Skip to main content

Y CERDDOB CYMREIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDSG DÂH NAWDD PRIF GERDDORION, CORÂU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y-CENEDL Rhif. 128. HYDREF 1, 1871. Pris 2g.—gydcír post, 2£c. AT EIN GOHEBWYE. -Byddwn ddiolehgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ceeddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu eyn yr 20/ed oV mit, yn $yml fel hyn :—Bev. J. Roberti, Fron, Carnarvon. CYNNWYfelAD. TÜDAL. Cylchwyl Gan-mlwyddol Beethoven yn Boun .. .. 73 CylchwyJ Gerddorol Caerloyw.......... 74 Eisteddfod Treíoreat ............ 75 Eiu Chwaeth Gerddorol............ 76 John Francis ................ 76 Congl yr Ef rydýdd Ienanc .......... 76 At ein Gohebwyr ................ 77 Cronicl Cerddorol.......... .. .. 77 CYLCHWYL GAN-MLWYDDOL BEETHOVEN YN BONN. Ye oeddid wedi bwriadu cynal y gylchwyl hon yn lle genedigol y cyfansoddwr anfarwol y llynedd; ond daeth y rhyfel yn mlaen a diddymodd yr holl drefniadau. Cynhaliwyd yr wyl ddyddiau Sul, Llun, Mawrth, a Mercher, Awst 20, 21, 22, 23. Yr oedd y cor yn cynwys 373 o leisiau, ar gerddorfa 77 o offerynau. Yr oedd y gerddoriaeth a gaf'wyd yn y gwahanol gyngherddau fel y canlyn :—Y Sabboth, y Gwasanaeth yn D, a'r Sym- phoni Rhif 6. Dydd Llnn, Overture i Leonora, Rhif 3 ; Ymdeithgan a Chydgan o '•Adfeilion Athen ;" Concerto i'r Violin; Choral Fantasia ; y Symphoni Arwrol. Dydd Mawrth, Overture i Coriolanus; Galar-gan; Concerto i'r piano, Ah perfido; Overture i Egmont, Symphoni Rhif 9. Dydd Mercher, Pedrawd i dant-otîerynau (Herren Joachim, Von Königslow, Strauss, a P. Grütz- macher); Sonata i'r piano a'r violoncello (Dr. Hiller a F. Grützmacher); Dwy gân gan Madam Joachim; Pedrawd i dant-offerynau. Yr adroddiad goreu a gafwyd yn Lloegr o'r gylchwyl ydyw yr eiddo y Daily Ntwa; ac o hwnw yn benaf yr ydym yn rhoddi y sylwadau canlynol. Er ys amser yn ol yr oedd y Gwasanaeth yn D yn cael edrych arno yn Mrydain yn aumhosibl i'w ganu. Erbyn hyn y mae ei holl anhawsderau wedi eu gorchfygu, ac yr ydoedd y datganiad a gafwyd o hono yn Bonn yn mhob ystyr yn mron yn berffaith. Yr Ehediant "In gloria Dei," fe allai oedd y datganiad corawl goreu a galwyd yn ystod yr holl gylchwyl; ond yr oedd rhy ychydig o wahaniaeth yn cael ei wneyd rhwng y ddau amser, yr Allegro a'r Presto. Yr oedd y " Credo," gyda'i holl âmrywiaeth y fath fel nas gellid teimlo ynddo un diffyg. Y*r oedd yr offerynau yn rhy gryf yn y "l'leni suntceli;" ac ym- ddengys fod cynllun Llundain, gyda'r symudiad hwn, sef ei roddi yn gydgan, yn well nag yn bedrawd. Y "Benedictus"—yr hawddaf o'r cwbl, a ganwyd waelaf. Yr oedd yr " Agnus Dei" yn rhagorol; ac yn derfyniad teilwng i'r datganiad goreu a gafwyd o'r gwaith hwn erioed. yn Germani ncu allan ohoni. Am y syraphoni yn C leiaf, yr oedd bron yn berffaitn. Nis gall ond cerddorfa o'r dosbarth blaenaf roddi y " Leonora " yn foddhaol. iíyddai yr unghyd-darawiad lleiaf, o ran atnser neu don, a hyny mewn cerddoriaeth ag sydd yn amrywio o'r piano mwyaf araf a thyner hyd y prestissimo mwyaf cyflym a chynhyrfus, yn ei din- ystrio ; ond yr oedd yr offerynwyr digymar a'i chwarsu- ent yma yn gynefin a disgyblaeth ag oedd yn gwneyd hyny yn amhosibl. Dangosai yr ystorm o gymeradwy- aeth a ganlynodd fod ymdrechion Dr. Hiller a'r gerddorfa yn cael eu gwerthfawrogi, ond gwrthododd y Doctor ei hail chwaren. Ar ol y rhanau o " Adfeilion Athen," am y rhai nid oes dim neillduol i'w ddweyd, ymddangos- odd Herr Joachim; ond cynhyrfwyd y gynulleidfa gan yr olwg ar y mwyaf galluog o chwareuwyr y violin, fel na fedrai fyfted yn mlaen am amryw fynydau gan y rhyferthwy o gymeradwyaeth. Am y gallu sydd ganddo ar yr offeryn, nis gall fod ond un farn ; ni ddangoswyd y fath íedr gan neb er dyddiau Paganini. Ac ni wnaeth y darn y chwareuwyd ganddo ddim ond amlygu y medr hwn, yr hwn oedd yn ddigon hysbys i bawbyn flaenorol. Ond ni wnaeth ddim i brofi ei fod hefyd yn f'eddianol ar chwaeth a theimlad cerddorol. Buwyd yn hir iawn cyn cael tawelwch i fyned yn mlaen. Yn ei le daeth y pianydd mwyaf, yr hwn erbyn hyn sydd yn fwy o Brydeiniwr nag o Ellmynwr, sef Herr Hálle. Mid oedd y cyflawn- iad hwn ychwaith yn hollol foddhaol, oblegyd nad oedd y darn (Choral Fantasia) yn un cyfaddas i ddwyn allan alluoedd Herr Halle, gallasai chwareuwr llai galluog chwareu y darn hwn yn llawn cystal. Terfynwyd gyda'r "Sinfonia Eroica;" àc nid oedd un ddadl yn meddwl neb nad oedd y gerddorfa hon y ragoraf a fu erioed yn dadblygu rhagoriaethau lìeethoven. Yr oedd y gyngherdd a gafwyd ddydd Mawrth yn un a adawodd argraff nas gellir ei dileu ar y gynulleidfa. Dechreuwyd gyda'r Overture i Coriolanus. Ar ol hon cafwyd Rhan-gan, gan Frau Otto Alysleben, Frau Joachim, Herr Vogle, a Herr Schnlze. Nid oes genym un gair ag sydd yn hollol gyfystyr ag "lîlegischer." Hanes y gan, yr hon ni chenir ond yn anaml allan o Germani, ydyw hyn. Cyfansoddwyd hi er coffadwriaeth am wraig Pascolati. Yr oedd y wraig hon a Pascolati wedi bod bob amser yn hynod o garedig i Beethoven ; a phan y cymerodd angen hi i ffordd yn y flwyddyn 1811 nis gallai ddangos ei alar ar ei hol a'i barch iddi yn well na thrwy y gan hon. Mae yn anhawdd, ac yn llawn o. bob amrywiaeth o deimladau tyner a galarus; ond yr oedd y pedwara'i canodd yma wedi ei hastudio mordda fel nas gadawyd un meddwl heb ei ddwyn allan, Y nesaf oedd Concerto i'r piano gan Herr Halle; ac yma