Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEBDDOB CYMBEIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASAMETH OERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORÂU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhip. 120. CHWEFROR 1, 1871. Pris 2g.—gyäcìr post, 2£c. AT BIN" GOIL'EBWŸB,.-Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddob gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu eyn yr Wfed oW mis, yn syml fel hyn : —Èev. J. Boberts, Fron, Carnanon. CYNNWYSIAD. TUDAL. Y Graddeg Cerddorol........... .. 9 Dr. Hiller ar Beethoven............ 10 Eisteddfod Capel Afan .....'...... .. n Cérddoriaeth yn Llundain .......... 12 Marwolaeth Mr. D. Owen Roberts, Capel Curig .. .. 12 Marwolaeth Mr. Stephén Glover....... .. ... 13 Cénedl neu Byw Geiriau Cerddorol .. .. .. .. 13 Bwrdd y Golygyíld............ .. 13 Croniol Cerddorol .... .. ...... .. 13 Amrywion ............ .. .. 14 Y GRADDEG CERDDOROL , UNWAITH ETO. Y mae Journal y Socìety of Arts wedi cyhoeddi yr atebion a gafwyd o brif ddinasoedd cerddorol y Cyfandir o bertbynas i'r Graddeg Cerddorol a fabwysiedir gan- ddynt. Yr oedd pedwar o ofyniadau wedi cael eu hanfon. 1. A oes rhyw raddeg cerddorol wedi ei sefydlu yn swyddogol ac mewn arferiad; os oes,' pa beth ydyw, a pha nifer o gryniadau y mae C yn gynrychioli? 2. Trwy ba awdurdod y mae wedi ei osod? 3. A ydyw yn orfodol; os ÿdyw, ar ba ddosbarth o gerddorion y mae felly ? Y mae sylwedd yr atebion fel y canlyn:— Baden.—Nid oes un graddeg sefydlog; ond mabwys- iedir yr eiddo Paris fel rheol gyffredin. Nid oes dim gorfodaeth ond yn unig yn chwareudai y Llys Carlsruhe a Manheira, ac yn y bands milwrol. Trwy y byddai newid y graddeg yn gosod angenrheidrwydd am brynu gwynt-offerynau newyddion, y mae pawb am beidio newid. Berlin.—Dim graddeg sefydlog; mabwysiedirgraddeg Paris gan ychydig o'r chwareudai a'r cerddorfäau. Nid oes un math o orfodaeth. Disgwylir y bydd i raddeg Paris gael ei fabwysiadu yn gyffredinol cyn hir, oblegid ei fod yn dra manteisiol i gantorion. i Bologna.—Nid oes yma un graddeg sefydlog, na gorfodaeth. Y graddeg a fabwysiedir yn y prif sefydl- iadau ydyw 887—77 o gryniadau i La, Brussels.—Nid oes graddeg sefydlog, na gorfodaeth, ond yn y bands milwrol. Yr hen raddeg, 902 o gryniadau. a arferir yn gyffredin. Y mae Dirprwyaeth Frenhinoí wedì bod yn gwneyd ymchwiliad, ac yn adrodd na fyddai un fantais o ostwng y graddeg o 902. Graddeg y chwareudy brenhinol ydyw graddeg Paris, sef 870 o gryniadau; ond ceidw y Conservatoífe Eoyale a Cherdd- orfa Cerddoriaeth Glasurol at yr hen raddeg o 902. Cologne.—Dim graddeg sefydlog na gorfodaeth, oddigerth yn nghyfarfodydd y Gymdeithas Gyngherddol. Mae y gymdeithas hono wedi mabwysiadu y graddeg Ffrengig er ys rhai blynyddoedd. Copenhagen.—Dim graddeg sefydlog na gorfodaeth. Cymerir y graddeg yn yr opera frenhinol oddiwrth ddwy hen fforch, y rhai sydd yn agos iawn i raddeg Ffrainc. Yr un raddeg sydd hefyd yn yr Ysgol Gerddorol; ond y mae A y bands milwroí tua cîiwarter ton yn uwch. Dresden.—Dim graddeg sefydlog na gorfodaeth. Mabwysiedir graddeg Ffrainc mewn tuag un o bob chwe.ch o'r capeli a'r cerddorfaoedd. Y graddeg yn y capel Brenhinol yw A = 892 o gryniadau; yn y Brif Eglwys Babaidd, cedwir at yr hen raddeg, A = 855. Florence.—Dim graddeg sefydlog na gorfodaeth; ond y graddeg. a arferir yn gyffredin ydyw yr un a Viennà. Leipsic.—Dim graddeg sefydlog na gorfodaeth. Nid oes dim awdurdod uwch nag awdurdod arferiad. Mae y graddeg a arferir yn gyffredin yn un uchel, A » o 920 i 940. Y mae gorfodaeth yn y bands milwrol, a'u graddeg hwy ydyw yr un a Dresden. Nid ydys yn gweled yn angenrheidiol newid y graddeg, oblegid byddai hyny yn gorfodi y chwareuwyr i gael offerynau pres newyddion. Milan.—Y mae yma raddeg wedi ei osod yn swydd- ogol yn y Conservatoire Brenhinol, yn y chwareudai La Scala a Canobbianna, yn yr ysgolion cerddorol sydd yn gysylltiedig â hwynt, ac yn y Gwarchodlu Cynhedl- aethol. Y graddeg ydyw yr eiddo Paris, sef, La=870. Mae y graddeg hwn yn orfodol yn y sefydliadau a nod«yd, ond nid ydyw y llywodraeth yn ymyraeth, Yr awdurdodau sydd yn gofalu am fod y graddeg gosodedig yn cael ei gadw ydyw awdurdodau y sefydliadau eu hunain. Münich.—Y mae graddeg Ffrainc wedi ei osod a'i sefydlu yn swyddogol yma; ac ni chaniateir i seinffyrch gael eu defnyddio yn Bavaria os na fyddant wedi eu cymeradwyo a'u hargraffnodi gan yr Arolygwr Cerddorol Brenhinol. Y mae cyfarwyddwyr pob sefydliadau cerddorol, a phob math o broffeswyr cerddoriaeth, yn rhwym o gadw y graddeg gosodedig, trwy holl Bavaria. A gellir dweyd fod y graddeg Pfrengig, yr hwn sydd yn fanteisiol mewn modd arbenig i gantorion, yn cael ei arferyd yn gyffredinol trwy yr holl wlad. Naples.—Dim graddeg sefydlog, na gorfodaeth. Y graddeg a arferir yn gyffredin ydyw yr un a Viennà. St. Petersbdbg.—Mae y graddeg Ffrengig wedi ei osod yma trwy uwcas. Y mae yn orfodol yn y Capel Ymerodrol, yn y chwareudai ymerodrol, yn y bands milwrol, ac yn y cyffredin yn mhob sefydliad cerddorol, ac ar bawb sydd yn gwneyd ac yn gwerthu offerynau cerdd.