Skip to main content

Y CERDDOE CTMEEIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 126. AWST 1, 1871. Pris 2g.—gydcCr post, 2£c. AT BIN GOHEBWYE. -£j/ttw ddiolehgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ceeddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu cyn yr 20/ecl o'r mis, yn syml fel hyn :—Rev. J. Roberts, Fron, Carnarvon. CrNJMWYelAD. TUDAL. Cymanfa Ddirwestol a Cherddorol Gwent a Morganwg .. 57 Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Ardudwy ...... 59 Undeb Cerddarol Gyfeiliog .......... 60 Cynghorfa Cerddoriaeth Genedlaethol yr ünol Daleithiau 60 Llundain ...... ..'........ 61 At ein Gohebwyr .. ............ 62 Ystaf ell yr Hen Alawon ............. 62 Ystorm Tiberias ............... 62 Cronicl Cerddorol ., ............ 62 CYMANFA DDIEWESTOL A CHEEDD- OEOL GWENT A MOEGANWG. Y mab cyfarfodydd y gymanfa uchod, am y flwyddyn hon, bellach, ymysg y pethau a fu. Buasai hyny yn beth anhapus i ni oni bai ein bod mewn gobaith o gael cyfar- fodydd cyffelyb y flwyddyu ddyfodol. Nid gwledd am unwaith yn unig ydyw, ond cyfarfod blynyddol. Dydd Llun, Mehefin 26ain, cynhaliwyd y cyfarfod yn y Music Hall, Caerdydd; a golygfa ardderchog iawn ydoedd canfod y gynulleidfa anferth oedd yn y lle. Yr oedd pob cong'l o'r neuadd eang w e li ei feddianu, a lliaws yn gor- fod troi ymaith yn siomedig. Nifer y corau, ynghyda'u harweinwyr, ydynt fel y canlyn :—Dowlais, 78, Mr. R. Rees fEos Morlais); Gwent,*85, Mr. David Evans; Pontypridd, 70, Mr. H. Mills (Tafonwy); Pentyrch, 58, Mr. John Davies; Tredegar, 72, Mr. John Evans; Dinas, 73, Mr. Richard Evans; Llantrisant, 65, Mr. Thos. Davies; Docks Caerdydd, 55, Mr. T. Williams (Kos Glan Taf); Taffs-well, 55, Mr. Thos. Thomas ; Canton, 58, Jacob Davies (A.Farfog); Tonyrefail, 45, Mr. Thos. Lewis; Mountain Ash, 50, Mr. James Jarnes; Llanilltyd, Fardre, 52, Mr. Thos. Williams; Garth Maesteg, 49, Mr. D. Williams (D. Glan Llyfnwy); Maesteg, 62, Mr. Thos. Lewis (Cerddor Glas); Casbach, 48, M. G. Rick- ards. Cyfanswm 973. Ar yr esgynlawr yn ystod y dydd yr oedd y boneddigion canlynol:—Parchn. D. Howells (Llawdden) Ficer St. John's; J. W. Morris, curad; Frank Jones, B.A., curad; J. Prothero, capelwr y carchar; B. Evans, curad, Cymer; W. Evans, M.A., Pembroke Dock; W. Davies, Llantrisant; T. Price, Llandaf ; T. C. Phillips, Mountain Ash; W. S. Davies, Caerdydd; W. Jenkins, Cadoxton; J. E. Rhys, Rhym- ney: Rees Evans, Merthyr; B. Edwards, Treheibert; W. Williams, Ystradgynlais; D. Davies, Pontrhydyfen J. P. Williams, Canton; Mri. Lloyd, Oasbach ; A. Tilly- Roath ; J. Parr; W. Watkins ; H. Chester; W. Milligan; J. Bright; a D. Lewis. I ddechreu am 10 rhoddwyd allan yr emyn, " Clodforwch Frenin nefoedd fry," gan y Parch. W. Evans, M.A., a chanwyd yr "Hen Ganfed" gan y corau i gyd. Yr oedd yma deimlad hynod trwy'r gynulleidfa, ac yr oeddym yn deall nad oedd hyn ond ernes o bethau cyffelyb i ddyfod yn ystod y dydd. Cy- merwyd y gadair gan y Parch. N. Thomas, Tabernacl. Y peth cyntaf a wnaeth oedd croesawu y corau i'r lle, ynghyda datgan ei deimlad wrth eu canfod. Yr oedd yn coíio am y gymanfa, fu yn nghapel Bethany, pan yr oedd yr enwog Ieuan Gwyllt yn llywyddu. Y mae lliaws we'dì ein gadael oddiar y pryd hwnw, ond y mae eraill wedi cyfodi yn eu lle. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng y corau a'r gynulleidfa yn bresenol i'r hyn ydoedd y pryd hwnw. Y mae Bethany wedi ei ail adeiladu oddiar hyny, ac yn Uawer iawn eangach ; ond nid oedd Bethany yn ddini i ddal y gynulleidfa oedd o'i flaen. Yr oedd hyn yn eglur ddangos fod y gymanfa yn fyw, ac yn myned rhagddi—fod cerddoriaeth yn brysur yn agoshau i'w safle briodol, ac yn cael y sylw yr oedd yn ei deilyngu. Amlygid hefyd fod dirwest erbyn hyn wedi dyfod yn allu gweledig, a dirwestwyr yn bobl sydd yn hawíio parch, yn lle bod, fel y buont unwaith, yn wrthddrychau gwawd. Fe fu adeg pan yr oedd cerddoriaeth yn benaf yn gysylltiedig â thaf'arnau. Y bechgyn mwyaf" galluog i ganu oedd y rhai a gawsant y derbyniad mwyaf mewn tafarn; ond yn awr y rnae gwedd pethau yn newid—canu yn caeí ei gysylltu a'r pethau goreu. Dylid cefnogi pob symudiad yn y cyfeiriad hwn, a dyma ámcan mawr y gymdeithas o'i dechreuad, cysylltu y canu â sobrwydd. Yna, aed yn mlaen yn y drefn ganlynol:— 'When flowers are flinging,' yn bert a naturiol, gan gor y Doeks. ' See thë Chariot at hand' (Horsley) gan gor Casbach. Lleisiau da, ac yn canu gydag yni. Niwliog ac aneglur oedd y drychfeddyliau ganddynt. ' The Vintage' (Mendelsshon) gan'gor Canton. Rhy fyr a swta ; dim dylanwad. £Malvern' (o'r Llyfr Tonau Cynulleidfaol) ganyrholl gorau, o dan arweiniad Mr. David Rosser, Aberdar, gyda nerth a dylanwad anorchfygol. , ' Haleluia,'' Amen,' ('Judas,' Handel) gan gor Dinas. Lleisiau clir a da, ac yn canu mewn amser, ond dim dy- lanwad; gormod o gelfyddyd, a rhy fach o ysbryd a meddwl. Cafwyd ' Yr Alarch ' (R. Stephen) gan gor Tonyrefail, mewn arddull dymunol, gydag ol llafur i roddi allan syniadau y darn. Cor Maesteg—'Dymuniad am gladdu meddwdod' (Cerddor Glas, sef yr arweinydd). Dernyn trwm, yn rhedeg yn bur uchel mewn manau. Rhy galed i'r cor. ' Y Fordaith' (Mehdelsshon) gan gor Llantrisant. Er fod y cor hwn wedi newid o ran ei aelodau, yr oeddynt