Skip to main content

CEEDDOE CYMEEIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANÀETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIC DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 122. EBRILL 1, 1871. Pkis 2g.—gyddr post, 2£c. AT EIN GOHEBWYB. -Byddwn ddialchgar o» bydd i bob gohebiaeth i'r Ceeddob gael ei hanfon i ni, ifod mewn îlaw ar neu eyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn :—Rev. J. Roberts, Fron, Carnarvon. CYNNWYSIAD. TUDÀD. Mendelssohn yn Mhalas Buckingham........ 25 Eisteddfod y Drill Hall ............ 25 Undeb Cerddorol Dirwestwyr Eryri ac Ardudwy .. .. 26 Undeb Cerddorol Dirwestwyr Ardudwy ...... 26 Undeb Canu Cynulleidfaol y Methodistiaid Callinaidd Arfon 27 Llnndain ......' .......... 27 Y Wasg Gerddorol .. .. .........'.. 28 Congl yr Efrydydd Ieuanc............ 28 Bwrdd y Golygydd............ ... 28 Ystafell yr Hen Alawon .. .. ........ 29 Amry wion ................ 80 Cronicl Cerddorol............ ..80 MENDELSSOHN YN MHALAS BUCKINGHAM. Y mab mab Mendelssohn wedi cyhoeddi y llythyr can- lynol o eiddo ei dad yn un o bapyrau Germani:— " Yr oedd y Tywysog Albert wedi ceisio genyf fyned ato ddydd Saäwrn, am ddau o'r gloch, fel y gallwn roddi prawf ar ei organ cyn ymadael o Loegr. Cefais ef ei hunan, ac fel yr oeddym yn siarad a'n gilydd, daeth y Frenhines i mewn, wedi gwisgo mewn gwisg foreuol blaen. Dywedat ei bod yn myned i Claremont yn mhen awr, ac ynayn sydyn dywedai—" Yn enw'r daioni, y fath anhrefn!" oherwydd yr oedd y gwynt wedi chwythu pob peth ar draws eu.gilydd yn yr ystafell, ac wedi gwasgar dalenau o gerddoriaeth ar hyd pedalau yr organ. Gyda'i bod wedi dweyd y gair, yr oedd ar ei gliniau yn codi y papyrau i fyny, cynorthwyodd y Tywysog hi, ac nid oedd- wn inau yn segur. Yna dechreuodd y Tywysog egluro ŷ stops i mi, a dechreuodd hithau osod pethau mewn trefn. Dyrounais ar y Tywysog chwareu rhywbeth i mi, fel y gallwn ymffrostio o hyny pan ddeuwn i'r Almaen. Chwareuodd yntau Goral oddiar ei gof, gyda'r pedalau, yn y fath fodd ag a fuasai yn gredyd i unrhyw broffeswr, a píian orphenodd y Frenhines a'i gwaith, hi a ddaeth ac a eisteddodd yn ei ymyl. Yna daeth fy nhro inau. a dechreuais y gydgan o St. Pauî, " How lovely are the messengers." Cyn i mi fyned dros yr adnod gyntaf, yr oedd y ddau wedi ymuno i ganu yn y gydgan, a'r Ty- wysog ar yr un pryd yn trin y stops gyda'r fath fedr— yn gyntafjẅíe, wrth y forte yr organ fawr, wrth D fwyaf y cwbl, yna efe a wnaeth dimmuendo prydferth gyda'r stops, ac felly yn y blaen hyd ddiwedd y darn, a'r cwbl oddiar ei goí'; yr oeddwn i wedi fy swyno. Gofynai y Frenhines i mi a oeddwn wedi ysgrifenu caneuon new- yddion yn ddiweddar, a dywedodd ei bod hi yh hoff iawn o'r rhai oeddwn wedi eu cyhoeddi. " Chwi a ddylech ganu un iddo," ebai y Tywysog Albert; âc ar ol crefu ychydig arni, dywedai y canai y " Fruhlingshed " yn B leddf - "os ydy w yma," ebai wedi hyny, "oherwydd ymae fy ngherddoriaeth i gyd wedi eu pacio i fyny i fyned i Claremont." Aeth y Tywysog Albert i edrych, ond dy- chwelodd gan ddweyd ei fod wedi ei bacio. " Rhaid i mi anfon am Lady------," ebai hi, " i chwilio." Aeth y morwynion i agor y papyrau a'r Frenhines gyda hwynt; a phan oedd hi yn absenol, dywedai y Tywysog wrthyf, " Y mae hi yn dymuno arnoch gymeryd yr anrheg hon," a rhoddodd i mì gistan fechan. ac ynddi fodrwy hardd, ac arni yn gerfiedig, "V. R. 184:2." Yna daeth y Fren- hines i mewn, a dy wedodd, " Y mae Lady------wedi myned, ac wedi cymeryd fy mhethau i gyd gyda hi. Y mae hyn yn beth blin iawn." Nis gellwch gredu mor ddifyr oedd genyf weled yr olygfa. Yna mi a ddymunáis na byddai i mi gael dioddef oblegyd yr anffawd hon, a'm bod yn gobeithio y canai hi rywbeth arall i mi. Ar ol ymgynghori ä'r Tywysog, dywedodd ef—" Y mae yn mynert i ganu i chwi gan o waith Gluck." Yn y cyfamser, yr oedd Tywysoges Gotha wedi dyfod i fewn, ac ni a aeth- om, bump o honom, trwy wahanol ystafelloedd i eistedd- ystafell y Frenhines, lle yr oedd lluaws o ddarluniau ar y muriau, llyfrau wedi ea rhwymo yn addurniadol ar y bwrdd, a cherddoriaeth ar y píano. Daeth Duces Kent i fewn hefyd, a thra yr oeddynt hwy yn siarad a'u gil- ydd, dechreuais inau droi y gerddoriaeth, ac wrth droi mi gefais fy set o ganeuon. Ac felly, wrth gwrs, mi a geisiais ganddi ganu i mi un o'r rhai hyny, yn hytrach na'r gau o eiddo Gluck; a pha un, feddyíiech chwi, a ddewisodd hi?—"Schöner und Schòner schonuekt sich." Canodd hi yn swynol, mewn amser a thon hollol gywir, a chyda mynegiant da, Yn y He y mae yn myn- eä i lawr i D, pa fodd bynag, ac yn esgyn trwy haner tonau, yr oedd yn canu D lon bob tro, a D y tro diweddaf lle y dylasai fod D lon. Gyda'r eithriaä bychan hwn, yr oedd mewn gwirionedd yn swynol, ac ni chlywais y G hir ddiweddaf erioed yn well, nac yn burach, nac yn fwy naturiol gan neb heb fod yn proffesu cerddoriaeth. EISTEDDFOD Y DEILL HALL, Llun Nadolig, 1870. Canig.—" Glany Nant." Dbebtniwyd wyth o gyfansoddiadau, yn dwyn y ffug- enwau Pink, Ger y Mynydd, Naturiol, Hongoin, Romeo, Short and Sweet, Fidelio, a Fra Diavolo. Mae yma amryw ganigau gwych. Nid yw y geiriau, hwyrach, yn gyfryw ag y gellid dysgwyl y dwfn a'r pell •ddiwrthynt, o'nd yn hytrach y tlws a'r swynol; a hyny