Skip to main content

Y CERDDOR GYMREIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, GGRÀU, AG UNDEBAU GERDDOROL Y GENEDL Rhif. 144. CHWEFBOR 1, 1873. Pris 2g.—gyddr post, 2%c. AT EIN GOHEBWYE. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Oebddob gael ei hanfon i ni, ifod mewn ílaw nrneucyn j/r 20/ed o'r mis, yn gyml fel hyn:—Bev. J. Boberts, tYon, Carnarvon. CYNNWYSIAD. TDDAL. I.Handel ................ 9 Ysgoloriaeth Mendelssohn............ 1° Beirniadaeth Eisteddfod 'íaibach ........ 10 tilundain........ .. .. .. .. .. H Vstafell yr Hen Alawon .. .. ...... .. 12 St. Paul yn Eglwys Gadeiriol St. Paul ......... 13 Banesion Oerddorol...... .. ...... 18 Congl yr Efrydydd Ieuano............ 14 Bwrddy Golygydd .............. 14 Gwelliant Gwall.................. 14 Amrywion ...........« ....... 14 Oronicl Oerddorol ............... 14 I.—HANDEL. (Parhád.) Yn 1710, pan daeth Handel i Lundain, nid oedd dim a wnai y tro yn Mrydain, mwy nag ar yr holl gyfandir, ond cerddoriaeth Italaidd; ac nid heb wastraffu llawer iawn o amser a thalent yn ngwasanaeth y chwaeth Uygredig hwn y gallodd Handel ymryddhau a dwyn allan y gerddoriaeth newydd, uwchraddol y gosodwyd ef ar y ddaear i'w chreu. Byr fu ei arosiad yn Llundain y pryd hwn, a'r unig waith pwysig a gyfansoddodd oedd ŷr opera Rinaldo. Sefydlodd y gwaith hwnw ei gymer- iad ar unwaith. Daeth y rhan fwyaf o'r alawon i gael eu canu a'u chwareu trwy yr holl deyrnas; a bu yr ym- deithgan yn cael ei chwareu gan y Life Guards am yn agos i gan' mlynedd; ac y mae un o'r alawon yn fyw a phoblogaidd hyd y dydd hwn. Dywedir ddarfod i Mr. Walsh enill tua £1,500 ar ei gwerthiad. Wrth weled y cyhoeddwr yn gwneyd cymaint o arian, a'r cyfansoddwr ÿn cael can lleied, cynygiodd Handel fod Walsh i gyfan- soddi y tro nesaf ac yntaa (Handel) i werthu. Dychwel- odd i HanoTer ar ol chwech neu saith mis o arosiad yn Llundain; ond bu raid iddo addaw i'r Frenhines Anne y deuai yn ol mor fuan ag y cai ganiatad gan Lys ÌIanover. Dychwelyd a wnaeth yn Ionawr, 1712. Y gwaith Çyntaf a ddygodd allan ar ol dychwelyd oedd cyfansodd- ìad ar ddydd Genedigaeth y Frenhines Anne. Canwyd hi ar y 6fed o Chwefror, 1712, o flaen y Frenhines a'r Llys. Dechreuodd gyfansoddi gydag egni; ac yn mysg íhai o'i weithiau cyntaf yn 1713, yr oedd yr enwog Te Deum a Jubilate a gyfansoddwyd ganddo ar achlysur sefydliad heddwch Utrecht. Cafodd ef ei ddewis o flaen boÜ gyfansoddwyr Prydain, a Mr. Eccles, cyfansoddwr y Capel Brenhinol ar y pryd, i gyfansoddi y gweithiau hyn. A newydd iawn oedd yr effeithiau a gynyrchwyd ganddynt. Heblaw fod y gerddoriaeth yn newydd ac ardderchog, yr oedd dwyn offerynau cerdd (oddigerth yr organ) i chwareu mewn cerddoriaeth gysegredig, ac mewn lle cysegredig yn beth cwbl newydd a dieithr. Nid ydys yn gwybod yn hollol sicr pa un ai yn eglwys gadeiriol St. Paul a'i ynte yn nghapel St. Iago y cyn- haliwyd y gwasanaeth ar y 7fed o Gorph, 1713. Pen- ododd y Frenhines Anne iddo bension o £200 y flwyddyn. Yr amser hwnw yr oedd yn Llundain ddyn o gymeriad tra neillduol o'r enw Thomas Britton, Ei waith oedd cario glo ar ei gefn mewn sach i'w werthu ar hyd yr heolydd. Hen ystabl fuasai ei dŷ, mewn parth isel iawn o'r ddinas. Er nad oedd y tŷ ond isel iawn, rhanasai Britton ef i ddwy ran, sef llawr a llofft. Ar y ilawr y cadwai y glo, ac ar y llofft, heb ddigon o le i ymunioni na chadair i eistedd arni, gwelid llawer o brif gelfydd- ydwyr a phendefigion a phendefigesau Llunclain, yn chwareu cerddoriaeth ac yn ei mwynhau. Yr oedd Thomas Britton, mewn modd nad ydyw yn hysbys, wedi dysgu chwareu y viola da gamba yn dda; ac yno yn fynych iawn y byddai Handel, a Dr. Pepusch a phrif gerddorion eraill yn myned ac yn cymeryd eu rhan yn y gwaith. Y cyfarfodydd hyn, yn nhŷ Britton, y gwerthwr glo, oedd y cyngherddau preifat cyntaf yn Mrydain. Aeth pob peth yn mlaen yn hwylus hyd y flwyddyn ganlynol, 1714, pryd y bu farw y Frenhines, ac y coronwyd yr etholwr George o Brunswick, dan yr enw George I., yn Frenin yn ei lle. Yr oedd y Brenin yn teimlo digofaint tuag at Handel am ei waith yn gwrthod dychwelyd i Hano'yer, ac am gyfansoddi y Te Deum, a gwaharddwyd i'r cerddor ymddangos ger ei fron. Cyn hir, pa fodd bynag, gan na allai y Llys fyw heb Handel, bu barwn Kilmanseck yn llwyddian- us i'w cael i heddwch. Ar ol deall fod y Brenin r yn bwriadu cymeryd pleserdaith mewn cwch ar yr afon, ceisiwyd gan Handel gyfansoddi darnau new- yddion o gerddoriaeth erbyn yr achlysur. Cyfansodd- odd yntau y 25 o ddarnau bychain a elwir wrth yr enw Water Music, a chymerodd 14 o chwareuwyr gydag ef mewn cwch arall, a dilynasant y cwch brenhinol dan chwareu cerddoriaeth Handel. Deallodd y Brenin nad allasai neb gyfansoddi y gerddoriaeth hono ond Handel; tynerodd ei galon tuag ato, galwodd am dano, a gwnaed heddwch, a seliodd y Brenin y pardwn gyda phension o £200 y flwyddyn i Handel tra byddai byw, yn ychwan- egol at y £200 a roddasid iddo gan y Frenhines Anne. Digwyddodd hyn yn Mai, 1715. Yr oedd wedi cyfan- soddi yr opera Amadis cyn hyny er pan ddaethai i Brydain. Yn yflwyddyn ganlynol, 1716, aeth y Brenin drosodd L i Hanover, ac ymddengys i Handel fyned gydag ef, ac aros yno dros y rhan fwyaf o'r fl. 1717. Yn yr adeg