Harmony) ............... 163 Eisteddfod Caernarfon.................. 164 . Cystadleuaeth Aberaeron ............... 165 Adolygiad y Wasg..................... 166 Bwrdd y Golygydd.............. ...... 166 Cronicl Cerddorol..................... 166 Hysbysiadau ... .......,. ............ 168 IBjŴîgrafiÿDílíaetf) (BiographyJ. MOZART. (Parhad o tu dal 154.) TJn elfen ag sydd o'n blaen o hyd yn nghymer- iad Mozart ydyw, gweithgarwch diflino ei feddwl. Fel yr ydym yn myned yn mlaen, pa fodd bynag, y mae elfen arall yn dyfod fwyfwy i'r golẃg, sef, ei ofal i wneyd y defnydd goreu o gynnyrchion ei feddwl. Pan yn blentyn ac yn ]lanc, yr oedd ei awen, fel ffynnon gref, yn tywallt allan felod- edd o bob ffurf a chymeriad, fel erbyn ei ddyfod yn ddyn ieuanc, yr oedd ei gôf wedi dyfod yn ystorfa i swm mawr iawn o ddefnyddiau cerdd- orol. Ac fel yr oedd yn dyfod i oedran—ei farn yn ymgryfhau, a'i chwaeth yn ymaeddfedu, byddai yn ail-ymaflyd mewn llawer o'r defnydd- iau hyny, ac yn eu cyflunio o'r newydd. Fel hyn, yn wir, y mae pawb o berchen meddwl gweithgar a chynyrchiol yn arfer gwneyd. Ni a gawn lawer o felodion a darnau cerddorol a gynyrchwyd gan Handel ar y cyntaf yn gynar yn ei fywyd wedi eu hail-gyflunio a'u gosod mewn gweithiau mwy diweddar o'i eiddo. A diamheu, pe caniateid i ni olwg ar gynyrcbion boreuol pob dyn o athrylith, y caem fod hyn yn wir- ionedd cyffredinol. Erbyn hyn, y mae Mozart ieuanc yn 17 oed. Yn mis Grorphenaf, 1773, aeth ei dad ac yntau i Yienna, prif ddinas Awstria. Pa beth oedd aincan neillduol y daith hon nid ydyw yn bollol hysbys; ond y mae yn eglur fod Leopold Mozart yedi Uwyr flino ar Salzburg, ac yn anfoddlon iawn o herwydd ymddygiadau yr Archesgob tuag at ei fab. Ond ni ddaeth nemawr oddiwrth y daith hon heblaw ychydig ryddid am dymor oddiwrth bresenoldeb a dylanwad yr Archesgob. "En Ehagfyr, 1774, efe a aeth i Munich, i gyfansoddi Opera erbyn y Nadolig. âc yn yr opera hon—" Lafuita Giardinera"—efe a am- lygodd rai o'r prif nodweddion a ganfyddir yn y gorchestweithiau dramayddol a dderbyniodd y byd o'i law ar ol hyny. Cafodd y cyfansoddiad y derbyniad mwyaf gwresog a chroesawus, oddi- wrth bob gradd, o'r Penadur i waered; a barn y gerddorfa oedd, nad oeddynt "wedi clywed erioed gyfansoddiad mwy swynol." Yr oedd yr Archesgob yn Munich; ond nid oedd yn werth ganddo fyned i wrrando; a dywed "Wolfgang na wyddai beth i'w wneyd wrth wrando y teulu breninol a'r pendefigion yn clodfori yr ojpera ond siglo ei ben ac ysgrydio. Tra yn Munich hefyd, wedi ei amgylchu âg adgofìon am yr hen gerddor galluog Orlando di Lasso, yr hwn a dreuliodd yr 20 mlynedd diweddaf o'i fywyd yno, ac am Steffani, yr hwn yr oedd gan Handel.y fath barch i'w weithiau a'i 'goffadwriaeth, cyfansoddodd Mozart ddau was- anaeth, ac amryw ddarnau eglwysig ereill. Tra yn ysgrifenu yn nghanol yr adgofion a nodwyd, ac hefyd i gantorion a cherddorion o'r dosbarth goreu, nid rhyfedd ydyw fod y gweithiau hyn o eiddo Mozart yn rhai tra rhagorol. Yn nechreu Mawrth, 1775, dychwelasant i Salzburg. Yn fuan ar ol hyny, ymwelwyd â'r llys gan yr Archdduc Maximilian. Ceisiwyd gan Mozart gyfansoddi dernyn o gerddoriaeth ar yr achlysur, yr hyn a wnaeth; a bu yn hynod lwyddianus y tro hwn hefyd. Ond yn awr, yr ydym yn ymylu ar gyfnod tra phwysig yn hanes ei fywyd—cyfnod a adaw- odd ei effaith arno ef, o ran ysbryd ac am- gylchiadau hyd ddiwedd ei oes. Ni wirwyd geiriau yr hwn "a wyddai beth oedd mewn dyn" erioed ŷn fwy i'r llythyren nag yn Salzburg— " Nid yw prophwyd heb anrhydedd oud yn ei wlad ei hun." Tra yr oedd holl Ewrop yn mawrhau ac yn canmol y cerddor ieuane o Salaburg, nìd oedd pobl Salzburg ei hun—ac yn enwedig yr Archesgob a'i greaduriaid—yn gwel- ed dim ynddo ond llencyn tlawd i'w ddiysfcyru, i'w sarhau, a'i gadw mewn caethiwed. Dywed-