Skip to main content

Y CERDDOR GYMREIG CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEBL Y CYMRY; CYHOEDDEDIC DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y CENEDL Rhif. 148. MEHEFJN 1, 1873. Pbis 2g.—gydcCr post, 2ÿc. AT EIN GOHEBWYS.-B!/iiẁn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddob gael ei hanfon i ni, ifod mewn lla/w ar neu cyn yr 20/eei o'r mis, yn syml fel hyn :—Rev. J. Boberts, Fron, Carnanon. CYNNWYSIAD. TUDAL. I. Handel ................41 Cystadleuaeth Seion, Cefn Mawr..........42 Y Wasg Gerddor'ol .......... .. ..43 Cerddoriaeth yn yr Arddangosfa Gydgenedlaethol .. .. 43 CerddorionNegroaiddyn Llundain ........43 Llundain.......... ........44 Hanesion Cerddorol..............45 Cronicl Cerddorol ...............45 I.-HANDEL. (Parhad.) Oddiar y safle hon nid anyddorol ydyw taflu ein golyg- on yn ol, ac edrych ar y dyn cadarn, athrylithlawn hwn yn ymladd yn erbyn archwaeth isel, lygredig ei oes, yn enill nerth yn mhob brwydr, ac o'r diwedd yn cyrhaedd- yd ei safle, ac yn dyfod o hyd i waith mawr ei fywyd. Gwelsom ddarfod i'w athrylith, mor foreu a 1708, pan nad oedd ef'e eto ond 23 oed, roddi cynyg ar ei gwaith ordeiniedig ei hun yn yr oratorio Italaidd Yr Adgyfod- ìad. Yn 1720, gwelsom iddo gyfansoddi ei oratorio Seisnig gyntaf, sef Esther. Wedi hyny, yn 1733, daeth Deborah; yn 1738 Israel in Egypt, ac yn 1740 Saul. Cynygion yn yr un cyfeiriad hefyd oedd Acis, Athalia, Alexande/s Feast, Cecilia's Ode, L' Allegro. Ond meth- iant ar y pryd oedd y cwbl, hyd gyfansoddiad y Messiah yn 1741, a'i dygiad allan yn Dublin yn 1742. Ar yr adeg hon, pan wedi disgyn i ddyfnderoedd methdaliad, siomedigaeth, a digalondid, trodd Rhagluniaeth y nef- oedd o'i du; ac yn mhen amser, nid yn uniongyrchol, daeth ei yrfa yn llwyddianus a dedwydd. Ni chyfan- soddodd efe un opera ar ol 1740; ond yn ystod y cyf- nod o 1741 hyd 1751, efe a gyfansoddodd 11 o oratorion, yn dechreu gyda'r Messiah yn 1741, ac yn diweddu gyda Jephtha yn 1751. Y Messiah—y Gwaredwr i gaethion pechod a Satan, oedd testyn y gwaith ardderchog; gwaredigaeth i garcharorion a chaethion trwy anffodion ac anhwylderau oedd y gwaith cyntaf a effeithiodd ; a bu yn llwyddianus i ddwyn Handel allan o gaethiwed chwaeth lygredig ei oes, ac i'w droi, yn ŵr rhydd, at ei waith. Wedi dychwelyd i Lundain, ac eto heb un gorchwyl neillduol yn ei law, ond heb ei lwyr ddiddyfni oddiwrth ei duedd at yr opera, efe a arosodd yn llonydd, heb wneyd nemawr ddim, am y gweddill o'r flwyddyn 1742. Yn ngwanwyn 1743, efe a gymerodd Covent Garden, a rhoddodd yno gyfres o gyngherddau, ar y cynllun a gymerasai yn Dublin. Ỳn y gyfres hon, datganwyd Samson wyth o weithiau, a'r Messiah dair gwaith.. Mawrth 23, 1743, y rhoddwyd y datganiad cyntaf o'r Messiah yn Llundain ; a chanwyd hi drachefn y 25ain ar 29ain o'r un mis. Nid oes uu gair mewn un o bapyrau Llundain am waith Handel yn y tymor hwn, er mai dyma yr adeg yn mha un y rhoddwyd y ddwy oratorio Samson a'r Messiah yn y brif-ddinas. Arwydda hyn fod yr hen elyniaeth eto heb drengu. Adroddir hanesyn gan Dr. Beattie ag sydd yn werth ei grybwyll am ddigwyddiad a gymerodd le ar noson y datganiad cyntaf o'r Messiah. Yr oedd y gynulleidfa Cyn cynwys y Brenin a'r teulu brenhinol) wedi cael eu meddianu mewn modd tra dieithr a hollol gan y gerddoriaeth ; ond pan ddaethpwyd at y llinell ardderchog yn yr Haleluwia, " Yr Hollalluog Dduw a deyrnasa," cyfododd yr holl gynulleidfa fel un gwr, a safasant ar eu traed hyd ddiwedd y gydgan. Hyn a gychwynodd yr arferiad o godi pan y deuir at y gydgau fawreddog hon. Yn niwedd y flwyddyn hon efe a gyfansoddodd Joseph, yr hon a ddygwyd allan yn ngwanwyn y flwyddyn gan- lynol, ynghyd a'r gantawd Semeìe. Ar ol gorphen y tymor cerddorol yn 1744, efe a gyfansoddodd Hercules ; ac wedi hyny yr oratorio Behhazzar, ar eiriau o waith ei hen gyfaill, Mr. Charles Jennens. Gyda'r ddau gyfan- soddiad newydd hwn efe a gyhoeddodd gyfres o gy- ngherddau yn yr Haymarket, i ddechreu ar y 3ydd o Dachwedd. Parhaodd y cyngherddau hyn, ond nid gyda chysondeb, hyd y 23ain o Ebrill, 1745, pryd y bu raid eu rhoddi i fyny o ddiffyg cefnogaeth. Yr oedd yr hen deimladau gelynol, ac yn enwedig ar ran y boneddig- esau, ar lawn waith yn ei erbyn ; ac yn gynar yn 1745, yr oedd yr arian a enillasai yn Dublin i gyd wedi eu gwàrio, ac er ei ddirfawr siomedigaeth a'ì ddigalondid, efe a gafwyd yr ail waith yn analluog i gyfarfod ei ofyn- wyr, yn fethdalwr. Effeithiodd y methiant hwn yn dra dwys arno. Ni chyfansoddodd ond ychydig y fiwyddyn hon. O fis Hydref, 1744, pryd y gorphenodd efe Bel- shazzar, hyd ddechreu 1746, cyfwng o tua phymtheng mis, ni chafwyd dim o'i law, yr hyn oedd yn rhyfedd ac arwyddocaol iawn yn achos un ag yr oedd ei feddwl a'i ysbryd yn arfer bod mor weithgar. Yn nechreu 1746, pa fodd bynag, efe a gychwynodd gyfres o gyngherddau drachefn tuag at dalu ei ddyledion. Y cyfansoddiad newydd cyntaf a ddygwyd allan y flwyddyn hon oedd yr Occasional Oratorio. Dywedodd y naill hanesydd a beirniad ar ol un arall am y gwaith hwn nad oedd yn ddim ond clytwaith cymysgedig o ddarnau allan o'i weithiau blaenorol. Ond y mae hyny yn anghywir. Mae y cyfansoddiad yn dair Rhan; ac nid oes ond chwech o'r darnau yn y drydedd ran yn unig wedi eu cymeryd o weithiau eraill, sef pump o Israeî ac un o'r Coronation Anthem, tra mae yr oll o'r ddwy ran gyntaf yn newydd a gwreiddiol. Allan o 37 o ddarnau, y mae