Skip to main content

Y CERDDOR CYHREIG CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, GORAU, AG UNDEBAU GERDDOROL Y GENEDL Rhif. 149. GOEPHENAF 1, 1873. Pris 2g.—gydcür post, 2^-c. AT ELN GOHEBWYE.-Bjáẁ» ddìolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu cyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn: —Bev. J. Roberts, Fron, Camarvon. CYNNWYSIAD. TUDAL. Gwybed Meirw ein Cyfarfodydd Cerddorol ...... 49 Gwasanaeth Crefyddol gyda Cherddoriaeth Gerddorfaol .. 50 Y Diweddar J. L. H opJrins, Mus. Doc......... 50 Eisteddfod Gadeiriol Eryri............ 50 Llnndain.................. 52 Cystadlenaeth Fawr y Palas Grisial ........ 52 Y Cymanfaoedd Canu Cynulleidfaol ........ 62 Amrywion ................ 53 Hanesion Cerddorol .. .. .......... 53 Cronicl Cerddorol ........ ....... 53 GWYBED MEIEW EIN CYFAEFODYDD CEEDDOEOL. " Gwybed meirw a wnant i enaint yr apothecari ddrewi." Hbb son ar hyn o bryd am waeledd, tlodi, gwagedd, neu lygredigaeth y gerddoriaeth, nac anfedrusrwydd y rhai a ganant, y mae nifer o bethau annymunol eraill ynglyn y dyddiau hyn a'n cyfarfodydd cerddorol; ac oddieithr y gellir eu symud i ffordd yn fuan, y maent yn rhwym o ddrygu y cyfarfodydd, ac o niweidio meddyliau y rhai a'u mynychant." Un ydyw amhrydlondeb mewn dyfod i'r cyfarfodydd. Y mae amhrydlondeb, yn wir, yn bla ag sydd yn perthyn mewn modd neillduol i'n cenedl. Lleda ei wreiddiau trwy bob cysylltiad; ac nid oes un cyfarfod crefyddol, Uenyddol, cerddorol, na gwleidyddol, ag nad ydyw yn dioddef anfantais o herwydd y pla gwenwynig hwn. Ond yr ydym yn meddwl ei fod yn anafu ein cyfarfod- ydd cerddorol yn fwy ua dim arall. Dichon mai nid yr un achos sydd yn caäw pawb rhag dyfod i'r cyfarfodydd mewn pryd. Diau fod llawer yn esgeuluso myned i'r cyfarfod erbyn y dechreu am mai felly y cawsant eu magu a'u dysgu. Ni byddai eu rhieni a'u cymydogion un amser yn brydlawn mewn cyfarfod. Felly y cawsant hwythau eu dwyn i fyny, fel y mae amhrydlondeb wedi myned yn ail natur iddynt. Nid ydynt yn gallu meddwl nac ystyried y dylent fyned i un cyfarfod erbyn yr amser y byddo i ddechreu. Dichon naä ydyw amhrydlondeb y dosbaríh hwn yn tarddu o unrhyw ddrwg gwaeth na dylni meddwl neu anystyriaeth. Y mae dosbarth arall yn dyfod ar ol yr amser gydag amcanion gwahanol. Y maent am i bobl dalu sylw iddynt. Oherwydd rhyw arbenigrwydd yn eu gwisgoedd, neu eu dull, rhaid iddynt astudio yr amser y gallant enill llygaid y gynulleidfa. Trueni mawr fyddai i'r arian a wariwyd am y wisg sidan, yr amser a dreuliwyd gan yr eneth i osod addurn- iadau ei phen mewn trefn, neu gan y dyn ieuanc i osod allan ei wallt, ei ddwyfron, a'i ddwylaw yn y dull mwyaf tarawiadol—trueni o'r mwyaf fyddai i'r cwbl fyned yn ofer. A rhag i hyny ddigwydd, rhaid gofalu am ddyfod i'r cyfarfod ar aäeg ag y bydd mesur helaeth o sylw pawb i gael ei sicrhau. Mae yr un peth i'w ganfod a'i ddysgu yn y gwaith o fyned allan drachefn. Y mae lliaws yn myned allan cyn y diwedd am fod hyny yn arferiad. Gresyn ydyw gorfod addef, ond y ffaith ddiflas sydd yn ein cyfarfod yn mhob cyfeiriad ydyw, na fedr cenedl y Cymry aros hyd ddiw- edd unrhyw gynulliad, pa beth bynag fyddo ei natur, a pha beth bynag fyddo hyd ei barhad. O'r gymanfa, ar y maes, gyda bod y pregethwr olaf yn terfynu ei bregeth, os nad yn gynt, ceir gweled y bobl, yn grefyddol a di- grefydd, yn ddiwahaniaeth, yn ymadael, ac ymadael y byddant yn ystod y weddi, fel erbyn dechreu canu, ni fydd ond dyrnaid yn aros i roddi moliant i Dduw, allan o'r miloedd oedd ar y maes ychydig o fynydau yn flaen- orol. Yr un peth a welir yn y cyfarfod chwarterol, yn y cyfarfod misol, yn nghymanfa yr Ysgol Sabbathol, yn y gymanfa ganu, ac yn y gyngherdd. Mae yr arferiad wrthun hon yn anafu ein holl gynulliadau arbenig. Nid oes dim gwahaniaeth pa hyd y bydd y cyfarfod wedi parhau, na pha bryd y bydd i derfynu, na pha beth fydd i gael ei wneyd cyn terfynu, na pha mor daer y dymunir am dawelwch hyd orpheniad y cyfarfod, rhaid i ryw bobl gael myned allan, ar draws trefn, ar draws moesgarwch, ar draws pawb a phob peth, cyn i'r cyfarfod gael ei ddwyn i derfyn. Pwy a ddengys i'n cenedl, ac yn enwedig i'n cyfarfod cerddorol, y ffordd i gael gwaredigaeth oddiwrth y pla anaele hwn ? . Peth arall ag sydd yn niweidio ac yn aflwyddo ein cyfarfodydd canu yn fawr ydyw y siarad, y sibrwd, y twrf, a'r aflonyddwch parhaus sydd ynddynt. Diweddar mewn cymhariaeth ydyw yr arferiad wrthun hon. Am ryw fath o gyngherddau, yn wir, nid ydynt ond berw o swn, fel y ffair neu y farchnad, o'r dechreu i'r diwedd; ac ysywaeth nid ydyw y twrf a gedwir mewn un modd yn anghydweddol ag ansawdd y cyfarfod. Ond trwy fod twrf o'r fath yn cael ei gadw yn y cyfryw gyfarfod- ydd, y mae yr un peth yn dyfod i fewn yn raddol i gyfarfodydd cerddorol o natur a nodwedd fwy sylweddòl a dwys. Ceidw rhai i siarad yn barhaus. Ymddangos- ant fel pe byddai ganddynt hwy hawl i dori ar draws mwynhad a chysur pawb sydd o'u hamgylch. A phan y byddo darn drosodd, bydd yn ferw cyffredinol trwy yr holl adeilad, fel y cymer rai mynydau weithiau çyn. yr adferir gradd digonol o ddistawrwydd i fyned yn mlaen mewn rhyw wedd at y peth nesaf.