Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERDDOR GYMRE CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UMDEBAÜ CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 154. EHAGFYE 1, 1878. Pris 2g.—gydoür post, 2|c. AT EIN GOHEBWYR. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cehddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaẁ arneucyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Boberts, Fron, Carnarvon. CYNNWYSIAD- TUDAL. Oerddoriaeth Cystadleuaeth y Palas Gwydr ...... 87 Cor y Gogledd................. 88 Cantata Newydd Eos Llechyd .......... 82 Croniol Cerddorol......... ,...... 89 Lladratta Brawddegau.. .. .......... 23 CEEDDOEIAETH CYSTADLEÜAETH Y PALAS GWYDE. II. Be not afraid. (/. S. Bach). Y mae geiriau y Fotet ardderchog hon wedi eu cymeryd o brophwydoliaethau Esaiah, lle mae yr Arglwydd yn calonogi ac yn cysuro ei was Israel, yr hwn a rag- gysgodai y Gwas etholedig ag oedd i ddyfod i'r byd i gyflawni holl ewyllys y Tad. Geir geiriau y symuäiad cyntaf yn Pen. xli. adn. 10. Mae yr holl gyfansoddiad o nodwedd gysurus; a chyraorth neillduol tuag at roddi y mynegiant priodol i bob rhan o hono ydyw cofio pwy yw yr hwn sydd yn llefaru. I ddechreu, ceir dwy frawddeg sefydlog yn y bas—y gyntaf yn nghyweirnod y Tonydd, a'r llall yn y Llyw- ydd—tra mae y rhanau eraill yn ansefydlog a thoredig, fel pe byddai y cyfansoddwr ar unwaith am ddisgrifio sefydlogrwydd a chadernid yr Hwn sydd yn llefaru, ac ansefydlogrwydd, pryder, ac ofn y neb y mae yn llefaru wrtho. Wrth gychwyn rhaid i'r llesiau uchaf fod yn ofalus i ddechreu ar haner y curiad. Ar ryw gyfrifon, gwell fyddai curo wyth yn y ban. Dechreuai y rhanau hyn felly ar yr ail guriad. Ond os curir wyth, rhaid gofalu na byddo yr amser yn rhy araf. Bydd yr un gofal yn angenrheidiol wrth daro holl wahanol adranau y symudiad hwn. Yn ban 5, ceir fíigyr bychan a ail- adroddir gydag amrywiadau yn y banau dilýnol:— g—■tr—^—\pr—H-P-»-^-^— r stes" fe=E Be not a - fraid. Efc^E Rhodder hon yn eglur, a'r cord olaf yn hollol gywir. Yn ban 10, cychwynir cyfres o adranaa efelychiadol gyda'r fíigyr hwn :— __V Trem - ble not, Yn y ddiwedd-ran hon, yr hon a derfynir yn hapus gyda ban 28, mae yr awdwr yn trin ei destyn yn dra medrus ac effeithiol; a gwasanaetha cysgodion y cy- wair lleiaf yn banau 20, 21, 22, i gynyrchu effaithliynod o ddymunol. Yn ban 29, y mae bas y cor laf yn arwain i fewn gyfres o feddylddrychau cerddorol newyddion ar yr ail ran o'r geiriau, "I strengthen thee." Yn y ddiwedd- ran hon eto, ceir mèsur o'r un peth ag a gafwyd yn yr un flaenorol. Tra y rhoddai y cyfansoddwr gadernid a sefydlogrwydd y cynorthwywr ar gyfer ofn a dy- chryn y cynorthwyedig, y mae yma eto yn gosodcryfder y naill ar gyfer gwendid y llall; ac nid yn unig y inae yma gadarnhau a dal, oud codir i fyny yn mhob adran, a hyny yn erbyn tuedd i aros i lawr. Mae y cryfder a'r codiad o hyd megys yn uwch na'r disgwyliad. Rhodder yr adranau hyn gyda phwyslais a nerth, a bydded y tonau cromatig, ac yn enwedig ar derfyn yr yr adranau yn berffaith bur a diamwys. Ar ol rhoddi allan y cryfder dyrchafiadol hwn yn yr adranau disgrif- iadol a nodwyd, mae y cerddor yn tori allan, yn ban 35—40, i gyhoeddi yr addewid mewnffrydlif o gerddor- iaeth fwynhaol, yr hon a ail-adroddir gan yr ail gor yn ban 40—44. Mae y testyn bendigedig h'wn yn dra chyflawn o nerth, ac yn hynod gyfaddas i ostegu cynhwrf mynwes bryderus. Y mae haeriadau grymus y bas, yn cael ei gefnogi gan y tenor, yr " uphold " gan y soprano, a'r diweddiad yn y cywair Ueiaf, yn cydweithio i gy- nyrchu yr effaith fwyaf hapus. Gweithir allan ei wa- hanol adranau yn y tudalenau dilynol gyda holl fedr a chalon y prif gantor o Leipsic. Y mae wedi cael blas arbenig ar yr "uphold" (erhalte—cynal, dal i fyny trwy sefyll dano),—a meddylddrych ardderchog ydyw—braich cyfiawnder y Duw anfeidrol yn sefyll dan y neb sydd yn ymroddi i'w wasanaeth ac yn ym- ddiried arno. Y mae Bach yn ei ail-adrodd gyda blas a nerth ychwanegol bob tro; ond yn ban 60—72, y mae yn arllwys allan y meddylddrych goruchel gyda holl nerth ei galon a'i ysbryd. Erbyn dyfod yn mlaen i'r Ue hwn, odid na fydd y cor wedi eu trwytho yn ys- bryd y gerddoriaeth fel y byddant yn barod i roddi y rhanau hyn gyda nerth, a goreu oll pa fwyaf eglur a llawn fyddo y Ueisiau, ac yn enwedig y soprano ya E, 1$, GJ ac A.