Skip to main content

Cìîlrltgrattm JJíüaal at tt?äs>anaetît (^trUoûutìt pt m$>0 g %mr|r. Cyhceddedig dan nawdd prif Gerddoricn, Corau, ac Undebau Cerddorol, y Genedl. Bhif. 10. RHAGFYB, 1, 1861. JPris 2g.—gydà'rpost, Sc' ffîünníDnstaîí. CEHDDORIAETH YN T EHIETlf HWN, Canio.—" Y BLODEUYN OLAF." Y Geiriau gan Eìihts ; a'r Gerddoriaeth gan J. A. Lloîd. Mynegiant Cerddorol (Musical JExj>ressionJ Cyfundref'n y "Tonic Sol-Ea" ........ Cyfansoddiadau Eisteddlod Aberdâr Adolygiad y Wasg................. Bwrdd y Golygydd................. Amrywiaeth .................... Cronicl Cerddoroì .............. Hysbysiadau .................... Tu dal. 73 74 76 77 9pnegtant Cer&Dorol. (Musìcal Exprcssion). T CYFATEBIAETH EHWXG CEllDDORIAETH AC AHLIWIAETH. Tn gymaint ag nad yw cyfansoddiad cerddor- iaeth yu wybyddus ond i ychydig heblaw ei phroffeswyr, a bod arliwiaeth (painting) yn dwyn agosach cyssylltiad â phawb yn ddiwabaniaeth, barnasom mai nid anfuddiol fyddai dangos natur ac ansawdd cerddoriaeth, drwy gyffelybiaetb.au cyfatebol yn y chwaer gelfyddyd—paentiaeth. Y prif gyfatebiaethau, neu 'r tebygrwydd cyn belled ag y sylwais i, rhwng y ddwy gelfyddyd ardderehog dau sylw, ydynt yn debyg i'r hyn a ganlyn,— 1.—Y mae 'r naill fel y llall yn sylfaenedig ar fesureg (geometry) a chyfartalrwydd yn eu rhanau. Ac er fod ymdoniad yr awyr, yr hwn yw achos uniongyrchol swn, mor deneulym o ran ei natur, ac yn myned heibio heb ddwyn ein sylw; eto, mae dirgryniadau (yibrations) y llin- yn cerddorol, oddiwrth ba rai y deillia yr ym- doniad hwu, yn ddarostyngedig i fesuroniaeth, fel y mae gwrthddrychau gweledig yn nghyfan- soddiad darlun. 2.—Fel y mae prydferthwch darlun yn dy- byDu ar dri pheth, sef, cynllun (design), lliwiad (coìouring), a mynegiant; felly y dybyna prjà- ferthwch'cyfansoddiant cerddorol ar dri pheth, sef peroriaeth, cynghanedd, a mynegiant. Mel- odi, neu alaw, sydd waith y dychymyg, ac o gan- lyniad, y mae yn sylfaen i'r ddwy arall, ac felly yn cyfateb i gynllun mewn arliwiaeth. Y mae cynghanedd yn rhoddi prydferthwch a nerth mewn alawon, yr un fel yn hollol ag y mae lliw yn ychwanegu bywyd i'r gwir gynllun. Ac yn y naill a'r llall o'r achosion hyn, drwy gyfuno y ddwy ereill, y deillia yr hyn a alwn yn myneg- iant, yn mhob un o'r ddwy chwaer gelfyddyd, ac yn enwedig, pan y byddant wedi eu gwir gymhwyso, a'u haddasu i'r amcan mewn golwg. 3.—Fel y mae gan gymysgedd priodol goleu- ni a chysgod, effaith ardderchog mewn arliw- iaeth, ac yn wir yn hanfodol i gyfansoddiad darlun da ; felly y mae cymysgedd doeth cydseiniaid ac anghydseiniaid yr un mor hanfodol i gyfansodd- iad cerddorol. Ac fel y mae cysgodion yn ang- enrheidiol i gynnorthwyo a bywiocau y llygad, yr hwn yn fuan a flina ar ryw ysplender anghyf- newidiol; felly y mae anghydseiniaid yn cyn- orthwyo ac yn bywiocau y glust, yr hon yn fuan a flina wrth wrando ar ryw gynghanedd anghyf- newidiol ac undonog. Grallwn ychwanegu fod paratoad ac adferiad yr anghydseiniaid, yn gy- ffelyb i symudiad tyner ac esmwyth o oleuni i gysgod, ac o gysgod i oleuni, mewn arliwiant. 4.—Fel y mae mewn paentiaeth dair o wa- hanol raddau o bellderau, sef, y cynsail, y canol- ran, a'r pelldrem; felly y mae rnewn cerddor- iaeth dri o wahanol ranau hollol gyfatebol; sef y sawd (ueu 'r cynsail), y cyfalaw (neu 'r canol- ran), y meinllais (neu'r pelldrem). Felly, cyf- ansoddiad cerddoi'ol heb ei sawd (bass) sydd gy- ffelyb i dirluniad heb gynsail (foreground); heb ei gyfalaw (tenor), yn debyg i diriuniad heb ei gauolran (intermediate part) ; heb y meinllais (treble), mae fel tirluniad heb ei belìdrem (off- sJcip). Y mae yn eithaf hysbys pa mor anmher- ffaith yw darlun wedi ei yinddifadu o un o'r rhanau uchod; a gallwn ffurflo barn am y rhai sydd yn benderfynol o brydferthwch unrhyw gyfansoddiad cerddorol, heb ei weled, na'i gly^- ed, yn ei holl ranau, na deall perthynasau y naill a'r llall. 5.—Mewn arliwiaeth, yn enwedig yn y rhan- au ardderchocaf o honi, ac yn neillduol mewn hanes arliwiaeth, y mae prif ffigyr, yr hwn sydd benodol, neillduol, ac amlwg, ac i'r hwn y mae yr holl ffîgyrau ereill yn ddarostyngedig. Felly