Skip to main content

Y CERDDOR CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIC DAN NAWDD PRIF CERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y CENEDL Rhif. 134. EBRILL 1, 1872. Pris 2g.—gyddr post, 2%c. AT B1T3" GOHEBWYR. -Byddwn ddiolchgar os bydd l bob gohebiaeth i'r Cerddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu cyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Boberts, Fron, Carnanon. CYNNWYSIAD. TTJDAL. Eisteddfod y Ehos, Mountain Ash, Nadolig, 1871 .. .. 25 Amlder ac Amcan Cyngherddau...........26 Dau Farehog Cerddorol eto ..........26 Gohebiaeth ..................27 Ystafell yr Hen Alawon .. .. ........-27 Bwrdd y Golygydd ...... ...........27 Mr. Jolm Rhys ar Gerddoriaeth y Cymry ......28 Amrywion .....................28 Hanesion Cerddorol .. .. .. ........28 Cronicl Cerddorol ................30 EISTEDDFOD Y EHOS, MOUNTAIN ASH, NADOLIG, 1871. JBeirniadaeth y Cyfansoddiadau Cerddorol. At y Pwyllgoh. Foneddigion,—Yr wyf o flwyddyn i flwyddyn wedi sylwi arnoch gyda llawer o ddyddordeb, yn ymsymud yn mlaen yn rhyw gyfeiriad neu gilydd gyda thori allan dir newydd o flaen llenorion a cherdd- orion eich gwlad. Eleni yr ydych wedi cynyg gwobrau atn gyfansoddi alawon, yr hyn yn ddiau sydd yn gam yn yr iawn gyfeiriad, oblegyd y mae eisieu mwy o ganeuon, dwyonau, &c, arnom. Pa mor bell y gallaf gydweled a chwi yn newisiad y testynau hyn, nid yw o gymaint pwys i mi fanylu yn y fan hon. Y mae yn amlwg mai eich amcan wrth gynyg gwobrau am gan serch, ac am y trefniant goreu o'r gan íFraethbert " Punch i Gymru," oedd cael cyfansoddiadau o nodwedd rhwydd, ysgafn, a phoblogaidd, priodol i'w dadganu mewn cyfarfodydd o natur ddigrif a llawen. Wel, am a wn i, 'dyw hyny ddim i'w feio, ond gofalu peidio myned yn ormodol ar ol can- euon o'r dosbarth hwn. Pel y cyfeiriwyd eisioes, ychydig o ganeuon o uu math sydd hyd yn hyn wedi eu hysgrifenu yn ein hiaith; a da f'yddai pe cymerai rhyw fardd neu feirdd y gwaith mewn llaw o ddarparu cyfres o ganeuon moesol, pur, a da, ar destynau cymwys, a'u cyflwyno i ryw gerddor neu gerdd- orion galluog i'w trefnu at gerddoriaeth. Pwy bynag a wnai hyny, gwnelai wasanaeth mawr i'w wlad, a chaem felly amrywiaeth o ganeuon priodol i'w harferyd yn ein cyfarfodydd cyhoeddus, heb achos i ni fenthyca oddiar genedloedd ereill. Y mae gan y Saeson ddigonedd o ganeuon o bob na- tnr; oes, meddaf, ormod o'r caneuon a fenthycir yn rhy aml gan gantorion Cymreig. Cyfeirio yr wyf at y can- euon digrif (comic songs), pa rai sydd yn cael eu harferyd a'u harchwaethu, er cywilydd i ni, yn fwy na dim arall y dyddiau presenol yn Nghymru. Ond nid dyna y drwg i gyd. Y mae rhai o'n beirdd a'n cerddorion fel ar eu heithaf yn trefnu y cyfryw ganeuon llygredig i ateb geir- iau Cymreig. Paham, yn enw pob rheswm, na adewir i'r fath drash farw yn eu gwlad enedigol ? Ni allent ac ni ddylent fyw yn hir. Y mae y dosbarth hwn o gerdd- oriaeth wedi andwyo chwaeth, ie, meddaf, wedi distrywio pob gallu mewn degau o'n bechgyn a'n merched mwyaf talentog at y pur a'r prydferth. Gwareder cyfansoddwyr Cymru rhag ymhyfrydu yn y fath sothach diwerth, a bydded i ni geisio gwneud ein goreu, dan yr amgylchiadau y gosodwyd ni ynddynt, i geisio cynyrchu cyfansoddiadau fydd yn foddion i buro a dyrchafu ein cydgenedl. Y mae rhai caneuon da wedi dyfpd i law ar y testyn cyntaf; ond credwn pe byddai y gwobrau yn uwch y tynid allan fwy o'n prif gyfansoddwyr. I.—Alaw, gj'da chyfeiliant i'r pianojorte, ar y gaa "Punchi Gyraru." 1. Syr Dafydd Gam yn Bjîat.—Y mae Syr Dafydd yn ysgrifenydd galluog, ond nid yw ei drefniant yn ein boddhau drwyddo. Y mae dygiad i fewn yr amser | ar y frawddeg "I'r gyfraith ufydd yw," yn ein tyb ni, yn mhell o fod yn effeithiol. Cawrn fod yr awdwr hefyd yn lled esgeulus gyda'r gynghanedd. Gwell i'r awdwr hwn drefnu ei alaw at eiriau ereill, mwy cydnaws a'i hys- bryd na'r gan hon. Ceir fod darnau yma a thraw o*i gyfansoddiad yn rhagorol. 2. Gomerian.—Cyfansoddiad rhagorol yw hwn efeor yn annibynol oddiwrth y geiriau; ond methwn weled f'odi un cyfatebiaeth yn y gerddoriaeth i ateb nodwedd y gan. Y mae y trefniant hwn yn atëb hyd y gwahanol benillion o'r gân gystal ag un yn y gystadleuaeth. 3. Verdi.—Dywed yr awdwr hwn ar ymyl y dídalen y gallai roddi y dosraniad priodol o'r geiriau i ateb y gerddoriaeth. Dywedwn ninau wrtho yntau mai un peth yw dweyd hyny, ond peth arall fyddai ẃido osod copi cywir o'n blaen. Gallem feddwl mai ieuanc yw yr awdwr fel ysgrifenydd cerddorol. 4. Taffy Bach.—Amcana Taffy yn lled dda at wnead can ar y geiriau, ac ysgrifena yn weddol gywir i'r piano; ond fel cyfansoddiad gorphenol y mae yn cŵlli. 5. Sir David Gam.—Dyma alaw ragorol, a daw yn ddigon llithrig gyda thipyn o ofel ar y geiriau yn y ddwy iaith; ond yn ein tyb ni y mae lawer iawn yn rhy dda, ac o arddull rhy gysegredigi ateby fath eiriau a'r rhai hyn. Ysgrifena yr awdwr vn rheolaidd i'r piem>, ond ymddengys nad ydyw yn gyfarwydd a'r gwaith. 6. Ap Cadfwch.—Dyma drefniant rhagoroi. Y mae yn ateb y geiriau yn y ddwy iaith yn dda. Nid yw y gerddoriaeth yn wreiddiol drwy y darn, a gallesid yn hawdd ddwyn i fewn fwy o amrywiaeth i'r gwaith. Ond fel trefniant i gyfateb y geiriau, y mae yn fwy Uithrig,