Skip to main content

T CERDDOR CYMBEIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y CENEDL Rhif. 125. GORPHENAF 1, 1871. Pris 2g.—gydaìr post, 2£c. AT EIN GOHEBWYB,. -Syddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ceeddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu tyn yr 20/ed o'r mis, yn syml' fel hyn :—Èev. J. Boberts, Fron, Carnanon. CYNNWYSIAD. TUDAL. Cyfres o Cyfarfodydd Canu Cynulleidfaol ...... 49 Geiriadur y Cerddor...............51 Bwrdd y Golygydd .. ............ 52 Caniadaeth Gynulleidfaol'yr Eglwys Rydd...... 52 Arholiad Cymdeithas y Celfyddydau .. .. ... .. 53 Cronicl Cerddorol............ .. 54 Amrywion ................ 55 CYFEE'S 0 GYFAPFODYDD CANU * CYNÜLLEIDFAOL. Gti>a hyfrydwch mawr yr ydym yn edrych ar ffurfiad undebau neu ddosbarthiadau yn ngwahanol barthau y wlad gyda golwg ar ddiwygio caniadaeth gynulleidfaol. Mae yn ddiamheu fod yr ymdrechion a wnaed yn y wedd hon wedi gwneyd llawer o ddaioni eisoes; ac y mae eto doraeth mawr o ifrwyth heb ei fedi. Cawsom gyfleustra i fod yn bresenol, ac i arwain y canu, mewn nifer o gyfarfodydd undebol neu ddosbarthiadol yn ystod y mis diweddaf; a chawsom eìn lloni yn fawr wrth weled y llafur oedd mewn cysylltiad a phob un o honynt. Y lle y cawsom y cyfarfod cyntaf oedd— Corwen. Cyuhelid y cyfarfod hwn yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd, dydd Mawrth, Mai 30, am 1 a 5 o'r gloch. Yr oedd nifer fawr o gynulleidfaoedd yn cael eu cyn- rychioli yn y cyfarfod. iTn y cyfarfod cyntaf, canwyd y Tonau—Llangoedmor, Beulah, Eidduned, St. Mary,- Luther, Hosanna, Talybont, Psalm-Don (Ps. 46), a Per- erin. Nid oedd y cyfarfod hwn yn hollol y peth a ddis- gwyliasem o ran canu nac o ran cynulleidfa. Yr oedd y gynulleidfa yn rhy fechan, ac nid oedd y canu, ar y cyfan, yn arddangos y llafur a ddylasai fod ar gyfer y cyfarfod. Yn nghyfarfod yr hwyr, canwyd y Tonau canlynol—Trefdeyrn, Llanddowror, Lirerpool, Twr- gwyn, Esther, Ardudwy, yr Anthem " Arglwydd chwil- iaist" (o'r Cerddor), a Llangristiolus. Yr oedd y gynulleidfa yn y cyfarfod hwn yn llawer lluosocach, a'r canu yn llawer iawn gwell. Dechreuwyd gyda'r hen Don Trefdeyrn mewn ysbryd rhagorol, a chanwyd y tonau eraill yn ddieithriadyn dda, a rhai o honynt yn dra rhag- orol. Yr ail dro, cafwyd canu da, tyner, ac effeithiol ar Llangristiolus; ac yr oedd Esther ac Ardudwy yn myned yn dra hyfryd. Dan yr amgylchiadau, cafwyd datganiad canmoladwy o'r hen Anthem hefyd. Cynyrchodd.deiml- ad dwys'; gwelid llawer o ruddiau gwlybion panyr oedd yn cael ei chanu. Yr oedd fod yr anthem hon yn cael ei chanu mor dda, pryd yr oedd rhai o'r Tonau yn y prydnawn wedi eu canu mor wael yn arwyddo i ni fod rhy ychydig o lafur yn y cymydogaethau hyn gyda chaniadaeth grefyddol gynuUeidfaol. Yr oedd rhai o'r Tonau heb eu dysgu gan rai, ac yr oedd rhy ychydig o ymarferiad wedi bod ar yr Hymnau gan lawer. Yr ydym yn teimlo y diffyg diweddaf hwn yn y rhan fwyaf o leoédd. Dichon y cenir y Don yn dda ar y penill cyntaf, ond y mae y canu yn myned yn sw.n gwag, diystyr, a difywyd ar y penillion eraill. Dylid addef, ar yr un pryd, fod yn y dosbarth hwn nifer o gyfeillion ag sydd yn llafurio yn ddiwyd a dyfalbarhaol gyda chaniadaeth; a bod eu hym- drechion wedi bod yn llwyddianus i ddwyn gwedd newydd ar gerddoriaeth gysegredig yn y wlad. Cafwyd sylwadau rhagorol gan y Parch. W. Williams, Mr. E. H. Prit- chard, Bala, Mr. C. Lloyd, Llanfihangel,. ac eraill. Dranoeth yr oeidym yn— Llanblidan. Ni chafẅyd dim canu yn y lle hwn ; ond treuliwyd y dydd, o 1 o'r gloch prydnawn hyd yn agos i 10 y nos, i arholi ymgeiswyr am y Tystysgrifau yn y Tonic 8ol-ffa. Yr oedd yma oí llafur mawr; ac wrth ystyried fod nifer luosog o'r parthau hyn wedi cymeryd Tystysgrifau yn ddiweddar gan Mr. Roberts, Liverpool, yr oedd y nifer a basiodd yn gredyd nid bychan i'r athrawon a'r disgybl- ion. Dranoeth, Meh. 1, yr oeddym yn— Rhuthtn. Am 10, cafwyd cyfarfod gyda nîfer o ymgeiswyr am Dystysgrifau yn y Tonic Sol-ffa. Yr ydym yn deall fod yn perthyn i'r dosbarth hwn 16 o ysgolion; ac y mae gradd- au helaeth o lafur wedi bod gyda cherddoriaeth grefyddol yn y gwahanol ardaloedd. Y mae lluaws mawr wedi derbyn y ddwy dystysgrif gyntaf; ac y mae ol hyny yn amlwg ar ganu y gwahanol gynuíleidfaoedd. Yr oeddid wedi darparu ar gyfer y gymanfà hon trwy argraffu y Tonau (yn Nodianty Sol-ffa) a'r Hymnau gyda'u giiydd, a thrwy ranu y dosbarth yn bedair rhan, a rhoddi gofal pob rhan ar un cymwys i ofalu am dano, Yr oedd y canu yn 'canmol y cynllun a'r darpariadau. Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd; ar yr ydym yn meddwl yn sicr mai llawer iawn gwell ydyw cynal y cyfarfodydd hyn. hyd y gellir, mewn addoldai, yn hytrach nag mewn cestyll neu yn yr awyr agored. Dichon y ceirmwy o ryw fath o arddang- osiad yn yr awyr agored ; ond y mae yn sicr y ceir canu —ac yn enwedig canu crefyddol, gwell yn yr addoldy. Y