Skip to main content

Y CERDDOR CYMREIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC ÜNDEBAÜ CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 151. MEDI 1, 1873. Pris 2g.—gydoür post, 2£c. AT ELN' GOHBBWYB.-Sÿádw» ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llato ar neu cyn yr 20/ed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Roberts, Fron, Carnarvon. CYNNWYSIAD. TÜDAL. Ysgol Gerddorol Genedlaethol .......... 63 Cystadleuaeth y Palas Grisial .......... 64 M. Faure .. .. .............. 65 Y diweddar Ferdinand David .......... 65 Eisteddfod Wyddgrug.............. 66 Y Wasg Gerddorol .............. 66 Congl yr Efrydydd Ieuanc............ 67 Cronicl Cerddorol ............... 67 Hanesion Cerddorol.............. 68 Amrywion ........ ........ 69 Cerddoriaeth : - Canwn ynghyd— Gwilym Gwent. YSGOL GEEDDOEOL GENEDLAETHOL. O'r diwedd, ar ol hir son, ymholi, a chynllunio, y mae Cymdeithas y Celfyddydau wedi cyhoeddi y cynllun cynygiedig canlynol, gydagolwg ar sefÿydla ITsgol Gerdd- orol Genedlaethol yn Llundain— "1. Mae yr angenrheidrwydd am Ysgol Gerddorol Genedlaethol, er hyrwyddo y gelfyddyd o gerddoriaeth yn y wlad hon, wedi cael ei deimlo er ys amser maith, ac wedi cael ei wasgu o bryd i bryd ar sylw gwahanol lywodraethau gan yr awdurdodau uchelaf. Y mae pawb ag sydd yn alluog i roddi barn ar bwnc o'r fath mor un- frydol yn y mater hwn fel mai afreidiol fyddai dadleu dim drosto yn lle hwn. Digon yw dweyd fod pwyllgor a benodwyd gan Gymdeithas y Celfyddydau yn 1865, wedi gwneyd ymchwiliad i'r holl gwestiwn o addysg gerddorol yn y wlad hon ac mewn gwledydd tramor, ac wedi gwneyd adroddiad arno. 2. Er yr ymddengys oddiwrth adroddiadaa Adran Gwyddoniaeth a Cheliyddyd, fod y cwestiwn o sefydlu Ysgol o'r fath gan y Llywodraeth, wedi bod ar an adeg dan sylw Arglwyädi Pwyllgor Cyngor Addysg—Iarll Granville ar y pryd yn Arglwydd Lywydd—nid ydyw yr Adran hono hyd yn hyn wedi gwneyd dim tuag at ei sefydlu. Y mae Cymdeithas y Celfyddydau, gan hyny, wedi penderfynu cymeryd y blaen, a sefydlu ysgol o'r fath trwy ymdrechion gwirfoddol, gyda'r amcan iddi fod, ac mewn gobaith pryderus y bydd, yn y diwedd i gael ei throsglwyddo i ofal a than awäurdod y Llyw- odraeth. 3. Egwyddor sylfaenol a phrif amcan yr Ysgol ydyw meithriniad y gallu cerddorol uchaf yn y wlad, yn mha radd bynag mewn cymdeitha3 y deuir o hyd iddo. Mewn trefn i gario allan yr egwyddor hon i'w heithaf, bydd derbyniad i'r Ysgol yn cael ei enill trwy arholiad cystadleuol yn unig. 4. Yn gymaint a bod y ddawn o allu cerddorol i'w chael yn mhob gradd mewn cymdeithas, ac yn fynych yn mysg dosbarthiadau ag nad oes ganddynt ond ych- ydig foddion, mae yn amlwg y bydd raid i lawer o'r ef- rydwyr gael, nid yn unig eu haddysg yn rhad, ond eu cynal yn hoílol am yr ysbaid y byddant dan addysg. I ddarpara ar gyfer hyn bwriedir sefydlu tua 300 o ys« goloriaethau, tuag at ba rai y mae cynorthwy tra dylan- wadol wedi ei addaw eisoes, a gofynir am ychwaneg. 5. Bydd yr ysgoloriaethau bwriadedig o ddaw fath—- un tuag at roddi addysg yn rhydd trwy dalu dros yr ef- rydwyr, a'r llall tuag at roddi addysg. a chynhaliaeth yn rhydd. Bydd yn agored i bob sir, tref, corph cyhoedd- us, neu berson unigol, i sefydlu y naill neu y llall o'r ysgoloriaethau hyn i gael cystadlu am dani ar delerau naillduol. Os bydd mwy o le yn yr ysgol nag a fydd yn angen ar yr efrydwyr a anfonir iddi felly, rhoddir dèrbyniad i efrydwyr eraill, y rhai fyddant i dalu dros- tynt eu hunain, trwy arholiad, ond arferir gofalnadder- bynir neb ag na fyddo yn arddangos gallu digonol. 6. Bwriedir i'r Ysgol yn y dechreu fod yn alluog i roddi addysg yn rhydd i tua 300 o ysgolorion. Cyfrifir y bydd y tal am addysg, heb gynaliaeth, rhwng £35 a Ì40 y flwyddyn. Bydd cynaliaeth ysgolorion ar wahan oddiwrth hyn, acyn annibynol ar yr ysgol. 7. Y mae Cyngor Neaadd Frenhinol Albert yn barod i roddi nifer o ystafelloedd, yn eu mysg ddwy ddarlith- ystafell fechan, at wasanaeth yr Ysgol, am enw o ar- dreth, mor fuan ag y bydd parotoadau priodol wedi eu gwneyd i'w chario yn mlaen. Cyfrifir y bydd y cy- morth hwn yn werth tüa £1,000 yn y flwyddyn. 8. Y mae Dirprwywyr Brenhinol Arddangosfa 1851, wedi cynyg darn o dir yn ymyl Neuadd Albert er adeil- adu ystafelloedd i ymarfer ac i ddarlithio, ac wedi cy- tuno i'w roddi ar lês i Mr. C. J. Freake, aelod o'r Cy- ngor, yr hwn yn dra haelionus sydd wedi ymgymeryd ag adeiladu yr adeilad angenrheidiol arno yn hollol ar ei draul ei hun. Yn wir, y mae llawer wedi ei wneyd i ddarparu cynlluniau yr adeiladau hyn. 9. Mae yr Ysgol dan Bwyllgor Llywodraethol cy- nwysedig o ddau aelod penodedig gan Ddirprwywyr Brenhinol.Arddangosfa 1851, dau gan Gyngor Neuadd Albert, a thri gan Gyngor Cymdeithas y Celfyddydau. Mae y pwyllgor a ffurfiwyd felly yn bresenol yn cynwys Dac Edinburgh, Arglwydd Clarence Paget, y Cadlywydd Eardley Wilmot, H. Cole, Ysw., Major Donelly, a Syr William Anderson. Pob gohebiaeth o berthynas i sefydlu ysgoloriaetb.au, a phob ymofynion ynghylch yr Ysgol, i gael eu cyf- eirio—The Secretary ofthe National Training School for Music, Kensington Gore, London, S. W. [Yr Ysgrif- enydd ar hyn o bryd yw P. L. Neve Eoster.l Yn yr attodiad ý mae eaw lliaws mawr o bendefigion