Skip to main content

CYMREIG (füìdtgntum Stisoî at írasanwth djjeridoriadh pt mgsj g <%mnî. RHi:F. 1. MAWÜTH 1, 1861. Pris 2g.—gyäcíf post, 3ô. CBnntoBStaîf, CERDDORIAETH Tîí T RHEFTN HWN, Cani& AR "Y GWANWYN"," gan MÜleeb; geiriau Cymraeg gau Ceieiog ac Islwyn. Tu dal. Ehaglith ... ... ... ... ... 1 Hanes Cerddoriaeth ... ... ... 2 Egwyddorion Cerddoriaeth ... ... .*. 4 Cynghanedd (Harmony) ... ... ... 5 Trem ar y Byd Cerddorol ... ... ... 6 Y Wasg Gerddorol ... ... ... 7 Hysbysiadau ... ... ... ... ... 8 iR&agUtíh BIN DAELLENWYR. "Wrtii fwrw golwg ar ein cydwladwyr oddiar saâe gerddorol, yr ydyra yn eu cael yn ymranu i bedwar dosbarth. Yn y cyntaf ni a gawn y rhai sydd yn ymhyfrydu mewn cerddoriaeth, yu feddianoi ar "glust" i'w derbyn, gwybodaeth ddigonol o'i hegwyddorion i'w mwynhau, a chaíon i'w gwerthfawrogi. Yn yr ail ni a gawn y rhai hyny sydd yn dwyn mawr sêl dros gerddoriaeth, ac yn treulio llawer o'u hamser i ganu, ond er pob peth nad ydynt yn gwybod dim am egwyddorion y gelfyddyd. Yn y try- dydd y mae y rhai a broffesant eu bod yn hom clywed canu, ac yn enwedig " canu da," fel y dywedant, ond na roddant ddim o'u hamser i ymarfer nac i ddysgu rheolau canu. A'r pedwerydd yw y rhai sydd yn diystyru canu, gan "farnu," meddant hwy, (gan'haeru m«wn anwybodaeth, meddwn ninau,) nad ydyw cerdd- oriaeth ond rhywbeth er difyrwch i segurwyr— dynion gweigion a didoraeth, merched a gwrag- edd diofal am eu dyledswyddau, a phlant ag nad oes ganddynt dditn arall i'w wneyd. Wrth y dosbarth hwn, y rhai a edrychant ar gynyrchion oes y fath feddyliau a Handel, Beethoven, a Mendelssohn fel gwagedd, neu foddion i gyn- hyrfu crechwen ddisylwedd—a olygant nad yw gwaith pum' cant o ddynion yn dalgan un o Dreithganau Handel, neu ddeucant o offeryn- wyr yn cyflawni un o symphonies Beethoyen, yn ddim amgen na chwareu plant, a bod y neb a elo i'w gwrando yn gwastraffu ei " amser am yr hyn nid ydyw fara,"—wrth y cyfryw, nid oes genym ddim i'w ddywedyd. Yr ydym yn tos- turio wrth eu sefyllfa; ond yn ofni fod eu har- gyhoeddi a'u troi, yn orchwyl anobeithiol. Am y trydydd dosbarth, nid ydym mewn un modd yn eu rhoddi i fyny mewn anobaith. Y mae eu calonau, meddant hwy, yn bleidiol i gerddor- iaeth. Nid ydynt wedi ymgastellu mewn rhag- farn yn ei herbyn; ac felíy, nid ydyw yn annich- onadwy y gwelir eto lawer o honynt yn treulio mwy o îafur ar yr hyn y proffesant eu bod yn hoff o hono. JMae yn debyg y bydd y dosbarth hwn a ninau yn cyfarfod ambell drp; ond prif wrthddrychau ein sylw fydd y dosbarth cyntaf a'r ail. 1,—Y mae ar ein calon i wneyd yr ychydig sydd ar ein dwylaw tuag at gyflenwi y diffyg mawr sydd yn aros byd yn hyn yn ein llenydd- iaeth gerddorol. O-weithiodd ein cyfeillion j Parch. J. Mills, a Mr. David Eoberts, ynghyd a'r diweddar awenyddol Eichard Mills, ac ereill, yn dra egniol ac effeithiol tuag at ddwyn gwy- bodaeth o elfenau cerddoriaeth o fewn cyrhaedd pob darllenydd Cymraeg; ond y gwyn gyffred- inol a glywir ydyw, fod eisiau ychwaneg, ac yn enwedig ar gynghanedd a chyfansoddiant. Hanesyddiaeth, Bywgraffyddiaeth, a dadblygiad gwyddonol o ddeddfau y gelfyddyd, nid oes yn ein hiaith ond y peth nesaf i ddim. Nid yw Uenyddiaeth y Saeson yn orgyfoethog yn yr ystyr hon, rhaid addef; eto, y mae ganddynt hwy eu Dr. Wallis, eu Hawkins, eu Burney, eu Hogarth, a'u herthyglau dysgedig yn eu gwydà- oniaduron. Mae ym mysg yr Ellmyn gyflawn- der mawr o wahanol ysgrifeniadau ar gerddor- iaeth ; ond tlawd ydyw y rhan hon o'u llenydd- iaeth hwythau o'i chymharu a rhai rhanau ereill, megys Beibl-feirniadaeth, a Hanesyddiaefch gy- ffredinol. Ond am genedl y Cymry, y gwirion- edd ydyw, nad ydyw swm ein llenyddiaeth gerddorol ond y gradd nesaf i ddim. Grwelir crybwylliad, yn awr a phryd arall, am gerddor- iaeth y Groegiaid—am Pythygoras, Aristoxenus, ac Euclid—am eu graddfaoedd a'u hofferynau; sonir weithiau am Ambros a Gregori a'u cerdd-