Skip to main content

Y CERD CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDÜRION, CORAU, AG UNDEBAU GERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 141. TACHWEDD 1, 1872. Pris 2g.—gyddr post, 2£c. AT Blür GOHBBWYE. -Byddwn ddiolehgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cehddoe gael ei hanfon i ni, ifod rnewn llaw ar neu cyn yr 20/«cZ o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Boberts, Fron, Carnarvon. CYNNWYSIAD. TÜDAL. Cerddoriaeth Grefy ddol yn Nghynadledd Leeds .. .. 81 Cystadleuaeth y Palas Gwydr yn 1873........ 82 Syr F. Gore Ouseley a Dr. Stainer ar Gerddoriaeth Eglwysig 83 " Outward Bound "............... 83 Marwolaeth Dr. Evan Davies .......... 83 Cofgolofn Ieuan Ddu .. ............ 84 Bwrdd y Golygydd ............... 84 Congl yr Efrydydd Iouanc............ 85 Taith Gerddorol yn Sir Benfro .. .. ....... 85 At ein Gohebwyr ................ 86 Amrywion .................... 86 Cronicl Cerddorol ............... 87 Hanesion Cerddorol............... 87 CEEDDOBIAETH GBEFYDDOL NGHYNADLEDD LEEDS. YN Dablllenasom y papyrau a ddarllenwyd yn y Gynadledd Eglwysig yn Leeds ar gerddoriaeth eglwysig, ac adrodd- iad o'r ymddiddan a gymerodd le yno mewn cysylltiad a hwynt gyda theimladau cymysgedig. Y mae yn dda iawn genym weled sylw mwy nag erioed yn cael ei dalu i gerddoriaeth gan Eglwys Loegr yn y dyddiau hyn. Mae yr Eglwys Sefydledig, fel y gwahanol Eglwysi Ym- neillduol yn deffro o ddifrif at ei gwaith, Ond canfyddir ar unwaith fod cymaint o wahaniaeth harn yn yr Eglwys gyda golwg ar y pwnc hwn ag sydd ynddi gyda golwg ar bob pwnc arall. Y mae un dosbarth a'i holl egni am wneyd y gerddoriaeth yn gorawl, a'r Uall am ei gwneyd yn gynulleidfaol—y naill am ei gwneyd yn rhywbeth mewn cysylltiad a'r gynulleidfa ac i effeithio arni, a'r llall am ei gwneyd yn ymarferiad crefyddol gan yr holl gynulleidfa. Ymddengys i ni, pa fodd bynag, fod un diffyg hanfodol yn y ddysgeidiaeth a ddysgir gan y rhan fwyaf o athrawon Eglwys Loegr gyda golwg ar gerddor- iaeth greíÿddol; a hwnw ydyw, diffyg cydnabyddiaeth o le a gallu y gynulleidfa yn y mater hwn. Dan ryw am- gylchiadau, gallai cor fod yn wasanaethgar. Yr ydym yn meddwl y gallem ddychymygu am amgylchiadau yn niha rai y gallai canu oratorio, neu restr o anthemau, cydganau, &c, gan gor fod yn foddion o ras. Nid ydym yn amheu nad oes peth felly wedi bod; ac yr ydym yn ìled sicr y bydd llawer iawn o beth felly yn y dyfodol. Nid ydym yn gweled na all cyfarfod i ganu yr efengyl, gan un person, fel Philip Phillips, neu gan amryw ber- sonau, neu gan gor, fod mor effeithiol a chyfarfod i bregethu yr efengyl; ac y mae yn debyg iawn y ceir nrwy o hyny. Dichon hefyd y gallai canu cydgan neu anthem ar ryw adeg yn y gwasanaeth crefyddol fod yn foddion o ras i'r gwrandawyr; a phan y delo pethau yn nes i'w lle, ac i symledd y grefydd Gristionogol, nid ydym yn gweled paham na allai canu can grefyddoi gan un neu ddau neu ychwaneg fod yn fendithiol i'r gwrandawyr. Ond y mae gosod ychydig o ddynion—gwrrywiaid mewn oed a llanciau, gan gau allan y rhyw fenywaidd—mewn lle neillduol yn yr addoldy, a chyfyngu y canu i'r rhai hyny, yn gwbl groes i hanfod "gwasanaeth" crefyddol. Gair hoffus ydyw " gwasanaeth" crefyddol; a byddai yn dda i bob eglwys Gi'istionogol feddwl mwy am dano, ac ymdrechu gwneyd eu cyfarfodydd yn fwy o " wasanaeth," gan ddysgu eu cynulleidfaoedd yn ddyfal eu bod yn dyfod i dy Dduw, nid yn unig nac yn benaf i dderbyn bendith, ond i roddi addoliad i'r Arglwydd. Y mae canu ỳn foddion tra arbenig a manteisiol i wneyd hyny. Ac yn lle dysgu ychydig o blant a dynion ieuainc, dylai pob gweinidog ä swyddog crefyddol fod yn ymdrechgar i gael yr holl gynulleidfa i gymeryd eu rhan yn drefnus a deallgar yn y " gwasanaeth " hwn. Y mae amryw o sylwadau a wnaed yn y Cyfarfod dan sylw yn arddangos i ni fod syniadau y siaradwyr yn an- heilwng a rhy isel am y bobl. Dywedai Syr Frederick Ouseley—" Os na fydd cor yn bresenol, na chynygier canu dim cynghanedd, ond gwneler y cwbl yn unsain." Ar ba beth y seiliwyd y gwaharddiad hwn ? Onid " dawn natur pob dyn ytyw" cerddoriaeth ? A phaham y gwarafunir i neb yn y gynulleidfa grefyddol i ganu y rhan hono ag sydd yn fwyaf cyfaddas i gylch ac ansawdd ei lais ? Onid efrydiaeth o wahanol gylchoedd ac an- soddau y llais dynol a roddes fodolaeth i'r gwahanol ranau ? A'r gair a fyn y Cymry o hyd am y rhai hyn yw gwahanol "leisiau." Yr ydyrn yn addef fod llai o drafferth i ddysgu ychydig o ddewisolion na dysgu holl gorph y gynuíleidfa ; ond nid wrth fesur y drafferth yr ydym ni i ymgymeryd neu beidio a'n dyledswyddau. Profiad plant dynion yn gyffredin ydyw, mai nid yr hyn a geir gyda lleiaf o- drafferth ydyw y peth goreu; ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, nid ydyw yr hyn a geir trwy ychydig o drafferth yn fynych yn werth i'w gael o gwbl. Ac y mae yn sicr fod dwyn cyuulleidfaoedd creíÿddol ein gwlad i ganu gyda'u gilydd yn galonog a deallgar yn werth unrhyw swm o lafur a thrafferth. Nid ydym yn gwybod pa un a ydyw sylw Dr. Spark yn wirionedd am y bobl gyffredin yn Leeds neu beidio. Mae yn debyg ei fod; mae yn sicr fod y Doctor yn tybied ei fod. Ond y mae yn mhell iawn o fod yn gywir yn Nghymru, hyd yn hyn o leiaf; a hyderwn na fydd yr holl ganu a siarad gwagedd a geir mewn rhyw fath o gynulliadau yn ein gwlad yn offerynol byth i'w wneyd felly. Cyfeirio yr ydym at y sylw—"nad ydyw y gweith- wyr yn hoff o bregethau." Am weithwyr Cymru, fel rheol, y maent hwy yn fwy hoff o wrando pregethau nac o gymeryd rhan egniol yn y "gwasanaeth." Mewn rhai o brif drefydd y Deheubarth, gwyddom fod Uawer o