Skip to main content

YMREIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETfH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CÖRAU, AC UNDEBAU GERDDOROL Y GENEDL Rhif. 153. TACHWEDD 1, 1873. Píiis 2ÿ.—gyddr post, 2|c. AT EIN GOHEBWYB. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob goliebiaeth i'r Cebddoe gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu cyn yr 20/eci o'r mis, yn syml fel hyn :—Bev. J. Boberts, Fron, Carnarvon. 02NMWYSIAD. TTJDAt. Cerddoriaeth Cystadleuaeth y Palas Grisial ., .. ... 72 Cystadíeuaeth y Palas Grisial ... ,........ .. 80 Eisteddfod Casnewydd...............81 Franz Schubert „- .. „. .. „ .. .. 81 Cronicl Cerddorol ...............83 Cylchwyl Gerddorol Bristol' .. .. ., ... », ..84 Corau mawrion y Gogledd a'r De..........84 Amrywion .. ............ .. 84 Chbdbobiaeth : - Canwn ynghyd—Gwilym Gwent. CEEDDOEIAETH CYSTADLEUAETH Y PALAS GEISIAL. I. Cydoan.—" Sbb prom his post." Er ys 129 o flynyddoedd yn ol, yn misoedd yr Hydref, yn y flwyddyn 1744, yr oedd Handel yn Llundain yn brysur wrth y gwaith o gyfansoddi oratorio newydd Belshazzar, ar eiriau a ysgrifenid iddo gan ei hen gyfaill Mr. Charles Jennens, ieu., Gopsall Hall, swydd Leices- ter, yr hwn ryw dair blynedd cyn hyny, a ysgrifenasai iddo eiriau y Messiah. Yr oedd Handel ar y pryd yn y 60fed flwyddyn o'i oedran, ac wedi cyfansoddi Esther, Deborah, Acis and Galatea, Israel, Saul, Messiah, Samson, a Joseph; ond eto heb ddwyn alían rai o'i brif orcbestweithiau, megys Judas, Joshua, Solomon, a Jcphtha. Testyn yr oratorio hon yw cymeriad Babilon gan Cyrus. Yn mha fodd bynag y gellir cysoni y desgrifiad a roddir gan Herodotus a hen ysgrifenwyr eraill, mae yn amlwg fod Babilon yn ddinas. fawr iawn—yn un o'r rhai mwyaf a fu yn y byd erioed. Ymddengys ei bod o ran ffurf yn bedrongl—y mur nesaf allan yn 15 milldir bob fíbrdd. Dywedir fod y rnuriau hefyd yn 87 troed- fedd o led, ac yn 350 troedfedd o uchder, gyda 100 o byrth—25 bob ochr, a 316 o dyrau. Rhedai yr heol- ydd yn hollol union oddiwrth y pyrth, ac ymlifai yr afon Euphrates trwy y canol, yn 200 o droedfeddi o led wrth 15 troedfedd o ddyfnder; ac yr oedd porth pres mawr a chadarn yn cau i fynu fynedfa pob heol at yr afon. Yn ei ymgyrch yn erbyn y ddinas, cafodd Cyrus, brenin Persia,fodynamhosibleiehymerydtrwy drais,aboddigon o ymborth wedi ei roddi i gadw ynddi i gadw y trigolion am ugain mlynedd. Pan yn sefyll yn ngwyneb yr an- hawsderau hyn, daeth i'w feddwl y ddyfais o droi yr afon allan i'r camlesydd mawrion a dorasid o amgylch y muriau ; ac feliy ar y noson fyth-gofiadwy a adroddir yn llyfr Daniel, tra yr oedd y Brenin a'i dywysogion, yn gystal a'r holl filwyr a thrigolion Babilon, yn ymlawen- hau mewn meddwdod a rhialtwch o bob math, aeth Cyrus a'i fyddinoedd i fewn ar hyd wely sych yr afon i ganol y ddinas, a chawsant yr holl byrth yn agored, a chymerasant feddiant o'r cwbl. Yr afon yn gadael ei gwely, ac yn troi o'r neilldu i'r camlesydd,, ydyw testyn arbenig y gydgan dan sylw. Mae y Pers- iaid yn ei gweled, yn holi ac yn ateb ynghylch ei hym- ddygiad, ac yn egluro mai nid yn anffyddlaŵn i'w chadwraeth y mae, ond ei bod yn rhoddi ufudd-dod i Allu uwch ; a thërfynir gyda'r wers, mai o bob peth ar y ddaear, dyn yn unig sydd yn anffyddlawn a thwyll- odrus. I ddechreu, y mae y Persiaidyn gweled yr afon, fel swyddog a roddasid mewn lle pwysig i wylio y ddinas, yn ymadael ac yn ffoi. Mae yn angenrheidiol i'r sop- rano fod yn bur a hollol gydseiniol wrth ganu y testyn maith o 6 ban a roddir aílan yn banau 8—13, a bod yn dra gofalus i seinio pob nod yn y llithreni yn eglur. Ceir ail-adroddiad o'r un peth mewn cyweirnod arall, yn dechreu yn ban 14, gydag amcan í ychwanegu yr effaith, gan roddi gwahanol frawddegau y testyn i wahan- ol leisiau, i'r diben o alw a chynhyrfu sylw arbenig at yr olygfa. Yn ban 31, y 3ydd curiad, gofala y Bas am gychwyn y testyn (rhan o'r testyn blaenorol) a'r Tenor am yr atebiad yn y ban nesaf, mewn amser ac ysbryd priodol. Gyda dygiad i fewn y stretto yn ban 50, gellir rhoi ychwaneg o nerth. Yn y ddwy Haner-Cydgan bydd yn angenrheidiol wrth farn a chwaeth yn nethol- iad y rhai a roddir i ganu y gwahanol leisiau. Merched, gyda lleisiau pur a thonyddiaeth dda i ganu y ddau Drebl, a merched gyda lleisiau dyfnion i ganu yr Alto. Yn yr ail Haner-Cydgan, gellir rhoddi dynion gyda lleisiau uchel a thyner i ganu yr ail Alto. Ond rhaid gofalu am fod y cwbl yn hollol bur, ac yn cyfnno yn berffaith o ran tonyddiaeth. Dyna y prif beth. i ofalu am dano yma. A'r peth pwysig arall ydyw, gofalu am i'r brawddegiad (phrasmg*) fod yn eglur a synwyrol. Gofaler hefyd am yr EjL,yn y trebl cyntaf. Caner yn dyner, gydag aceniad à*phwyslais da. Gellir cryfhau gyda'r ail linell yn yr ail haner-cydgan. " But to divine decree," &c, a chanu y ddwy olaf (a'r olafoll yn arben ig felly) yn gryf. Bydd gofal yn angenrheidiol o hyn yn mlaen, pan y cana y ddwy haner-cydgan ynghyd, ar fod yr haner tonau digwyddiadol yn cael eu rhoddi yn hollol glir a diamwys. A thra mae y naill haner-cyd- gayi yn holi yr afon gyda gradd o arswyd, yn gymysg- edjg a phryder gobaith am fuddugoliaeth, a'r haner- cydgan arall yn esbonio, gyda sobrwydd, yr ymyraeth dwyfol sydd yn yr achos, bydded fod y brawddegiad yn hollol eglur, a thonyddiaeth y gwahanol leisiau yn bur a chydseiniol. I gerddorion gofalus, nid oes yma ond ychydig o anhawsder yn y darlleniad. Bydd eisiau gofal gyda'r newidiad cyweirnod yn nechreu y gydgan o D leiaf i B fwyaf; a manylrwydd a