Skip to main content

Y CERDDOR CYMREIC: CYLCHGRAWN MISOL AT WASAMETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIC DAN NÄWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AG UNDEBAU GERDDOROL Y GENEDL Rhif. 136. MEHEFIN 1, 1872. Pris 2g.—gyddr post, 2|c. AT EIW 60HBBWYB.-B!/ẅn ddiolehgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn Uaw ar neu eyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn :—Bev. J. Boberts, Fron, Carnarvon. CYNNWYSIAD. TUDAL. Cyfarfodydd Canu Crefyddol ... .......... 41 Ti, Dduw, a folwn .. ........ .. .. 42 Beirniadaeth Cerig Druidion, Mawrth 1,1872...... 42 Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia) ....... ..43 TenorNewydd.................. 43 Ystaf ell yr Hen Alawon ............. 44 Hanesion Cerddorol.......... .. .. 44 Cronicl Cerddorol ............... 46 CYFAEFODYDD CANU CBEFYDDOL. 3. Yr hyn sydd yn dyfod yn naturiol dan sylw yn nesafydyw—Dysgu y Tonau a'r Hymnau ar ol eu dethol. Y mae rhai dosbarthiadau yn argraffu yr Hymnau, a gwelsom un dosbarth wedi myned mor bell ag argraffu y Tonau hefyd gyda'r Hymnau. Yn y cyffredin, argreffir yr Hymnau gyda llythyrenau gwahanol i ddynodi y dull y bwriedir eu canu. Defnyddir llythyrenau Italaidd i ddynodi canu yn wan a thyner, Prif lythyrenau bychain i ddynodi canu yn Uawn a chryf, a llythyrenau Rhuf- einig cyffredin i ddynodi canu yn gymedrol. Y mae manteision yn perthyn i'r cynllun hwn, yn enwedig i ddosbarthiadau ag nad ydynt yn mhell yn mlaen gyda cherddoriaeth; ond nid ydym yn credu fod yn perthyn iddo lawn cymaint o fanteision ag a ddadleuir gan rai o'i bleidwyr. Dywedir wrthym fod argraffu yr Hymnau gyda'u gilydd, a'u gwerthu am geiniog, yn foddion i roddi yr Hymnau yn nwylaw pawb yn gyffredinol. Add- efwn hyny; ac addefwn yn mhellach fod hyny yn fantais. Ond y mae yn amheus ai nid ydyw yn foddion hefyd i gadw pobl rhag prynu Llyfrau Hymnau. Anfantais yn y pen draw ydyw unrhyw beth a saif ar ffordd y cynull- eidfaoedd yn gyffredinol i bwrcasu Llyfrau Hymnau. Un o ddiffygion pwysicaf ein cynulleidfaoedd ar hyn o bryd ydyw ymddifadrwydd o Lyfrau Hymnau. Gwydd- om y dadleuir gan rai bychain, culion, a mympwyol nas gellir disgwyl i'r cynulleidfaoedd geisio Llyfr Hymnau mor gyffredinol fel y gallant ganu yr Hymn drosti, heb ei rhoddi allan. Ond y mae protìad a sylw wedi ein dysgu ni i gredu yr hen air—"Lle y mae ewyllys y mae gallu." Lle y byddo teulu mawr o blant—chwech »eu wyth, dyweder, a neb yn enill dim ond y tad, a'i gyflog yntau yn tychan, y mae cael arian i bwrcasu tri neu bedwar o Lyfrau Hymnau, hyd yn nod am y pris isel o swllt bob un, yn anhawdd. Gwyddom hyny; ac yr ydym yn cydymdeimio a'r rhai sydd mewn amgylchiadau o'r fath. Ond yr ydym yn cofio mai i ymladd ag an- hawsderau a'u gorchfygu y mae dyn yn y byd hwn. Ac y mae llawer o ffyrdd i orchfygu yr anhawsder hwn. Dichon fod gallu ar law y tad ei hun yn y mater hwn. Beth pe byddai pob tad ag sydd yn gwrando yr efengyl yn Nghymru yn rhoddi heibio y tybaco am chwe' mis, ac yn defnyddio yr arian ,.a fuasai yn eu gwario am dano i brynu Llyfrau Hymnau i'r plant ? Mae yn auhawdd i ni ddychymygu y cyflenwad a roddai hyny ar unwaith o Lyfrau Hymnau yn ein cynulleidfaoedd. Ond y mae llawer o ffyrdd eraill. Y mae gair yn yr hen Lyfr y proffeswn ni ei gymeryd yn rheol ffydd ac ymarwedd- iad—" Dygwch feichiau eich gilydd." Ai nid oes yn perthyn i'r gynulleidfa ddynion ieuainc heb blant, a dynion eraill ag sydd yn feddianol ar ddigon o gyfoeth i gynorthwyo rhai gweiniaid ac anghenus ? Onid oes hefyd y fath beth a gwobrwyo yn yr Ysgol Sabbathol, yn nghyfarfod Egin yr Oes, ac yn y Cyfarfod Llenyddol ? Ac onid cynllun rhagorol fyddai rhoddi Llyfrau Hymnau yn wobrwyon i'r plant hyd nes byddo y cynulleidfaoedd wedi eu llenwi a hwynt ? Nid ydym wedi nodi ond ychydig o'r llwybrau ag y byddai yn hawdd iawn eu dyfeisio a'u rhoddi mewn gweithrediad tuag at gyflenwi y diffyg hwn. Ac nid ydym yn meddwl y dylai un eglwys ymfoddloni hyd nes byddo wedi cael ei lanw i fyny. Byddai un fantais a geir trwy argraffu yr Hymnau felly yn diflanu. Y fantais arall a ddadleuir ydyw fod argraffu yr Hymnau gyda llythyrenau gwahanol yn galluogi y rhai fydd yn canu i weled pa un ai yn gryf ai yn wan y maent i ganu y gwahanol linellau. Y mae hon yn fantais, ni a addefwn, ac yn enwedig ar y pryd presenol, pan y mae ein cynulleidfaoedd heb dalu ond ychydig o sylw i gerdd- oriaeth, ac heb feddwl ond ychydig wrth ganu. A hyd nes y dyrchetìr y cynulleidfaoedd i dir uwch gyda golwg ar gerddoriaeth, ni a anogem y rhan fwyaf o ddosbarth- iadau i argraffu yr Hymnau yn y dull hwn. Adwaenom rai dosbarthiadau, pa fodd bynag, y rhai nid oes arnynt un angenrheidrwydd am hyn. Mae y Llyfrau Hymnau yn gyffredinol eisoes yn eu cynulleidfaoedd; y mae y plant a'r bobl ieuainc wedi eu hyfforddi mor dda yn y Tonic Sol-ffa, fel y darllenant Donau Cynulleidfaol yn rhwydd ar yr olwg gyntaf; ac y maent yn Hafurio ac yn cymeryd trafferth i ddysgu yr holl Donau a'r Hymnau ar eu cof yn dda, fel na fydd ganddynt yn y cyfarfod ddim i'w wneyd ond eu canu yn ol cyfarwyddiadau yr arweinydd. A chwenychem yn fawr weled y dosbarth- iadau hyn yn myned ar gynydd yn ein gwlad, fel na fydd ar y cynulleidfaoedd yn y cyfarfodydd dan sylw ond ychydig o angen am un Llyfr, mwy nag sydd ar y preg- ethwr yn y pwlpud pan yn gweddio neu yn pregethu. 4. Pwy sydd i ddysgu ac i ganu y Tonau a'r Hymnau hyn ? Y mae yr atebiad i'r gofyniad hwn yn syml ac yn