Skip to main content

CERDDOR CYMREICL %Irhjgrauîíi Jttiäüî at tüasanaráh ŵrdárjriaetlt pt mgsrj % %mrg» Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Coran, ao undeban Cerddorol y Genedl. Rhie. 13. MAWBiTH 1, 1862. Fris 2g.-gydaW po*t,Sc. ©nnnäjnsíab'. CEBDDOBIAETH Ttf T EHIFTN HWN, Anthem.—"EI AEGLWYDD A DDYWEDODD WETHO," gan Alaw Ddd, Aberdar. Tok Gînnttlleidfaol.—"EOFN," gan Ylltye Eeyei. Caniadaetb. Grefyddol ...... Cynghanedd {Harmony) Cyfondrefn y "Tonic Sol-Ea" Llythyrau Arthur Llwyd Cronicl Cerddorol ...... Bysbysiadau ............ Tu dal. 97 98 99 100 102 104 Caníatmetf) ẅefpDticiL (Parhad o tu dal. 82.) 3. T peth nesaf y dymunem ei gymell ar y rhai a roddant allan Etnynau i'w cauu ydyw,— Enwi y tudalen y byddo yr Hymn, yn uchel ac eglur, a hyny cyn dechreu ei darllen, fel na byddo y gynulleidfa yn gorfod troi tudalenau y Llyfr Hymnau i chwilio ara yr Hymn pan y dylent fod yn addoli. 4. Darllen yr Etnyn, na pa faint bynag o honi y bwriedir ei chanu ar y pryd, yn eglur a deall- adwy—mewn llais digon uchel i bob un o'r gyn- nlleidfa ei glywed ; a chan roddi allan synwyr a theimlad y farddoniaeth, hydy gellir, wrth ddar- llen. Rhydd hyny gyfleustra i arweinydd y canu i ddewis tôn briodol ar yr Emyn, a hamdden i'r gynuìleidfa i geisio ymwthio o/an eu meddyliau a'u teimladau i ysbryd y geiriau. Ehy ycbydig o ganu sydd yn nghynulleidfaoedd y Cymry yn gyffredinol, ac yn enwedig cynulleidfaoedd yr Ymneillduwyr o wahanol enwadau; ac y mae y diffyg hwn yn gorwedd, gan mwyaf, wrth ddrys- au y gweinidogion, neu y neb a roddant alìan eiriau i'w canu. Y cwbl a genir mewn llawer o gynulleidfaoedd ydyw pennill bychan yn nechreu yr oedfa, a hyny yn nghanol trwst pobl ag nad ydynt wedi meddwl erioed y dylent fod yn yr addoldy cyn amser dechreu y cyfarfod; cenir pennill bychan, neu haner pennill weithiau, tra bydd y gweinidog yn chwilio am ei destyn j ac yn niwedd y cyfarfod, cenir pennill tra bydd y bobl yn myned allan. Heb son am yr anhwylus- dod a achosir yn y canu yn nechreu ac ar ddiw- edd y cyfarfod trwy waith pobl yn dyfod i fewn ac yn myned allan, y mae llawer iawn rhy ych- ydig o amser y cyfarfod yn cacl ei roddi at ganu mawl yn y cynulleidfaoedd dan sylw ; ac y mae yn hen bryd cael diwygiad eífeithiol yn y peth hwn. Nid ydyin, ar un cyfrif, am anog ein cyn- ulleidfaoedd i efelychu eglwysi cadeiriol ein gwlad, y rhai a ganant y gweddiau, a'r credoau, &c. Cam dirfawr â cherddoriaeth, a'i Uusgo yn ddirdreisiol at wasanaeth na pherthyn iddi, ydyw hyn. Er ein holl hoffder at gerddoriaeth, ac yn enwedig cerddoriaeth greíyddol, byddai ein hen- aid yn cwbl ddiflasu ar y dull hwn o addoli, hyd yn nod yn St. Paul a Westminster, Llundain. Ond yn y peth hwn, íël Uawer o bethau ei-eill, y mae llwybr gwirionedd yn rhedeg yn y canol— rhwng yr eithafoedd; ac os ydyw ein heglwysi cadeiriol yn gwneyd cam â cherddoriaeth, trwy ganu 'gormod, y mae yn hollol sicr fod lluaws mawr cynulleidfaoedd yr ymneullduwyr yn taflu sarhad arni trwy ganu rhy ychydig. A thrwy hjny y mae crefýdd yn cael ei hymddifadu o'r mawr nerth a'r dylanwad annysgrifîadwy sydd gan gerddoriaeth. Ehodder ychwaneg o amser, ynte, i'r gynulleidfa i ymarfer yn y rhan hon o 'wasanaeth cyhoeddus y cysegr. 5. Ar ol darllen yr Emyn y waith gyntaf, rhodder adeg i'r gynulleidfa i godi ar eu traed. Y mae ein cymydogion yr Ysgotiaid yn arfer canu o'u heistedd; ond ein trefn ni y Cymry ydyw canu, yn y cyffredin, ar ein traed; a diam- heu fod manteision pwysig yn gysylltiedig a'r drefn hon. Cyn dechreu ail ddarllen y pennill- ion, ynte, canìataer ychydig o eiliadau i'r holl gynulleidfa i osod eu hunain mewn sefyllfa fan- teisiol, fel y gallo pawb ddechreu canu ar un- waith mor fuan ag y byddo yr arweinydd wedi rhoddi cyweirnod y Dôn, ac wedi amlygu yn mha ardduìl ac amser y bydd yn golygu ei chanu. Byddai hyn yn brydferth a dymunol dros ben, yn lle yr hen arferiad wrthun a diíîas a welir mewn rhai cynulleidfaoedd, o godi, y naill ar ol y llall, ar ol i'r arweinydd ddechreu. Gwelsom, er ein blinder, cyn hŷn, mewn cynulleidfaoedd mawrion, na byddai haner dwsin ar eu traed pan