Skip to main content

Y CERDDOR ^YLCHGRAWN MISOL ÁT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRiF GERDDORION, CORAÜ, AC UNDEBAÜ CERDDOROL Y GENEDL Rhip. 140. HYDREF 1, 1872. Pris 2g.—gyddr post, 2|c. AT BIN GOHEBWYB,. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ceeddob gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw arneu eyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Rev. J. Roberts, Fron, Carnanon. CYNNWYSIAD. TÜDAL. Ein Merched a Cherddoriaeth .......... 73 Chwaeth Gerddorol yn Lloegr ......... ..74 Eisteddfod Ceinewydd ............ 74 Eisteddfod Portmadoc ............. 75 Cylchwyliau Gerddorol Lloegr ............ 76 Diangfa bwysig i Gerddoriaeth Brydain........ 76 Y Pererin Caniadgar.............. 77 Mr. Charles Francis Gounod ..... ...... 77 Y Wasg Gerddorol .............. 77 Cronicl Cerddorol ............... 78 EIN MEBCHED A CHEBDDOBIAETH. Hyfrydwch ydyw gweled fod mwy o sylw yn cael ei dalu yn Nghymru i addysg y merched nag a fu erioed ; ac y maë mwy o ymdrech yn cael ei wneyd tuag at roddi addysg briodol i'r mercheä fel i'r meibion. Ond er fod gwelliant, a gwelliant mawr, wedi cymeryd lle yn hyn, y mae pob dyn ystyriol yn teimlo fod llawer o le eto i welliant yn y mater hwn yn ein gwlad yn gyffredinol. Bu amser pan y tybiai pawb yn gyffredin fod y rhan wrry w- aidd o ddynolryw yn rhagori ar y rhan fenywaidd. Y mae nifer y rhai a gredant felly yn myned yn llai y naill fiwyddyn ar ol y lla.ll; ond y mae Uawer eto rhwng y byd a dyfod i gredu y gwirionedd yn y mater hwn, ac i edrych ar y ddau ryw fel yn gyfartal—y naill yn rhagori mewn un cyfeiriad a'r llall yn y cyfeiriad arall. Y mae ystyriaeth o'r gallu cyfartal hwn i dderbyn addysg ac i wneyd defnydd o hono yn dangos, debygid, y dylai y merched gael manteision cyfartal a'r meibion. Ond y mae ystyriaeth o ffaith bwysig arall, sef mai y merched, pan yn dyfod yn famau, ydy w athrawon pwys- icaf y byd, yn dysgu y gallai cymdeithas fanteisio trwy roddi gwell manteision iddynt. Y ffaith, pa fodd bynag, ydyw nad ydynt hyd yn hyn yn cael manteision cyfartal. Gwna Uawer o rieni ymdrech i roddi ysgol i'r meibion ; ondcadwantymerchedgartref iweithioynllemorwynion. Nid ydynt yn cael llai o chwareu teg gyda golwg ar ddim, ychwaith, yn fwy na chyda golwg ar gerddoriaeth. Ac y mae hyn yn edrych yn fwy rhyfedd fyth pan y cofiom fod pawb yn ystyried y gall y merched ganu, o leiaf, yn llawn cystal, os nad yn well, na'r meibion. Pan y gelwir am ganu, wrth gwrs, yr ydys yn cyfeirio at y merched mewn modd arbenig. Ac eto, y mae yn alarus meddwl fel y mae eu haddysg yn y mater hwn yacaeiei Pan yr edrychom i fyny i fysg dosbarthiadau cyfoethog a chyfrifol, yr ydym yn gweled " cerddoriaeth " yn cael ei gydnabod fel rhan arbenig o addysg y mercheä ; ond yr ydym yn cael ein siomi yn ddirfawr pan yr ymofyn- wn ynghylch ystyr y gair music. Yn y rhan fwyaf o lawer o amgylchiadau nid ydyw yn cynwys dim mwy na threulio rhyw amser penodol bob dydd i arfer rhedeg y bysedd ar hyd tanau y piano. Ar ol i'r eneth dreulio blynyddoedd felly yn yr ysgol, ac i'w rhieni dalu llawer o arian am ei dysgu mewn " music,'" rhodder o'i blaen ddarn o gerddoriaeth glasurol, y mae yn gwbl analluog i'w chwareu ; ceisier ganddi ganu canhawdd ar yrolwg gyntaf, nid yw yn gwybod dim ar y gwaith ; gofyner rhywbeth iddi am egwyddorion cerddoriaeth, am elfenau cynghanedd a chyfansoddiad, nid ydyw yn deall dim yn eu cylch. Dyna ydyw sefyllfa y corph mawr o ferched y dosbarthiadau uchaf, ar ol bod yn treulio blynyddoedd i ddysgu yr hyn a elwir music. Mewn dosbarthiadau is i lawr, y mae llawer o ym- drech yn cael ei wneyd, mewn gwahanol ffyrdd, y blyn- yddoedd diweddaf hyn, gyda cherddoriaeth. Y mae yn ein gwlad gyfarfodydd Egin yr Oes, Dosbarthiadau Tonic Sol-ffa, Corau, a Chyfarfodydd canu crefyddol. Ac y mae llwyddiant mawr ar yr ymdrechion a wneir i gael y plant a'r bobl ieuainc i ddysgu darllen cerddoriaeth. Ond pa fodd y mae y merched yn sefyll ? Gwyddom fod eithriadau anrhydeddus, yn mha rai y mae y merched yn rhagori yn ddigon pell ar y meibion, nid yn unig am ganu, ond am ddarllen cerddoriaeth wrth nodau, ac mewn gwybodaeth yn elfenau cerddoriaeth. Ond gwydd- om hefyd mai yn wahanol y mae fel rheol gyffredin. Yn yr arholiadau am Dystysgrifau yn y Tonic Sol-ffa, nid oes ond ychydig, fel rheol gyffredin, o ferched yn dyfod yn mlaen—un neu ddwy o ferched, pryd y byddai dwsin o feibion ; a gwelsom rai arholiadau yn y rhai ni byddai cynifer ag un ferch yn cynyg. Yn Arholiadau Lleol y y Prif Ysgolion a gynhaliwyd yn ddiweddar, nid oedd cyfartaledd y merched a ddaethaut yn mlaen ond gwarthus o fychan. ■. Yn y corau, drachefn, fel rhèol nid oes ond ychydig iawn o'r merched yn medru darllen cerddoriaeth. Er fod y soprano yn y Cor Cymreig buddugol yn y Palas Gwydr yn canu yn ardderchog— yn canu, yn wir, yn well nag un o'r rhanau eraill, clyw- som fod y corph mawr o honynt yn analluog i ddarllen cerddoriaeth;—mai wrth y glust yr oedd y rhan amlaf o lawer o honynt wedi dysgu y cwbl. Ni charem fod yn euog o ddwyn cam-dystiolaeth mewn un modd ar y pwnc pwysig hwn. Nid gwarthruddo y merched, ar un cyfrif ydyw ein hamcan. Dywedwyd wrthym gan un ag oedd yn aelod blaenllaw a gweithgar o'r cor mai felly yr ydoedd; ac os ydym wedi ein camarwain, bydd yn dda iawn genym gael gwybod hyny, a'i gyhoeddi. Ôad os ydyw yr hyn a fynegwyd i ni yn wirionedd, y mae y pwnc yn galw am ystyriaeth fanwl y rhai sydd yn ar« weinyädion corau, pa fodd y ceir gwelliant yn y mater