Skip to main content

CEEDDOE CYMEEIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF CERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 121. MAWRTH 1, 1871. Pris 2g.—gydaW post, 2£c. AT BIN GOHEBWYB. -Byddwn ddiolehgar' os bydd i bob gohebiaeth i'r Oehddoe gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaio ar neu eyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn :—Bev. J. Roberts, Fron, Carnarvon. CYNNWYSIAD. TÜDAi. Y diweddar Mr. R. Roberts, Bangor ........ 17 Geiriadur y Cerddor............... 18 Congl yr Efrydydd Ieuanc ...... .. .. 19 Àt ein Gohebwyr ...... ........ 20 "YWawr".................. 20 Tysteb Ieuan Ddu.....< .....• ... 20 Cerddoriaeth yn Llundain .......... 20 Cronicl Cerddorol.............. 21 Y DIWEDDAE Mr. E. EOBEETS, BANGOE. Y mab genym heddyw y gorchwyl galarus o gofnodi ymadawiad un o gerddorion mwyaf talentog ac addawol ein cenedl, sef, Mr. Robert Robertsj organydd yr Eglwys Gadeiriol, Bangor. Yr oedd Mr. R. Roberts yn enedigol o blwyf Llande- gai. Pan o ddeutu 13 neu 14 oed, aeth i Goleg Athrawol Caernarfon. Ymgymerodd yn fuan a pharotoi ar gyfer arholiad am Ysgoìoriaeth y Frenhines, a Uwyddodd i'w henill cyn bod yn 18 oed. Parhaodd dan addysg am dair blynedd, yn ystod pa rai, y naill flwyddyn ar ol y llall, efe a lwyddodd i fyned yn anrhydeddus trwy y gwahanol arholiadau. Wedi myned trwy ei gwrs add- ysgiadol, a dyfod i gyflawn oedran, efe a dderbyniodd ei hapyrau oddiwrth y Llywodraetb fel un hoilol gyfaddas i fod yn athraw, a chafodd dystysgrif uchelradd. Ond oherwydd ei dalent anarferol, ei ddyfalbarhad a'i weith- garwch, yr oedd awdurdodau y coleg yn anfoddlawn i ymadael ag ef, a phenderfynẁyd ei osod yn drydydd athraw yn y sefydliad, ac yn gynorthwywr i'r diweddar Mr. Hayden, yr athraw cerddorol. Cyn hir, hu farw Mr. Hayden, a phenodwyd yntau yn athraw yn ei le. Yn gymaint a bod Mr. Pring, organydd yr Eglwys Gadeir- iol yn Mangor, yn heneiddio ac yn myned felly yn an- alluog i gyflawni ei ddyledswyddau, gwelwyd yn angen- rheidiol dewis rhywun yn gynorthwywr iddo. Syrthiodd y coelbren ar Mr. Roberts; ac ar farwolaeth Mr. Pring, çyn hir ar ol hyny, nis gellid gweled neb yn fwy cymhwys i fod yn olynydd iddo nag ef. Cyflawnodd ddyledswyddau y ddwy swydd, fel athrawcerddorolyny Training Coîlege, Caernarfon, ac organydd yr Eglwys Gadeiriol yn Mangor, a hyny gyda chymeradwyaetn ac effeithiolrwydd mawr hyd ddydd ei farwolaeth. Teimlir chwithdod mawr arei ol gan ddynion ieuainc y Coleg; ac edrychir gyda galar dwys ar ei le gwag wrth yr organ yn Mangor. Fel organydd a chwareuydd ar y piano, yr oedd wedi cyrhaeddyd safle uchel ; ac yr oedd wedi gwneyd ei hun, o'r braidd, vn anhebgorol yn y cymeriad hwn yn Arfon ; oblegyd yr oedd wedi gadael pawb eraill gymaint o'r tn ol iddo. Gallasai fod yn fwy amlwg; ond yr oedd ei holl natur yn casau ymwthio gorraod yn mlaen. Fel chwareuydd cyfeiliant, efe fyddai y cyntaf y meddylid am dano ar unwaith, ar gyfrif ei garedigrwydd a'i siriol- deb fel dyn, yn gystal a'i fedr fel cerddor. Yr oedd yn chwarenwr medrus ar y violoncello hefyd, ac yn meddu cydnabyddiaeth eang ag offerynau eraill'. Deallwn fod yn ei fwriad ymgeisio am raddau cerddorol yn Mhrifys- gol Rhydychain; ond ar ol parotoi llawergogyfer a hyny, cafodd ei symud ymaith cyn cyrhaeddyd ei amcan. Fel cytansoddwr, yr oedd y wlad héb ei adnabod, oherwydd nad oedd wedi cyhoeddi dim o i waith, hyd y gwyddom, ond " Y Gwlithyn." Y mae pwy bynag a, fu yn astudio y Rhaà-gan dyner, brydferth hono yn rhwym o weled ar unwaith fod ynddo allu i ddyfod yn gyfan- soddwr tra rhagorol. Bu rhai o'i gyfeillion, a ninau yn eu mysg, yn gofìdio am na buasai yn cyhoeddi ychwan- eg; ond yn byn fel pob peth arall, yr oedd yn hynod o ddiymhongar, ac yn chwenych astudio yn galed, ac ym- berffeithio yn ei gelfyddyd, yn hytrach na rhuthro o flaen y cyhoedd gyda chyfansoddiadau a ystyriai yn anaddfed. Ond y mae yn sicr fod ar ei ol gyfansodd- iadau ag y byddai yn werth i'r genedl eu cael. Y mae yn perthyn i'w gantawd, " Gwarchae Harlech," lawer o deilyngdod. Deallwn ei fod wedi cyfansoddi cerddor- iaeth ar wasanaeth claddu Eglwys Loegr, a dywedir ei fod yn waith gorchestol, ond nis gwyddom pa un a ydyw ar gael ai peidio. Cyfansoddodd Anthem hefyd, yf hon a ganwyd yn ddiweddar yn yr Eglwys Gadeiriol. Nis gallwn lai nag ymuno a golygydd (Jronicl y Cymry:—" Yr ydym yn gobeithio j'r ymgymer rhywun cymwys a dwyn ei drysorau drwy y wasg, oblegyd tystiolaeth unfrydol pawb a'u gwelsant ydyw y byddant mewn gwirionedd yn gofgolofn o athrylith gerddorol eu hawdwr. Y mae lle i ofni fod llawer o gyfansoddiadau gwir werthfawr wedi myned ar ddifancoll, oherwydd ei arferiad o daro i lawr ei ddrychfeddyliau ar wahanol ddarnau o bapyr fel y deuent i'w feddwl,- a'u trysori yn ei gof—cof ag oedd yn nodedig o gryf, fel y gellir casglu oddiwrth y ffaith ei fod yn gallu chwareu llawer o weithiau anhawddaf y prif gyfansoddwyr heb gymhorth na llyfr na chopi." Fel dinesydd yr ydoedd bob amser yn barod i roddi ei wasanaeth, a hyny yn rhad i achosion daionus; a gwnaeth lawer tuag at ddyrchafu chwaeth ei gyd-ddinas* yddion. Yr oedd hynawsedd a charedigrwydä ei natur, nid yn unig yn ei gynorthwyo i fod yn ddyn defnyddiol, ond yn ei wneyd yn anwyl a hofî gan bawb a'i had- wacnai. Nid oedd yn gyfyngcdig ychwaith at gerddor-