Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

%lr!tgrattm Jfẅri at nraaamtdh %ridûriad& jm mp,g g (fptj. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddoricn, Corau, ac Undebau Cerddorol, y Genedl. Rhif. 6. AWST 1, 1861. JPris 2g.~gydar post, 3c, (£nnníDijsíaîí, CEE.DDORIAETH Tîî Y RHIFYN HWN, Ahthem — "MOLWCH YR ARGLWYDD," gan Gwiitm Gwent. (Fw gorplien yn y nesafj Tu dal. ... 41 42 ... 43 44 -;.. ... 45 46 ... 46 48 Bywgraffyddiaeth (MozartJ Cynghanedd (Harmony) Cyfundrefn y " Tonic Sol-Fa" G-ohebiaethau Bwrdd y Goiygydd Almanuc y Cerddor ... Cronicl Cerddorol Bysbysiadau idptograffpDûíaetö* M O Z A R T .—(Parhâd.J MOZART TN YIENNA. Cenfioen! Ai tybed fod yn ddiehonadwy i lanc ieuanc deuddeg oed ddyfod yn wrthddrych cenfigen cerddorion mawrion Vienna ? Tdy w; ac nid yn unig yn ddichonadwy, ond y mae yu ffaith. Wrth weled y derbyniad a roddid i'r llanc, ei fedrusrwydd ar y Clavier, a'r athrylith a amlygid yn ei gyfansoddiadau, dechreuodd gwyr mawr y gerdd yn Vienna ofni y byddai iddynt hwy gael eu taflu i'r cysgodion, ac ymrodd- asant, gyda'u gilydd, i arfer pob moddion i ddin- ystrio ei boblogrwydd a ìladd ei ddylanwad. T cynliun cyntaf a fabwysiadwyd ganddynt oedd peidio myned i'w weled na'i glywed; yna, os goíýnai rhywun eu barn am dano, yr oedd yr ateb wrth law, nad oeddynt wedi ei glywed—fod yn amhosibl ei fod yn cyflawni yr hyn a adroddid am dano—fod ei dad ac yntau yn 'twyllo y bobl —ac am gyfansoddi, mai perffaith ynfydrwydd oedd dweyd fod plentyn yn yr oedran hwuw yn gallu gwneyd dim o'r fath beth. Llwyddodd y tad un diwrnod i rwydo un o'r teulu gorwybodus hyn. Trwy gynorthwy cyfaill iddo, llwyddodd i gael Wolfgang ac yntau i gyfarfod eu gilydd ; ac yr oedd y eytaili heíyd wedi dwyn Conc'erto an- arferol o ddyrys o waith y cerddor ei hun i'w osod o flaen Wolfgang ar y pryd. Taflwyd y cyf- ansoddiad ar y Clavier o flaen y plentyn; edryêh- odd yntau arno yn gwbl dawel, a dechreuodd ei chwareu, ac aeth trwyddo mor berffaith a difeth. a phe buasai wedi bod yn ei astudio am fìsoedd. "Wel," ebai ycyfansoddwr, mewnsyndod, "fedraf fl ddweyd dim llai, fel dyn gonest, nag mai y bachgen hwn yw y dyn mwyaf yn y byd." Wrth weled yr athrod a'r dyfeisiau diddiwedd a arferid gan y gelynion, penderfyuodd Leopold Mozart, er nad oedd ganddo ond barn isel iawn am. chwaeth gerddorol Vienna, i roddi athrylith ei fab i'r prawf mwyaf trwyadl ag oedd yn ddichon- adwy. Tn unol ag awgrymiad yr Tmerawdwr, | penderfynwyd fod y plentyn i gyfansoddi Opera, a'i dwyn allan yn mhrif chwareudy y ddinas. Dewisodd Wolfgang ei destyn, ac nid cynt yr oedd y geiriau wedi eu trefnu, nag yr oedd y gerddoriaeth yn barod. T pwnc nesaf oedd ei dwyn allan; ond na—yr oedd malais yn rhy gyfiwys i hyny; yr oedd y naill anhawsder ar ol y llalí yn cyfodi—cynullid esgusodion—torid addewidiou—cyhuddid y cyfansoddiad o fod yn anhawdd ac annaturiol ; a rhwng pob peth, llwyddwyd i'w llwyr ddifetha, yn lle ei dwyn allan. Tn y cyfarfod cyntaf a gafwyd i'w dysgu gwnaed pob ymdrech, gan y cantorion a'r offer- ynwyr, i'w harddangos yn y wedd fwyaf gwrthun wedi hyny, yr oedd amryw o'r prif alawon heb fod at chwaeth y cantorion oedd i'w datganu, ac yr oedd yn rhaid eu newid—yr oedd y rhanau yn gymysglyd—ac yn ben ar y cwbl, haeriad ei bod yn anchwareuol. Cenfigen yn unig a all esbonio pa fodd y bu cyfnewidiad mor fawr yn eu barn am dani. Tn y dechreu, dywedent ei bod yn ardderchog—ei bod yn well na llawer Opera It- alaidd—a hyd yn nod pe na buasai y gerddor- iaeth ond cyftredin, fod y ffaith fodyr opera wedi ei chyfansoddi gan fachgen deuddeg oed, ac yn cael ei datgan dan ei arweiuyddiaeth, yn ddigon gyrchu yr holl ddinas i'w gwrando. Ar ol eu cadw yuo, pa fodd bynag, am rai misoedd, gan eu taflu heibio o wythnos i wythnoa ag addewidion twyllodrus, y diwedd fu na ddygwyd allan yr opera. Tn yr ymddiddan diwecîdaf a fu rhwng y tad a llywodraethwr yr opera, dywedodd yr olaf, " Os ydych chwi am wneyd eich mab yn wrthddrych digrifwch a gwawd yr holl ddinas, ni bydd genyf fi un gwrthwynebiad i ddwyn allan eí opera." Teitl y cyfansoddiad anffodus hwn, copi o ba un sydd'yn awr ar gael, yn ilawysgrif Mozart ei hun', ac yn cynwys 558 o dudalenau