Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YCE CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 150. AWST 1, 1873. Pris %g.—gycMr post, 2£c. AT BJllí QOHBBWyE.-Bì/(iẁn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu cyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Boberts, Fron, Carnarnon. crNNWYSIAD. TUDAL Y Cor Cymreig „ .............. 55 Cystadleuaeth y Palas Grisial .......... 56 Cymanfa Gerddorofjr Methodistiaid Calflnaidd, Sir Ddinbych 57 Eisteddfod GadeirioJ Eryri............ 57 Cystadleuaeth Fawr y Palas Gwydr ........ 58 Cronicl Cerddorol ............... 59 Y COR OYMEEIG. Llafur caled a chostus i'r Cor Cymreig oedd llafnr y gystadleuaeth a goronwýd yn y Palas Gwydr a meddiant am flwyddyn eto o'r Cwpan Arian (gwerth £1,000), pwrs yn cynwys £100 mewn aur, cwpan arian yn anrheg oddiwrth y Cymry yn Llundain, ac awr hyfryd gyda Thywysog Cymru a'r Djwysoges yn Marlborough House. Wrth feddwl ychydig, nis gallwn lai na rhy- feddu pa fodd yr aethant trwy y fath lafur. Yr oedd darparu yn briodol ar gyfer y fath ymdrechfa yn cynwys llawer iawn o lafur ar ran pob aelod mewn dysgu y darnau yn dda—Uafur mwy drachefn ar ran yr athrawon lawer a gymerent ofal y gwaith yn y corau adraniadol— llafur a chost fawr ar bawb mewn cysylltiad a'r cyfar- fodydd ymarferiadol—a llafur dirfawr ar ran y prif arweinydd. Pan feddylier drachefn fod yr aelodau oll, gydag ychydig iawn o eithriadau, yn perthyn i'r dosbarth gweithiol—y colli amser, y colli cyflogau, a'r gwario arian ; ac nad oedc dim ad-daliad mewn golwg ond yn unig yr anrhydedd o enill, y mae ein syndod yn ychwan- egu yn ddirfawr pa fodd y llwyddwyd i ddwyn oddi- amgylch y fath orchestwaith. A'r cwestiwn a ymwthia i'n meddwl ydyw—Pa beth na wnai y Cymry orid eu codi o ddifrif at eu gwaith ? Y mae eu nerthoedd, gyda brwdfrydedd ac egni, yn anhysbyddadwy. Amser a lle a ballai i fyned trwy holl fanylion gwaith y cor ; ond gallwn nodi allan ychydig o'u llafur mewn cysylltiad uniongyrchol a'r gystadleuaeth. Dydd Llun, Gor. 7, yn y Neuadd Ddirwe3tol, yn j boreu yr oedd cyfarfod ymarferiadol i'r holl gor—yr olaf—y terfynol. Yn y prydnawn a'r nos, rhoddasant gyngherddau yn yr un lle, gan ganu yn mhob un a'u holl egni. Boreu dranoeth, yr oeddynt yn y gerbydres yn cychwyn tua Bristol; ac wedi cyrhaeddyd y ddinas hono yn gynar yn y dydd, yr oedd yn rhaid iddynt roddi dwy gyngherdd yno, yn y prydnawa a'r hwyr. Canu yn ogoneddus a wnaethant, nes codi holl ddinas Bristol i sefyllfa íia anghoíìr yno yn fuan. Boreu dydd Mercher, yr oeddynt yn cychwyn oddiyno am Lundain, ac yn cyrhaeddyd yn y prydnawn. Yn foreu ddydd Ian, yr oeddynt hwy a'u cyfeillion Cymreig wedi cymeryd meddiant o'r Palas Grisial; ac yn y prydnawn, "yn ngwyneb haul a llygad goleuni," yn herio yr holl fyd mewn cystadleuaeth gerddorol; a chyn pump o'r gloch yr oedd y frwydr wedi ei henill, a'r newydd am y fuddugoliaeth yn ehedeg ar adenydd y mellt trwy holl barthau y byd gwareiddiedig. Yn yr hwyr, yn neuadd yr Italian Opera, yn y Palas, yr oedd cyfarfod yn cael ei gynal er cyflwyno iddynt gwpan arian ardderchog, yn arwydd o barch eu cydgenedl yn Llundain. Cadeirydd y cyfarfod hwn oedd Mr. Henry Richard, A.S. ; a chyfarchwyd y gynulleidfa gan Syr T. D. Lloyd, A.S., Mr. Richard Davies, A.S., Mr. Holland, A.S., Mr. Brinley Richards, ac eraill. Cyflwynwyd y cwpan gan Mrs. Richard, a dywedodd Mr. Griffith Jones, arweinydd y cor, ychydig o eiriau synwyrol ar yr achlysur. Ond os mewn cysylltiad a cherddorion a cherddoriaeth yr oedd y cyfarfod, nid oedd yn bosibl gwneyd heb ganu; a chanu a wnaed. Canai y cor mor fresh a nerthol a phe buasent heb ganu braidd ddim yr wythnos hono. Yn ngheinciau ardderchog, calon-gynhyrfus " Gwyr Harlech," yr oeddynt mor wefreiddiol ag erioed ; ni syrthiodd odlau mirain Llwyn On oddiar wefusau neb erioed yn fwy tyner ac es- mwyth; ac nis gallai Mr. Brinley Uichards lai na theimlo ei galon yn cael ei chynhyrfu wrth glywed ei Ran-gan newydd, "Let the hills resound," yn cael ei datgan mor brydferth ac effeithiol. Am ganu y ger- bydres wrth ddychwelyd i'r ddinas, wrth gwrs, y mae hwnw yn annisgrifiadwy; ond hyd yn nod yn y tryblith hwnw, yr oedd yr un ysbryd a bywyd i'w deimlo yn barhaus. Dydd Sadwrn, yn gynar yn y prydnawn, yr oeddynt eto ar esgynlawr y Palas Grisial; a phan ddaeth eu tro i ganu, cafwyd prawf fod yr ysbryd eto yn ngweddill, a bod yn aros ddigon o nerth, calon, a llais i roddi yr holl dyrfa ar dan. Dydd Llun, am 3 o'r gloch, yr oeddynt yn Willis' Rooms,.yn ymdrefnu gyda golwg ar ymddangos o flaen Tywysog Cymru, yn ol ei wahoddiad caredig; ac ain 4, yr oeddynt wedi myned drosodd yno yn orymdaith, ac wedi ymffurfio ar garped gwyrddlas, rhwngy blodau, y prysglwyni, a'r coed, y tu cefn i Marlborough House. Nis gallasai fod dim yn fwy dymunol na'r cyfarfod hwn. Derbyniwyd hwynt yn siriol a serchus gan y Tywysog. Tynodd ei het, a rhoddodd anerchiad 'caredig iddynt, yn eu Uon-gyfarch ar eu buddugoliaeth, yn datgan ei foddhad wrth eu clywed yn canu mor ragorol, a'i ddy-