Skip to main content

CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIG DAN NÄWDD PRIF CERDDORION, GORÂU, ÄO UNDEBAU GERDDOROL Y CENEDL Rhif. 137. GORPHENAF 1, 1872. Pris 2g.—gydár post, 2|c. AT EIN GOHEBWYR.-JBÿíîcîwn. ddiolchgar oa bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddor gael ei hanfoni ni,ifod mewn llaw ar neu eyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn :—Bev. J. Roberts, Fron, Camanon. CYNNWYSIAÌ). TÜDAL. Yr Organ yn Scotland .. ........... 49 Eisteddfod Gadeiriol Penygroes...... .. .. 50 Rheolau Schumann i Gorddor Ienanc .. .. .. .. 51 Cymanf a Undeb Corddorol Dirwestwyr Ardudwy ..... 52 Gymanfa Gerddorol Ddirwostol Gwent a Morgan wg.. .. 53 Cymaufaoedd Canu Cynulleidfaol.......... 53 Cylchwyl y Rhine isaf ............. 54 Cyfarfod Canu Cynulleidfaol .. .. ...... 64 Priodas Misa Megan Watts ............. 54 Cronicl Cerddorol.......... ..... 54 YR ORGAN YN SCOTLAND. Yn tnysg yr ychydig enwadau crefyddol ag sydd yn Ngorllewin Ewrop wedi sefyll yn erbyn defnyddio offer- ynau cerdd yn y gwasanaeth crefyddol y mae gwahanol ganghenau yr Eglwys Bresbyteraidd yn Scòtland. Yn y blynyddoedd diweddaf, pa fodd bynag, y mae cyfnewid- iad yn cymeryd lle yn raddol yn syniadau ac arferion yr eglwysi hyn. Codwyd y cwestiwn i lysoedd rhai o honynt er ys rhai blynyddoedd, a dadleuwyd llawer iawn arno. Yn y dadleuon hyny, gwnaed defnydd o bob peth ag yr oedd yn bosibl ei ddweyd yn erbyn yr offerynau, ac ym- ollyngodd llawer o ddynion parchus a duwiöl i siarad yr hyn ni ddylasent. Daliwyd yn dyn am gryn amser yn erbyn rhoddi awdurdodiad na chaniatad i ddefnyddio offerynau cerdd ; ond yn raddol, gwelodd rhai llysoedd Qa3 gallent gadw y llanw yn ol yn hwy, a phenderfyn- asant adael y cwestiwn yn agored, fel y gallai pob eglwys Weithredu yn y mater fel y gwelai yn oreu. Yr ydym yn meddwl mai y llys cyntaf i wneyd hyn ydoedd llys yr Eglwys sefydledig yn Scotland. Y canlyniad fu dwyn ychydig o offerynau i arferiad; ond y mae y Scotiaid, byd yn nod ar ol cael y rhyddid hwn, yn ymarhous ac araf iawn yn gadael yr hen drefn y teimlai eu tadau Baor gryf o'i phlaid. Yn niwedd mis Mai, codwyd yr achos i Synod y Pres- byteriaid Unedig. Nid dyma y tro cyntaf iddo gael ei ddwyn yn mlaen yn y llys hwnw. Bu yr achos o flaen y Synod er ys pedair blyuedd ar ddeg yn ol, mewn cy- sylltiad ag Eglwys Ciaremont yn Glasgow. irr oedd yr eglwys hono wedi ei hadeiladu gyda bwrìad o osod organ ynddi, ac adeiladwyd offeryn ardderchog, a gosod- wyd hi yn ei lle; ond ni chaniatai yr awdurdodau iddi gael ei chwareu. Bu yno yn dystiolaeth fud, ond hy- aẅdl, yn erbyn culni ac anghywirdeb pobl a ddylasent wybod a gweithredu yn wahanol. Gwthiwyd yr achos i sylw eleni gan amgylchiadau. Er ddarfod i'r synod roddi gwaharddiad, er ys pedair blynedd ar ddeg, fel y sylwyd, dwyn organau i arferiad a wnaed gan lawer o'r eglwysi yn Lloegr; ac erbyn hyn yr oedd yn dyfod yn angenrheidiol gwneyd rhywbeth er mwyn sicrhau unoliaeth yn y cyfundeb—naill ai gwa- hardd yr eglwysi yn Lloegr i ddefnyddio offerynau mwy- ach, neu ynte rhoddi rhyddid i'r holl eglwysi wneyd yr un peth os byddent yn ewyllysio. Anfonodd Henuriaeth Carlisle gais i'r Synod am i bob eglwys gael bod at ei rhyddid i dreí'nu ei chaniadaeth yn ol ei hewyllys ei hun; ae yr oedd Henuriaethau Llundain a swydd Lancaster yn gofyn am i ddefnyddiad offerynau cerdd yn y gwasanaeth crefyddol gael ei adael i farn pob eglwys. Yr oedd y ddau gynygiad felly yn dyfod i'r un peth, o ran sylwedd—fod y mater yn cael ei adael i'r eg- lwysi. Hyn ydyw penderíyniàd yr Eglwys Sefydledig ac Eglwysy Presbyteriaid Saesneg. Cefnogwyd y cynygion hyn gan Mr. Christie, Carlisle; Mr. Wales, Llundain; y Parch.Dr.Edmond,Llundain; Mr.Stitt, Lirerpool; aMr. Salmond, Newcastle. Sylwyd mai yr wrthddadl fawr a ddefnyddid er ys rhai blynyddoedd yn ol yn erbyn hyn yd- oedd, y buasai yn drygu yr undeb ag yr oeddid yn ceisio ei sefydlu rhwng y gwahanol ganghenau o Bresbyteriaid, ac yn enwedig gyda golwg ar yr Églwys Rydd. Ond yr oedd Synod yr Eglwys Bresbyteraidd Seisnig wedi pasio, yn 1871, fod ei holl gynulleidfaoedd i gael arfer eu rhyddid yn y mater hwn, ac yr oedd amryw gynull- eidfaoedd wedi dwyn organau i'r gwasanaeth, ac eto nid oedd yr Eglwys RjTdd wedi dweyd dim yn eu herbyn. Dadleuai Mr. Parker, Sunderland, yn erbyn defnyddio offerynau. Nid oedd yn dweyd y buasai hyny yn bechod; ond yr oedd yn groes i gyfansoddiad yr Eglwys Bresby- teraidd, a byddai yn aflonyddu ar heddwch yr eglwysi, ac yn dwyn i fewn y Ddefodaeth hono ag sydd yn groes i symlrwydd yr efengyl. Pan oedd Mr. Parker yn parhau i lefaru yn faith, aeth y Synod yn anesmwyth, ac mor aflonydd yn y man fel y dywedodd Dr. Edmond nad oedd yr hyn a draethid yn werth i'r Synod eistedd i wrando arno. Cynygiodd Mr. Clark, Barrhead, fod penderfyniad blaenorol y Synod i aros heb ei newict. O Loegr ac nid o Scotland yr oedd y cais wedi dyfod. [Yr oedd y gwr parchedig yn anghofìo y ceisiadau a wnaethpwyd o Glasgow a ìleoedd eraill yn Scotland flynyddoedd yn ol, a'u bod wedi peidio gwneyd ceisiadau yn ddiweddar yn unig rhag aflonyddu ar heddwch yr eglwys]. Dywedai hefyd y buasai caniatau y ceisiadau hyn yn archoili teimladau miloedd yn Scotland a rhai yn Lloegr, ac yn agoryd y ffordd i ddwyn i fewn lawer o lygredigaethau eraill. Eíliwyd y cynygiad gan Mr. Borland, Glasgow* Y Parch. Dr. M'Ewen, Glasgow, a gynygiai fod y Synod yn caniatau y cais—yn gadael i ddiaconiaid pob eglwys i benderfynu ya mha drefn y dygir yn mlaen