Skip to main content

Y CERDDÛR CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DÂN NAWDD PRIF CERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y CENEDL. Rhif. 147. MAI 1, 1873. Pris 2g.—gyddr post, 2^c. AT ^IN GOHBBWYB. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohetiiaeth i'r Cerddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar lieucyẃ'ỳr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Boberts, Fron, Carnanon. CYNNWYSIAD. TUDAL. I. Handel ................ 33 Y diweddar Mr. Thomas Oliphaut.......... 34 Uudeb Llenyddol a Cherddorol Bhostryfan a Rhoscadfan .. 34 Llundain.................. 35 YPiano.............. .. ..36 Cronicl Cerddorol ............... 37 Hanesion Cerddorol.............. 38 Amrywion ................ 39 I.—HANDEL. (Parhad.) Ar y 3ydd dydd o Orphenaf, 1738, pryd nad oedd gan- ddo bellach ddim i'w wneyd gyda'r Opera Italaidd, dechreuodd Handel yr Oratorio Saul, a gorphenodd hi ar y 27ain o Fedi. Yn mhen pedwar diwrnod ar öl hyny, sef Hydref laf, efe a ddechreuodd Israelin Egypt, a gorphenodd hi mewn saith diwrnod ar hugain. Gweithio yn galed ac yn gyflym iawn y byddai. Yn wir, y mae ei gyflymdra yn mron yn anhygoel; ac yr ydys wedi bod yn ceisio cymedroli ychydig arno trwy sylwi nad ydym i ddeall ei fod yn cyfansoddi y gweithiau yn yr amser byr a nodir; ei fod yn cyfansoddi Uawer, ac yn gosod y cwbl ynghyd fel un cyfanwaith yn yr amser hwnw; ond ei fod yn defnyddio llawer o bethau a gyfansoddasid ganddo yn flaenorol. Mae yn ddiau fod gwirionedd yn hyn; ac eto y mae yn ffaith fod Handel yn un o'r cyfansoddwyr cyflymaf. Nid Uawer o dderbyniad a gafodd Saul, a Uai fyth a gafodd Israel; ie, er gadael allan nifer o'r cydganau, a rhoddi caneuon ysgeifn allan o operas y cyfansoddwr i mewn yu eu lle. Yr oedd archwaeth Llundain, y pryd hwnw, ac am flynyddoedd lawer wedi hyny, yn rhy isel a llygredig i werthfawrogi a mwynhau y gwaith tra ardderchog hwn. Yr adeg hon hefyd, efe a gyfansoddodd Cecilia's Ode a L' Allegro (geiriau o Milton); a dygodd allan gyfrolau o Sonatas a Concertos. Yn 1740, ar ol ei holl fethiantau, yr ydym yn ei gael yn ymlynu wrth yr opera. Cymerodd Lincoln's Inn Fields am y tymor. fti ddygwyd allan ond dwy opera newydd y tymor hwn, sef Imeneo a Deidamia ; ac nid oedd ei lwyddiant y flwyddyn hon, a dweyd y líeiaf, yn ddim mwy na'r blynyddoedd blaenorol. Erbyn hyn, yr oedd yn amlwg fod cysylltiad Handel a'r Opera Italaidd, os nad a Phrydain, yn rhwym o fod Wredi dirwyn i'r terfyn. Ni fynai pobl Llundain ddim o'i operâs; ac nid oedd ei Saul, ei Israel, ei Aleiander's Feast, a'i L' Aìlegro yn cael nemawr gwell derbyniad. Yr oedd ei athrylith yntau, mae yn rhaid addef, yn ei wthio bellach bellach oddiwrth archwaeth y Uiaws, ac ar draws eu delwau. Operaion Italaidd, gyda digon o ganeuon, yn cael eu canu gan gantoresau a chantorion newydd a dieithr, a geisient hwy; rhoddai yntau iddynt lai lai o ganeuon, a mwyfwy o gydganau. Yr ysgafn, arwynebol a fynent hwy; ymdrechai yntau yn barhaus am fwy o'r sylweddol. A phan y dygodä efe allan Israel in Egypt—y pentwr Himalayaidd hwn o gyd- ganau, yn esgyn y naill uwchlaw y llall, nes ymgolli yn awyr bur y dyrchafedig a'r arddunol—y gadwyn fwyaf ardderchog yn yr holl fyd cerddorol; nid rhyfedd ydyw os ychydig a fedrent werthfawrogi y fath gerddöriaeth er ys chwech neu saith ugain mlynedd yn ol. Yn 1741, yr ydym ya ei gael wedi ysgrifenu yr olaf o 39 o operaion—wedi cefnu ar y gwaith o geisio difyru neb byth a cherddoriaeth o'r fath hyny—yn wrthodedig gan bobl Llundain—yn 56 mlwydd oed—ac heb wybod pa beth i'w wneyd na pha le i droi. Yn y cyfwng hwn efe a gydsyniodd a chais caredig a dderbyniasai o'r Iwerddon, a phenderfynodd dalu ymweliad a'r wlad hono. Yr amcan a nodid ar y cyntaf oedd rhoddi cyngherdd er budd i gymdeithas ag oedd yn Dublin er cynorthwyo rhai a garcherid am ddyled. I'r perwyl hwnw, efe a benderfynodd gyfansoddi oratorio newydd; ac yn ffodus, nis gwyddom yn mha fodd nac yn mha le, disgynodd ei feddwl ar Ynignawdoliad, Dioddefiadau, a Dyrchafiad y Messiah. Yr oedd cyfaill iddo, Mr. Charles Jennens, boneddwr cyfoethog a fuasai yn byw yn Llundain, ond a aeth wedi hyny i fyw i Gospsal, yn swydd Leicester, wedi ychwanegu iddo eiriau at L' Allegro ac /7 Penseroso (sef // Moderato), ac ymddengys mai y boneddwr hwn a ddetholodd ac a drefnodd iddo eiriau y Messiah; ond bu rhyw gymaint o law gan Handel ei hun yn y gwaith, ac ymddengys iddo fod gyda Mr. Jennens am beth amser yn Gopsal. Wedi cael testyn a geiriau wrth ei fodd, efe a daflodd ei enaid mawr i'r gwaith gydag ymroddiad ac angerdd- oldeb. Nis gellir gwybod pa faint o'r cynllun a ym- rithiasài iddo, na pha faint o destynau alawon a chyd- ganau a awgrymwyd i'w feddwl, pan yn siarad yn nghylch, ac yn penderfynu y geiriau gyda'i gyfaill Mr. Jennens yn Gopsal, ac yn ei gerbyd ar y ffordd yn ystod y ddau ddiwrnod y bu yn dychwelyd i Lun- dain ; ond y mae yn sicr na ddarfu iddo gyfansoddi dim o'r oratorio yn Gopsal. Ysgrifenodd Handel lythyr at Mr. Jennens o Dublin, yn mha un y dywed—" Mi a dderbyniais y llinellau a anfonasoch i mi i'w gosod o flaen eich oratorio Messiah, ar ba un yr ysgrifenais ger- ddoriaeth cyn ymadael o Loegr." Nid felly y buasai yn ysgrifenu pe yn Gopsal y buasai wedi cyfansoddi y gerddoriaeth. Ar ol cyrhaeddyd y brif-ddinas, efe a eisteddodd i lawr, a dechreuodd gyfansoddi. Y mae yn