Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÌnMiignutm Jptísaî at raauacth töerádoriartlt gm mpj jî djjgmrj. Cyhoeddeàig dan nawdd prif Gerddoricn, Corau, ac Undeban Cerddorol, y Genedl. Rhif. 3. MAI 1, 1861. JPris 2g.—gydár post, Sc. ©pnntoBSÍaîí. CERDBORIAETH YN Y EHIFYN HWST, Anthbm.— "DEFFRO, ARGLWYDD," gan Eos Llechid. CHORAL,— "Wedi ei gyfaddasu i'r Gwaith hwn, gan W. Owen, Porthmadog. Y Geiriau gau Emrys. Tu dal. Bywgrafffddiaeth (Mozart) ... ... 17 Egwyddo'rion Cerddoriaeth ... ... ... 18 Cynghanedd {Earmony) ... ... ... 19 Trem ar y Byd Cerddorol ... ... ... 20 Y Wasg Gerddorol ... ... ••• 21 Llyfrau Cerddorol i'w hadolygu ... ... 22 AÍmanac y Cerddor ... ... ... 22 Cronicl Cerddorol ... ... ... ■•• 23 Hysbysiadau ,.. ... ... ...... 24 MOZ ART.— (ParMd.) MOZART YN BLENTYN. O ran tymer, un anarferol o siriol a chwareugar oedd "Wolfgang, neu " Wof'erl," fel y byddidj arferol o'i alw yn yr Almaen. Cyn iddo ym- afìyd mor egu'ioì mewn cerddoriaeth byddai yn fynych yn ymgolli mor Iwyr yn ei ohwareu nes anghofio ei fwyd. Sr oedd llwyrder gyda'r hyn yr ymaflai ynddo yn un o brif elfenau ei gymer- iad. Pan ddechreuodd ar rifyddiaeth, ymdaflodd iddi mor holiol nes anghofio hyd yn nod cerdd- oriaetb ei hun am beth amser. Byddai y mur- iau, y cadeiriau, y by*rddau, ac hyd yn nod y lloriau wedi eu Ueuwi â ffygyrau; ac y mae yn liysbys ei fod yn rhifyddwr anarferol o fedrus a chyflym. Yr oedd tynerwch teimlad hefyd yn elfeu dra nodweddiadol yn ei gymeriad. Goíynai ddengwaith yn y dydd í'r rhai fyddent o'i gylch, a oeddynt yn ei garu ; ac os atebent nad oeddynt, gwelid ei lygaid yn ymlenwi o ddagrau yn y fan. Yn nechreu y flwyddyn 1762, pryd nad oedd y plentyn eto ond chwech oed, wrth weled talent anarferol ei blant, dechreuodd eu tad ar y gorch- wyl annoeth o'u cymtryd ar draws y byd, ac yn enwedig i lysoedd brenhinoedd a phalâsau pen- defigiou, i'w harddangos, Y mäe yr. awydd i arddangos plant o dalent yn ffynu yn ormodol yn ein gwíad a'n dyddiau ninau ; a'llawer dyn a dynes ieuanc, ar ol Mozart, a gawsant niwed dirfawr yn ngwaith eu rhieni a'u perthynasau yn eu gwthio yn gynamserol o flaen y cyhoedd. Nid oes un amheuaeth na chafodd Mozart ieuanc lawer o gam yn y mater hwn. Yn lonawr, y flwyddyn uchod, ei dad a'i dygodd ef a'i chwaer i lys Bavaria, yn Munich. Nid ydym yn cael ond ychydig o hanes yr ar- ddangosfa hon. Y cwbl a ddywedir mewn cy- sylltiad a hi ydyw, iddynt aros yno am dair wyth- nos—i Wolfgang chwareu concerto ym mhresen- oldeb yr etholwr—a'i fod ef a'i chwaer yn wrth- ddrychau syndod a chanmoliaeth pawb yn y llys. Dychwelasant i Salzburg; ac wedi i Woîfgang gael ei anrhegu gan ryw gyfaill â chrwth fechan, efe a ddechreuodd gyda'i awch arferol ar yr offeryn hwnw. Bu caffaeliad yr offeryn hwn yn achlysur i ddadlenu ei alluoedd mewn cyfeiriad newydd. Cyn ei fod wedi cael gwersi rheolaidd ar yr offeryn, daeth cyfaill i'w dad o'r enw Wengl, chwareuwr rhagorol ar y crwth, i'r tý ryw ddiwrnod, gyda haner dwsin o drîonau o'i gyfansoddiad ei hun, i gael prawf arnynt. Cy- merodd AVenzl y rhan uchaf, Schachtner yr ail, a Leopold Mozart y trydydd. Yr oedd Wolf- gang yn ymyl, a thaer erfyniai am gael chwareu yr ail grwth. Yr oedd ei dad yn anfoddlon i hynj, am nad cedd wedi cael dim addysg ar yr offeryn; a phan ddechreuodd Wolfgang ddadleu ei fod yn ddigon galluog, dywedodd ei dad íod yn rhaid iddo ymadael o'r ystafell, a pheidio eu hafiunyddu. l)ecbreuodd yntau lefain, a phan oedd yn ymadael, cyfryngodd Schachtner ar ei ran, a chaniatawyd i'r plentyn chwareu ar ei grwth fechan gyda'r gwr hwnw ; l; ond cofiweh chwi chwareu mor isel fel nas gallo neb eich clywed," ebai ei dad, "onide fe fydd raid i mi eich danfon allan." Ond fel yr oeddynt yn myned ym mlaen, sylwodd Schachtner fod y plentyn yn chwareu mor gywir fel y gallai efe roddi ei grwth heibio, ac felly y bu. Chwareuwyd y chwech tri- awd nes oedd mynwes allygaidy tad wedi ymlenwi hyd yr ymylon wrth weled talent ei blentyn. Yn y mis Medi canlynol, cychwynodd yr holl deulu—y tad a'r fam a'r ddau blentyn—am Vienna, prifddinas Awstria. Ar ol cael eu cadw am bum niwrnod gan Esgob Linz, yr hwn oedd yn dwli ar y plant, hwy a gyrhẅd^dasant Vienna ac wedi aros yno rai dyddiau, daeth yr adeg iddynt gael eu galw i bresenoldeb yr Ymerawdwr