Skip to main content

CERDDOR CYMREIG. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebàu Cerddorol, y Genedl. Bhie. 8. HYDREP 1, 1861. Pris Ig.—gydctrpost, 3c. eCpnnöogsíalr. CEEDDOEIAETH YN Y EHIFYN HWÌÎ, Anthem —" MOLWCH YR ARGLWYDD," gan ÔWILYM Gwent. (Ctüblhâd.J Paet Sono— " CERDDl CYMRTJ," gan Owain Alaw. Ton G-yNULLEiDFAOL.—Buddugol yn Eisteddfod Llan- golien, gan Dewi Wyllt. Tudal. Cynghanedd (Harmony.J.................. 57 Cyfundrefny "Tonic Sol-Fa" ............ 58 Cyfansoddiadau Eisteddfod Aberdâr ......... 60 Llythyrau Arthur Llwyd............... 61 Cronicl Cerddorol.................. ... 63 Hysbysiadau ........................ 64 CpngÖaneîIÎJ fSarmonyJ. Gwethddülliad coediatj (Inversion of ChordsJ, Erbtn hyn,y mae yr efrydydd sydd wedi ein dilyn yn fanwl a meddylgar trwy y gwersi blaenorol wedi dyfod i weled ac adnabod lluaws o wahanol gordiau, ac wedi canfod o ba leoedd y deilliant a pha fodd yr ymffurfiant. Ond y mae yn sylwi, ar yr uu pryd, mai yn eu ffurf gwreiddioì yr ydym wedi bod yn ymwneyd â hwynt; a bod ysgog- iadau y gwahanol ranau, oblegyd hyny, yn Ued anystwyth a diaddurn. Clogyrnog iawn oedd symudiadau y Bass mewn modd arbenig. Yr ydym wedi dangos o'r blaen (tudal. 42) y gall yr Alaw gymeryd i fyny unrhyw, a phob rhyw ran o'r cord—yr 8fed, y 5ed, y 3ydd, neu pa aelod bynag o hono fyddo yr awdwr yn ddewis; ac yr ydym wedi gweled fod manteision lawer yn deilliaw o hyny. Y mae yr un peth yn wir- ionedd am bob un o'r rhanau ereill, yn gystal a'r Alaw; a'r gwahanol ddulliau o ddosbarthu gwahanol aelodau y cordiau rhwng y gwahanol leisiau ydyw yr hyn a elwir Gwrth-ddulliau. Gelwir y cordiau hyny a safant yn eu sefyllfa naturiol, a'u gwreiddiau yn y Bass, yn gordiau gwreiddiol; a'r rhai y byddo eu gwreiddiau wedi eu taflu i'r naill neu y llall o'r rhanau uchaf, yn gordiau gwrthddulliedig. Yn gymaint ag nad oes dim seiniau newydd- ion i gael eu dwyn i'r cord wrth ei wrthddullio, gwelir ar unwaith y gellir gosod pob cord mewn cynifer o wrthddulliau ag sydd o wahanol sein- iau yn ei gyfansoddi, heblaw y sain sylfaenol. Dalied yr efrydydd ieuanc ar y ffaith, nad oes un sain newydd, estronol, i gael ei dwyn i mewn i gord wrth ei wrthddullio; oblegyd byddai hyny ar unwaith yn newid y cord, ac nid yn gosod yr un coid mewn gwahanol ddulliau. Y mae i bob triad (cord o dair sain) ddau o wrthddulliau. Ni a wrthddulliwn y triad mwy- af (neu y cord cyffredin mwyaf) ar C, fel hyn:— 2ZE m. Gwreiddiol. Gwrtliddull laf Gwrthddull 2il. Yn y lle cyntaf, saif y cord yn ei ffurf wreiddiol —y gwreiddyn yn isaf, a'r rhanau ereill mor agos at eu gilydd ag sydd ddichonadwy uwch- law hyny. Yn yr ail le, y mae y gwreiddyn wedi cael ei symud i'r rhan uchaf, a'r nod cyn- taf yn awr ydyw 3ydd y cord yn ei ffurf wreidd- iol. Oddiyma yr ydym yn cyfrif—cyfrifir cord- iau bftb amser o'r gwaelod i fyny. 0 e i g yr ydym yn cael 3ydd, ac o e i c y mae 6fed. Y cord hwn, gan hyny, ydyw cord y 3ydd a'r 6fed; neu yn ol y dull cyffredin o'i alw, cord y chwech- fed. Yn y trydydd lle, yr ydym yn taflu, nid yn unig y gwreiddyn, ond y trydydd hefyd, o'u safle cyntefig; ac "felly, y mae 5ed y cord yn ei sefyllfa wreiddiol yn dyfod yn nod isaf. Oddi- yma—o g, yr ydym yn cyfrif tuag i fyny, ac yn cael c yn 4ydd, ac e yn 6fed. Y cord hwn, o ganlyniad, ydyw cord y 4ydd a'r 6fed. Gwelir ar unwaith nas gellir ffurfio gwrthddull arall o'r cord uchod. Gellir eu gosod mewn cyfleadau gwahanol; ond ni fydd hyny yn newid y cord, fel hyn:— Cord gwreiddiol. Gwrthddull laf. Ail wrthddull. Nid yùyw yr uchod ond ychydig o'r gwahanol gyfleadau yn mha rai y gellir gosod pob un o'r cordiau; ond y mae y cord o ran ei elfenau yn parhau o hyd yn ddigyfnewid. Er mwyn cynefindra a pharodrwydd, ymar- fered yr efrydydd ieuanc a gosod y cord uchod a'i wrthddulliau a'i gyfleadau yn mhob cyweir- nod, Yn awr, ni a symudwn yn mlaen at Górd y Seithfed Llywyddol a'i wrthdduJliau, yr hwn a saif fel y canlyn:—