Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR CTMEEIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY■; GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, GORAU, AG UNDEBAU GERDDOROL Y GENEDL Rhif. 124. MEHEFIN 1, 1871. Pjris 2g.—gyddr post, 2^-c. AT EIN GOHEBWYR. -Byddwn ddiolehgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cebddoh gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ameucyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Boberts, Fron, Carnarvon. CYNNWYSIAD. TUDAL. Marwolaethau................ 41 Llundain ...... ..'..'...... 42 Undeb Cerddorol Dirwestwyr Eryri .. .. .. • • 42 Hedyddion Glasgow............ • • 43 Congl yr Efrydydd Ieuanc............. 43 Geiriadur y Cerddor.............. 44 Beimiadaeth Aberhonddu .. .. ........ 45 Amrywion................. 45 Cronicl Cerddorol............ .. 46 MAEWOLAETHAÜ. Y mab genym heddyw eto i gofnodi niarwolaeth dau o brif gerddorion y byd, nid amgen M. Thalberg, y pian- ydd, a M. Auber, y cyfansoddwr—y naill y chwareuydd galluocaf yn ei oes ar y piano, a'r llall yr olaf o gewri cerddorol yr oes a aeth heibio. SlGISMUND THALBERG. Mab ydoedd Sigismund Thalberg i CountDietrichstein, ystafellydd y llys Awstriaidd; aganwydef yn Geneva Ion. 7, 1812. Pan yn ieuanc, cymerwyd ef i Vienna; a rhoddwyd ef dan ofal Hurnmel i ddysgu y piano, a Sechter i ddysgu cyfansoddiad. Dywed Fetis, mae yn wir, fod Thalberg ei hun yn gwadu hyn ; ond ymddengys fod profion digonol fod hyn yn gywir. Pan tuag 16 oed, yr oedd yn tynu sylw fel chwareuydd anarferol ar y piano a chyhoeddodd ei gyfansoddiad cyntaf. Amrywiadau i'r piano ar destynau o "Euryanthe" oedd ei waith cyntaf, amrywiadau ar alaw Ysgotaidd oedd ei ail waith, ac amrywiadau ar destynau o "Warchae Corinth " oedd ei drydydd gwaith. Cyhoeddwyd y rhai hyn yn Vienna yn y flwyddyn 1828. Yn 1830, efe a gymerodd gyfres o deithiau i wahanol wledydd i roddi cyngherddau ; ac yn ttysg lleoedd eraill, efe a ddaeth drosodd i Lundain. Yr oedd ei glod yn llenwi y papyrau tra y bu yno, a'i gy- iigherddau bob amser yn orlawn ac yn frwdfrydig. Yn fuan ar ol hyny, pennodwyd ef yn ystafell gerddor i ymerawdwr Awstria. O'r adeg hono hyd y flwyddyn 1855, bu yn teithio y byd, ar hyd Ewrop, America, Brazil, a gweledydd eraill, yn rhoddi cyngherddau; ac i ba le bynag yr elai, yr oedd ei ddull yn chwareu, neu yn hytrach yn "canu" ar y piano, yn tynu sylw, canmol- iaeth, ac efelychiad; ac wedi ei glywed unwaith, yr oedd yn amhosibl ei anghofio. Yn 1845, efe a briododd ferch i'r canwr enwog Lablache ; ac wedi dychwelyd o'i deithiau yn 1855, efe a breswyliai naill ai yn Paris neu yn Itali. Cyfansoddodd rai operas ; ond yn fethiant y trodd pob un o honynt. Y mae ei enwogrwydd yn gorphwys yn hollol ar ei ddull yn chwareu y piano. Ysgrifenodd lawer i'r offeryn hwnw; ond ei amrywiadau ymddangosiadus ar feddylddrychau pobl eraill á geidw ei enw mewn coffadwriaeth. Yr oedd yn hoff iawn o weithio ar alawon goreu Rossinî, a Meyerbeer, ac ar alawon cenedlaethol pob gwlad. Bydd ei drefniad o "Home, sweet home " yn hir mewn bri. Ymddengys hefyd y byddai yn mabwysiadu cryn lawer hyd yn nod o ararywiadau a threfniadau pobl eraill. Hebíaw y nifer faẅr o " Efrydiaethau " ar y piano, gadawodd un Ilyfr ar ei oí ag sydd yn agoriad cyflawn ar ei holl syniad- au, dan yr enw, 4' Y Gelfyddyd o ganu ar y Piano-forte." Ychydig iawn oedd ei allu i gynyrchu cyfansoddiadau gwreiddiol. Addurno y byddai, ac nid creu. Daeth i gael edrych arno fel arweinydd ysgol newydd o chwareu ei hoff offeryn ; a bydd ei ddylanwad yn cael ei deimlo yn hir yn y cyfeiriad hwn. Casglodd lawer iawn o gyfoeth trwy ei gyngherddau a'i gyfansoddiadau. Ba farw yn Naples er ys ychydig o wythnosau yn ol, ar ol afiechyd byr. Er ei fod, fel y gwelir, heb gyrhaeddyd 60 oed, nid ydyw yr haen ieuangaf o'r oes bresenol yn gwybod ond ychydig am dano, oddigerth trwy hanes, oherwydd iddo ymneillduo o'r cyhoedd mor gynar, Auber. Yn marwolaeth y cefddor enwog hwn ymadawodd y diweddaf o'r rhestr alluog o geiddorion a fuant yn cyd- oesi am flynyddoedd yn Ëwrop, nid amgen Mendelssohn, Meyerbeer, Eossini, ac Auber, yn gysylltiedig a Beet- horen, Cherubini, a Spohr; ac ymddengys nad oes yn Ewrop ar hyn o bryd neb sydd yn gymhwys i wisgo eu mantell. Ganwyd Daniel Francois Esprit Auber yn Caën, Ion. 1782, pryd yr oedd ei rieni ar daith i Normandy. Bwr- iadwyd ef gan ei rieni i fod yn fasnachwr; a threuliodd ychydig o amser mewn cyfrifdy yn Llundain ; ond yr oedd ei dad yn caniatau iddo roi rhyw gymaint o'i amser hamddenol at gerddoriaeth. Trwynad oedd ganddo ddim archwaeth at fasnach, a thrwy i'w dad golli ei fedd- ianau yn y Chwyldroad Ffrengig, trodd Auber ei sylw at gerddoriaeth fel prif orchwyl ei fywyd. Derbyniodd ei addysg ar y cyntaf gan un Ladurner ; ond wedi hyny aeth trwy gwrs helaeth a chyfiawn gyda Cherubini. Treiodd ei law pan yn ieuanc ar lawer math o gyfan- soddiadau, ac ymddengys iddo ysgrifenu llawer y pryd hwnw. Rhoddodd gynyg amryw droion hefyd ar operas