Skip to main content

T CEBDDOE CYMEEIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEOIC DAN NAWDD PRIF CERDDORION, CORAU, AG UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 130. RHAGFYR 1, 1871. Pris 2g.—gyddr post, 2|c. AT BIM" aOHMBWYB..-Byddwn ddiolehgar1 os bydd i bob gohebiaeth i'r Cebddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw arneucyn yr 20fed o'r mis, yn tyml' fel hyn:—Èev. J. Bobertt, Fron, Carnanon. CYNNWYSIAD. TÜDAL. Moesoldeb ein Cyngherddau .. .. .. .. .. 89 Undeb Llenyddol Dinorwic a Llanberis ....... 90 Y Diweddar Mr. Cipriani Potter...... .. .. 91 Llundain .. .. .. .. .. .. .. .. 91 Bwrdd y Golygydd ... ... .. . ;. ..' .. .. 92 Cronicl Cerddorol.......... .. .. 92 MOESOLDEB EIN CYNCrHERDDAU. Mewn rhifyn diweddar o'r Cebddor galwodd ein goheb- ydd " Maldwyn " sylw at y gerddoriaeth wael a genir yn rhy fynych yn ein cyngherddau; ac yr ydym yn meddwl fod y mater yn haeddu ystyriaeth ddifnfol pawb ag y mae caniadaeth a chymeriad eu gwlad a'u cenedl yn gorwedd yn agos at eu calonau. Mae yn ddiamheu fod y cysylltiad agosaf rhwng y gerddoriaeth a arférir gan genedl âg ansawdd ei meddwl a sefyllfa ei moesol- deb. Y mae cymeriad meddyliol cenedl, ar y naill law, ' ýn rhoddi delw ac ansawdd i'w cherddoriaeth, a'i cherdd- oriaeth drachefn yn dylanwadu ar ei chymeriad—ÿ naill a'r llall yn dyfod yn achós ac yn effaith bob yn ail. Gwelir hyny yn y modd mwyaf amlwg yn Germani, Ffrainc, ac America. Rhodder i ni gäsgliad cyflawn a theg o'r gerddoriaeth a arferid ac a ddèrbynid gan un- rhyw genedl mewn unrhyw oes, ac nid anhawdd fydd gwneyd allan beth ydoedd cymeriad y genedl yn yr oes hono, o ran meddylgarwch a moesoldeb. Os ydyw y sylw hwn yn gywir, pa beth a fydd dedfryd beirniaid oesoedd dyfodol ar gymeriad cenedl y Cymry yn nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chasglu oddiwrth y gerddoriaeth sydd yn arferedig ac yn dderbyniol ganddi ? Gwyddom fod llawer o gerddoriaéth ragorol yn cael ei harferyd; ac yn yr ystyr hön—pa beth bynag a ddy- weder yn eu herbyn oddiar ystyriaethau eraill, y mae canmoliaeth i'w roddi i bwyllgorau cystadleuaethau yn ein gwlad; a daw y Deheudir i fewn am gyfran helaeth iawn o'r ganmoliaeth hon. Y mae un o bapyrau wyth- nosol y Oeheudir yn bresenol o'n blaen, yn cynwys Hysbysiadau am 13 o gyfarfodydd cystadleuol, y rhai a hollol gamenwir jrn " Eisteddfodau;" ac y mae y test- ynau cerddorol yn y rhai hyn oll, wedi eu dethol gyda barn a chwaeth dda. Nid annyddorol fyddai gan ddar- llenwyr y Cbrddob i ni osod rhai o honynt ger eu bron. Dyma rai o'r prif destynaa:—We never will bów down (Handel); gwobr, £25. Yet doth the Lord see it not (Mendelssohn); gwobr, £21. Awake the harp (Haydn); gwobr, Harmonium gwerth £20. How lovely are the messengers (Mendelssohn); Gwobr, £15. O cadw ni (Stephens); gwobr, £15. Hallelujah (Handel); gwobr, £15. Yr Arglwydd yw fy Mugail (Pencerdd Americâ); gwobr, £15. Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israeí (J. Thoŵas), £12. Mor hawddgar yw dy bebyll (Pen- cerdd America); gwobr, £10. Rhathrgyrch (Alaw Ddü); gwobr, £10. Ardderchog wlad y bryniau (D. E. Erans); gwobr, £10, a baton i'r arweinydd. In Jewry is God known (Clarke Whitfield); gwobr, £7. Y Ffrwd(G. Gwent); gwobr, £5. Gorfoleddẃh yn dy iâchawdwr- iaeth (Croft); gwobr, £8. Nid oes raid i neb gywilyddio a gostwng pen wrth edrych ar y detholiad hwn; ac y mae y canu a geir ar y cyfryw ddarnau o bryd i bryd gan gorau ein gwlad yn adlewyrchu credyd nid bychan ar ein talent a'n llafur cerddorol. Buasai yn dda genym pe gallasem adael y cyfarfodydd hyn gyda'r clod bwni sydd yn perthyn iddynt; ond nis gallwn. Y mae y drefn a'r ysbryd yn mha rai- y dygir gweithrediadau y cyfarfodydd hyn yn mlaen yn fynych yq warth i'n gwlad. Dywedwyd wrthym am fwy nag un o'r cyfryw gyfarfod- ydd a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn hon, fod y diffyg trefn, yr anfoesgarwch, y geiriau çaledion, ýr iaith gwrs, a amlygid ynddynt yn llawer mwy cyfaddas i gynulleidfa o fedlamiaid haner gwallgof, neu i ddynion na welsent yr un Beibl ac na chlywsent erioed air o Efengyl, nag i gynulliad o ddynion synwyrol a chyfrifol yn y wìad helaethaf ei breintiau dan dywyniad haul. Ac nid dyna ydyw y cwbl. Yn y cyffredin, cynhelir yr hyn a elwir " Cyngherddau mawreddog." yn yr hwyr, yn mha rai, yn fynych, y dygir i fewn ganeuon gweigion, llygredig, y rhai ni ddylént gael un arirhydedd aẃch byth na gwasanaethu y meddwon yn y tafarndai. Ac y mae yn digwydd weithiau fod y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynal, a'r caneuon hyn yn cael eu canu, yn Nghysçgr Duw. Gan bwý y mae gallu a dylanwad, a phwy sj{«d i weithio yn egriiol a phenderfynol, i gaei diwygiad trwyadl yn y pethau hyn ? Y mae daioni yn cael ei wneyd trwy y cyfarfodydd hyn, a gellid gwneyd anrhaethol fwy trwy eu cadw yn drefnus a chyfrifol; ond ymddengys i ni fod y drygau a gynyrchir trwyddynt, ac yn enw- edig trwy y cyngherddau. yn llawer mwy na'r daioni, fel y maent yn cael eu cynal yn rhy fynych y dÿddiau hyn. Ond y mae dosbarth arall o gyngherddau yn cael eu cynal yn ein gwlad, y rhai, hyd y gwelwn ni, nid ydynt yn gwneyd ond ychydig iawn, os dim daiotìi o gwbl. Cynullir ynghyd ieuenctyd yr ardal, cenir ynddynt bob math o ganeuon gweigion a masweddol, cedwir y cyfar- fod nes byddo yn hwyr gan ail-alwadau o'r darnau mwyaf gwagsaw, gollyngir y bobl ieuainc i ffordd yn yr ysbryd cynhyrfus, anifeilaidd hwnw. A phwy a wyr y drygau arswydlawn a wneir yn ein gwlad trwy y cynull»